Byddwch yn cofio i Dafydd El fentro i fyd pleidleisio tactegol y llynedd gan wneud yr awgrym gogleisiol o hurt bod pobl yn fotio i'r ail blaid (Llafur) yn hytrach na'r blaid gyntaf (Plaid Cymru) er mwyn cadw'r pedwerydd plaid (UKIP ) allan yn yr etholiad Comisiynydd Heddlu'r Gogledd. Wnaeth fawr neb gymryd sylw bryd hynny - ac os dwi'n cofio'n iawn cafodd ymgeisydd y Blaid - Arfon Jones - fwy o bleidleisiau na Dafydd El ym Meirion Dwyfor.
Trwy gyd ddigwyddiad llwyr mae ymdrech ddiweddaral Dafydd El - yng Ngorllewin Caerdydd y tro hwn - hefyd yn awgrymu bod pobl yn fotio i'r boi Llafur, Kevin Brennan y tro hwn.
1 comment:
Roeddwn wedi bod yn disgwyl y datganiad etholiadol yma ers cryn wythnos bellach. Yn wir, fydda hi ddim yn etholiad heb ebychiad o'r math hwn gan yr Arglwydd.
Ond - o mae hi'n drist gweld dyn a fu mor flaengar a gweithgar, mor amlwg ac mor uchel ei barch yn y byd gwleidyddol yng Nghymru, bellach yn llechu yn y cysgodion, ac yn chwarae rhyw hen gemau gwirion fel hyn bob tro y mae hi'n amser etholiad.
Mi fysa gen i lawer iawn fwy o barch i DET - petai o'n croesi'r llawr ac yn ymuno'n swyddogol gyda'r Blaid Lafur, fel y gwnaeth Elystan ers talwm. O leiaf, mi fysa rhywun yn gwybod wedyn ble yn union rydan ni'n sefyll wedyn.
Ond, gyda'r Blaid Lafur yn y fath stad - go brin y gwnaiff o hynny at frys.
Post a Comment