Erbyn meddwl mae'n debyg mai'r rheswm am hynny ydi nad oedd yna bleidlais am godiad cyflog o £3,000. Roedd yna fodd bynnag bleidlais i dderbyn argymhellion gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd yn cynnwys cyfeiriad at godiad cyflog o £100 y flwyddyn i gynghorwyr cyffredin - cynnydd o £13,300 i £13,400, codiad o tua 0.7%. Gan bod chwyddiant ar hyn o bryd yn 2.7%, golyga hyn gwymp cyflog mewn termau real o 2%.
Roedd yna hefyd bleidlais yn erbyn gwelliant (gan Sion Jones, unig aelod Llafur y cyngor bellach) oedd yn argymell toriad cyflog o tua £3,000 i aelodau cabinet o gymharu a'r trefniadau blaenorol - trwy eu symud o un lefel cyflog i un arall. Nid oedd gan yr aelodau Annibynnol, Llais Gwynedd, Llafur na Lib Dems unrhyw obaith o gael lle ar y cabinet - felly roeddynt mewn gwirionedd yn pleidleisio i dorri cyflogau eu gelynion gwleidyddol, tra'n osgoi unrhyw doriad eu hunain. Dwi ddim yn cofio cynnig o ostyngiad cyffelyb yng nghyflogau cadeiryddion pwyllgorau - safleoedd sydd yn agored i aelodau o pob grwp, ac nid y grwp sy'n rheoli yn unig.
Mae'r aelodau o'r wrthblaid a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig i dderbyn argymhellion y bwrdd yn gwbl rhydd i ddychwelyd y £100 blynyddol, neu unrhyw gyfran eraill o'u cyflogau. Bydd yn ddiddorol gweld faint o aelodau'r gwrthbleidiau sy'n teimlo'n ddigon cryf am y mater i wrthod cymryd eu £100 y flwyddyn.
Mae Sion hefyd yn cyfeirio at y mater yn ei dudalen gweplyfr - ond mae ei gyfeiriad ychydig yn fwy cywir nag un Gwyndaf. Mae Sion wrth gwrs - yn wahanol i Gwyndaf - yn agored i gamau disgyblu o dan god ymarfer cynghorwyr os yw'n dweud celwydd am bobl eraill.
Beth bynnag mae ganddo ddau gyfeiriad - yn y cyntaf mae'n cwyno nad ydi'r Daily Post yn rhedeg stori am y cyngor yn gwrthod ei gynnig i dorri cyflogau aelodau cabinet.
Petai'r Daily Post yn rhedeg straeon am gynghorau ddim yn torri cyflogau cynghorwyr neu aelodau cabinet, dyna'r unig straeon y byddant yn ei rhedeg. Mae yna 22 cyngor yng Nghymru gyda chyfran uchel ohonynt yn cael eu rheoli'n llwyr neu'n rhannol gan Lafur. 'Dydw i heb glywed am yr un o'r rheiny'n torri cyflogau, a dydw i heb glywed Sion - nag yn wir Gwyndaf - yn galw arnynt i wneud hynny.
Mae hefyd yn nodi ei fod o'n fodlon cymryd toriad - er nad ydi'r tebygrwydd y bydd yn cael ei hun ar y cabinet yn uchel - a dweud y lleiaf.
Yn yr ail mae'n cwyno bod pobl wedi cywiro'r camargraff.
Beth bynnag os ydi'r grwp annibynnol o ddifri eisiau arbed pres i'r cyngor mae yna ffyrdd llawer mwy effeithiol o wneud hynny. Mae yna 75 aelod ar Gyngor Gwynedd (gydag argymhelliad gan y Comisiwn Etholiadol i'w dorri i 67 erbyn 2022). 60 Aelod Cynulliad sydd yna - er bod hwnnw'n gweithredu tros Gymru gyfan, a 30 aelod sydd gan Ynys Mon - sydd a bod yn deg efo poblogaeth is nag un Gwynedd. Byddai toriad yn y nifer o gynghorwyr yng Ngwynedd i - dyweder - 40 yn arbed pres sylweddol yn hytrach na manion i'r cyngor. Byddai hynny'n hen ddigon i wneud y gwaith.
