Arfon ydi'r etholaeth fwyaf Cymraeg ei hiaith yng Nghymru - ac yn wir y Byd. Hyd oed pan mae yna filoedd o fyfyrwyr yn ein plith mae tua dau draean o'r boblogaeth yn siarad y Gymraeg - gyda 'r mwyafrif llethol ohonom yn ei siarad fel mamiaith. Mae pob ward sydd a mwy nag 80% o bobl yn siarad Cymraeg ynddynt ag eithrio pedair yn Arfon.
Ond fyddech chi byth yn credu hynny o ddarllen tudalen Facebook Llafur Arfon - Woking4Arfon - dydi hi ddim yn ymddangos i wneud unrhyw ddefnydd o gwbl o'r Gymraeg. Y teitl gogleisiol ydi Working For the Many, not the Few.
4 comments:
Colonialist tossers.
All in English and pretty crappy English: "The tide of change is happening". Bloody Hell.
O chwilfrydedd yn unig, "Data-naut" -
Beth yw'r enwau y wardiau 80% Cymraeg TU FAS i Arfon?
Y dair yn Llangefni a Dwyrain Porthmadog.
Post a Comment