Mae etholiad mis nesaf am fod yn wahanol i'r rhan fwyaf - wele un neu ddau o sylwadau cychwynol.
2). Er gwaethaf hynny mae'r Blaid Lafur Gymreig yn teimlo'r angen i roi pellter rhyngddyn nhw eu hunain a'r Blaid Lafur Brydeinig. I'r perwyl hwn maent wedi cyhoeddi maniffesto Cymreig. Ymarferiad cosmetig ydi hyn oll - mae aelodau seneddol Llafur o Gymru yn ymddwyn yn union fel rhai o weddill y DU pan maent yn San Steffan - hyd yn oed pan mae hynny'n groes i ddymuniad eu haelodau Cynulliad yng Nghaerdydd.
3). Mae'r etholiad yn cael ei hymladd ar sail cwbl ffug - o safbwynt y Toriaid o leiaf. Dydi'r honiad bod pob pleidlais mae plaid May yn ei gael yn cryfhau ei llaw wrth ddelio efo gweddill Ewrop yn gwbl ddi ystyr. Dydi maint cefnogaeth i lywodraeth ddim yn effeithio ar drafodaethau rhyngwladol.
4). Mae'n dra thebygol y bydd y gyfradd pleidleisio yn isel. Dyna sydd yn tueddu i ddigwydd pan mae yna nifer o etholiadau / refferenda yn dilyn ei gilydd a dyna sy'n digwydd hefyd pan mae yna ganfyddiad bod yr etholiad eisoes wedi ei phenderfynu. Mae'r ddau ffactor ar waith yma. Gall cyfraddau pleidleisio isel arwain at ganlyniadau unigol anisgwyl a dylai hefyd lywio strategaethau pleidiau - gall sicrhau bod y bleidlais graidd yn pleidleisio arwain at lwyddiant pan na fyddai'n ddigon fel rheol.
5). Er gwaetha'r ffaith bod y Toriaid wedi symud i'r Dde, dydi hi ddim yn ymddangos eu bod yn colli pleidleisiau i'r Dib Lems i'r Chwith - dydi'r polau ddim yn awgrymu y bydd y blaid honno'n gwneud dim gwell na'u perfformiad trychinebus yn 2015. Mae hyn gyda llaw yn gwneud Ceredigion yn fwy diddorol na byddai llawer ohonom wedi disgwyl. Er i Geredigion bleidleisio i aros yn yr UE, pleidleisio i afael wnaeth De'r Sir - lle mae pleidlais Mark Williams gryfaf. Gallai rhai o'i bleidleisiau wneud eu ffordd i gorlan y Toriaid - a gallai hynny yn ei dro gynnig cyfle i'r Blaid.
6). Mae etholiadau lleol yn wahanol iawn i etholiadau San Steffan, ond rhaid cydnabod i Lafur wneud yn well na'r disgwyl tros lawer o'r wlad. Serch hynny mae'n werth nodi i'r Blaid ddod o flaen pob plaid arall mewn nifer o etholaethau - Ynys Mon, Arfon, Dwyfor Meirion, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr, Castell Nedd, Rhondda, Caerffili a Gorllewin Caerdydd. Mae'r olaf yn dibynu ar sut rydym yn cyfri.
3 comments:
Ac yn ol fy mathamateg curo Llafur yng Nghaerffili.
Cyngor call iawn. Gwerth ymladd am bob pleidlais i'r Blaid.
Ia, dwi'n meddwl bod hynny'n gywir. Mi ychwanegaf Caerffili.
Post a Comment