Felly beth amdani bois? Beth am gynnig bod y cyngor yn argymell toriad yn nifer y cynghorwyr sy'n eistedd arno i 40?
A bu distawrydd.
7 comments:
Gwleidyddiaeth,afiach,atgas a chelwyddog.Mae'r graff celwyddog yna sydd yn cael ei rannu ar Facebook yn dangos pleidlais o blaid neu yn erbyn codiad o £3,000 yn gelwyddog i'r pwynt y dylai unrhyw cynghorydd sydd yn gysylltiedig iddo gael camau disgyblu yn ei erbyn.Dwi yn sylwi,serch hynny mai selogion beth sydd yn weddill o blaid Lafur Arfon sydd yn codi llawer o'r stŵr,a dylsai rhuwin ddim disgwyl ddim gwahannol ganddyn nhw.
Dewch laen, y gwir amdani ac fe ellir gweld hynny'n glir o'r we ddarllediad, fe gymerdwywyd argymhelliad i godi tal Cynghorwyr - do! Mae'r Cyngor wedi pleidleisio O BLAID codi tal aelodau Cabinet o 26k i 29k. Mae hwn yn godiad sylweddol sut bynnag edrychwch arni. Cynghorwyr yw aelodau'r Cabinet sydd wedi cael eu hethol i gynrychioli diddordebau trigolion y Sir a'r ethowlyr. Nid oes unrhyw fath o godiad cyflod wedi bod mewn cyflogau yn unrhyw sector dros 8 mlynedd. Cewch, fe gewch ddadla fod cyfloga wedi cynyddu 1% yn fan hyn a fan draw ond mae yr hyn rydych wedi pleidleisio ar gyfer tal aelodau'r cabinet yn godiad o oddeutu 11.1%. Hael iawn os cai ddweud! Does gan yr sawl oeddo blaid ddim cydwybod o gwbl ac maent mor bell o reality sefyllfaoedd nifer o deuluoedd, uniglion bregus ac hyd yn oed pobl sydd yn yndrechu i ymdopi gyda costau byw. Gwirfoddoli oedd cynghorwyr yn yr oes a fu - a fyddech chi Mr Larsen, ac eraill, wedi rhoi eich hun ymlaen fel cynghorydd pe tai felly fyddai'r sefyllfa heddiw? Go brin!
Mae'aelodau'r cabinet gan punt y flwyddyn yn uwch nag oedd llynedd - yn union fel mae cyflog pob cynghorydd £100 yn uwch. Mae hyn yn gynydd o 0.7% i gynghorydd cyffredin a 0.3% i aelod cabinet. Mae chwyddiant ar hyn o bryd yn 2.7%.
Nid mater o ddehongliad ydi hyn - ffaith syml ydi o.
Yr hyn gafodd ei roi gerbron y cyngor oedd dau opsiwn- tâl aelodau cabinet ar lefel 1 sef 29,000 neu lefel 2 26,000. Pledleisiodd y Cyngor o blaid lefel 1. Ma darllediad y cyfarfod yn glir o hynny.
£29,100 oedd cyflog aelodau cabinet y llynedd. £29,200 ydi o rwan.
Da ydi cynnig arbedion sydd yn dod allan o bocedi pobol eraill,a prin yneffeithio arno fo ei hun;a yw aelod Bethel wedi bod yn symud yn nes yn wleidyddol at Mrs.May a'i ffrindiau toriaidd,dyna mae nhw yn ei wneud ers 7 mlynedd?
Cynghorwyr yw aelodau'r Cabinet sydd wedi cael eu hethol i gynrychioli diddordebau trigolion y Sir a'r ethowlyr. Nid oes unrhyw fath o godiad cyflod wedi bod mewn cyflogau yn unrhyw sector dros 8 mlynedd. Cewch,
thanks for sharing...
www.golden-slot.com
gclub
Post a Comment