Tuesday, May 16, 2017

Cip ar yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon

Cip bach arall ar ein diddordeb bach achlysurol yng Ngogledd Iwerddon.  Gair bach o eglurhad ar y cychwyn.

Ar y sbectrwm Gwyrdd \ Oren - sy'n diffinio patrymau gwleidyddol yn y dalaith y patrwm ydi  Sinn Féin - SDLP - Alliance - UUP - DUP - o ran y prif bleidiau o leiaf.  SF ydi'r blaid fwyaf cenedlaetholgar a'r DUP ydi'r un mwyaf unoliaethol.  Hyd at Gytundeb Dydd Gwener y Groglith yr SDLP a'r UUP oedd yn dominyddu, ond wedi hynny cymerwyd yr awenau gan y ddwy blaid mwy eithafol - SF a'r DUP.  

Tyfodd y bleidlais genedlaetholgar yn gyson hyd at ddechrau'r ddegawd ddiwethaf, ond daeth y twf hwnnw i stop o tua 2001 ymlaen er bod y boblogaeth Babyddol yn tyfu'n gyson.  Newidwyd hynny yn ddisymwth yn gynharach eleni pan dynnodd SF allan o'r weinyddiaeth yn Stormont ac ymladd etholiad mwy traddodiadol nag oedd wedi ei wneud ers blynyddoedd - un gwrth unoliaethol iawn.  Tyfodd eu pleidlais yn sylweddol gan amddifadu'r unoliaethwyr o fwyafrif am y tro cyntaf yn hanes y dalaith.  Mae'r etholiad bresennol yn cael ei hymladd mewn amgylchiadau tebyg.

Beth bynnag, dyma dipyn o ddarogan.

Mae 10 yn gwbl ragweladwy:

Bydd Sinn Féin yn cadw eu seddi yn West Belfast, West Tyrone, Mid Ulster, a Newry and Armagh.

Bydd y DUP yn cadw eu seddi yn  East Derry, North Antrim, East Antrim, Lagan Valley a Strangford.

Bydd Sylvia Hermon yr unoliaethwraig annibynnol (a chymhedrol iawn) yn cadw ei sedd yn North Down.

Mae'r 8 sedd arall yn y fantol, gan gynnwys tair sedd yr SDLP.

Mae ganddynt seddi yn Foyle (dinas Derry yn bennaf), South Down a Belfast South.

Yn Belfast South cawsant eu hethol yn 2015 gyda 24.5% yn unig o'r bleidlais - mae'n etholaeth ymylol gyda phedair plaid yn y ras.  Roedd y DUP tua 600 o'u blaenau eleni gyda SF ac Alliance hefyd yn agos.  Byddwn yn disgwyl i'r bleidlais gwrth DUP drefnu ei hun mewn modd fydd yn rhoi mwyafrif i naill ai Alliance neu'r SDLP - yr ail yn ol pob tebyg, ond mae'n un anodd iawn i'w darogan.

SF sy'n eu bygwth yn y ddwy etholaeth arall.  Daeth y blaid honno o flaen yr SDLP yn y ddwy yn etholiadau Cynulliad eleni - o 2,000 yn Foyle a 6,650 yn South Down.  Mae yna leiafrif unoliaethol gweddol fawr yn y ddwy etholaeth ac mae yna hanes o bleidleisio tactegol o'r cyfeiriad hwnnw mewn etholiadau cyffredinol i gadw SF allan.  Dylai hynny fod yn ddigon i achub y sedd i'r SDLP yn Foyle, ond dydw i ddim mor siwr am South Down.  Mae SF yn fwy tebyg na pheidio o'i chipio.

Collodd SF sedd eiconig Fermanagh South Tyrone o drwch i'r UUP yn 2015 - yn rhannol oherwydd methiant cenedlaetholwyr i bleidleisio ac yn rhannol oherwydd bod y bleidlais genedlaetholgar wedi ei rhannu ddwy ffordd tra bod yr un unoliaethol yn unedig.  Gyda'r bleidlais genedlaetholgar ddeg pwynt canrannol o flaen yr un unoliaethol eleni, ddylai hynny ddim gwneud gwahaniaeth.  Mae SF yn debygol iawn o ail gipio hon.

Yr UUP sydd yn dal Antrim South, ond roedd y DUP tua 5,500 o'u blaenau ym mis Mawrth.  Mi fydd yna rhywfaint o bleidleisio tactegol gan Alliance ac efallai'r SDLP i 'r UUP, ond gyda'r unoliaethwyr yn teimlo o dan fygythiad yn gyffredinol dylai hynny fod o gymorth i'r DUP.  Dylent gipio'r sedd.

Cipiodd y DUP Belfast East gan Alliance yn 2015 - ond doedd ganddynt ddim cystadleuaeth gan yr UUP.  Dydi hynny ddim yn wir y tro hwn - mae'r UUP yn sefyll.  Serch hynny byddwn yn disgwyl i'r DUP gadw'r sedd.

Ac yn olaf y sedd Belfast olaf - ac o bosibl y fwyaf diddorol - Belfast North.  Mae'r sedd yn nwylo'r DUP, ac enillwyd y sedd ganddynt yn hawdd yn 2015.  Ond roedd pethau'n dyn iawn yn sgil yr ymchwydd yn y bleidlais genedlaetholgar ym mis Mawrth.  Un unoliaethwr fydd yn sefyll - Nigel Dodds o'r DUP a dau genedlaetholwr.  O dan amgylchiadau arferol dylai hynny wneud y gwahaniaeth a rhoi'r sedd i'r DUP.  Ond mae ymgeisyddiaeth SF yn bygwth newid hynny.  Yn hytrach na Gerry Kelly gyda'i gysylltiadau IRA clos, eu hymgeisydd y tro hwn ydi John Finucane. 

Llofruddwyd ei dad, Pat yn ei gartref yn yr etholaeth yn 1989.  Roedd Patrick Finucane yn un o gyfreithwyr mwyaf adnabyddus Gogledd Iwerddon, ac amddiffynodd ddwsinau o bobl oedd wedi eu cyhuddo o derfysgaeth.  Er iddo gael ei ladd gan derfysgwyr teyrngarol mae'n debygol  bod hynny o dan gyfarwyddyd, neu o leiaf gyda chytundeb un o asiantaethau cudd wybodaeth y DU.  Mae'r mater wedi bod yn un gwenwynig ers degawdau.  Bydd yr ymgeisyddiaeth yma yn apelio at genedlaetholwyr dosbarth canol yng Ngogledd yr etholaeth a'r un ddosbarth gweithiol oedd yn pleidleisio i Gerry Kelly yn agos at ganol y ddinas.  Roedd mathemateg mis Mawrth yn agos iawn, ond mae mwy o berygl nag erioed i'r sedd - a gallai'n hawdd syrthio.

Pen draw hyn ydi y gallai'r ochr genedlaetholgar gael mwy o bleidleisiau na'r un unoliaethol (yn arbennig os oes pleidleisio tactegol sylweddol i'r SDLP yn Foyle a South Down), ac y gallai hefyd gael hanner y seddi.  Petai hynny'n digwydd byddai'n arwain at argyfwng yn y teulu unoliaethol - a gallai hynny arwain at ail strwythuro gwleidyddiaeth unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon.


No comments: