Rwan bod y tymor y cynghorau newydd wedi cychwyn mae'n amlwg ar ol wythnos neu ddwy yn unig bod 'newyddion ffug' am barhau i fod yn un o nodweddion y ffordd mae'r gwrthbleidiau yn gweithredu.
Mae yna hen hanes o hyn yng Ngwynedd wrth gwrs - gyda pob math o hanesion bisar o greu 'newyddion' - o'r ymgeisydd Llafur ar gyfer y Cynulliad a safodd y tu allan i Ysbyty Gwynedd yn hel enwau ar gyfer deiseb yn erbyn 'toriadau' Plaid Cymru i'r Gwasanaeth Iechyd - er bod y toriadau hynny'n gwbl ddychmygol - i'r ymgeisydd cyngor Llais Gwynedd aeth ati i chwalu pob neges o'i eiddo ar maes e (o barchus gof) oherwydd bod y cwbl ohonynt yn ei adael yn agored i gamau cyfreithiol. Cafwyd hefyd erthygl mewn cylchgrawn wythnosol yn ddiweddar oedd yn honni bod hanner miliwn o gwynion yn cael eu derbyn ar y ffon yn flynyddol gan Gyngor Gwynedd - honiad arall cyfangwbl ddi sail.
Y cwestiwn sy'n codi i Bleidwyr ydi sut y dylid ymateb i hyn oll? Gallwn fod yn siwr bod llawer mwy o'r math yma o stwff ar y ffordd. Dyma ychydig o egwyddorion cyffredinol.
Egwyddor 1: Dylid cywiro celwydd pob tro. Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn ffyrnig i rhywun sy'n dweud celwydd amdanynt, ac mae methu ymateb yn finiog yn awgrymu i bobl bod gwirionedd yn yr honiadau.
Egwyddor 2: Dylid cywiro yn gyhoeddus ac yn eang. Does yna ddim pwrpas cywiro celwydd os nad neb yn dod ar draws y cywiriad.
Egwyddor 4: Gwnewch yn siwr bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn ffeithiol gywir - gwiriwch a gwiriwch eto. Os ydi rhywbeth rydych yn ei ddweud yn anghywir - ymddiheurwch a chwalwch y deunydd anghywir. Does gennym ni ddim busnes yn rhoi pobl eraill yn eu lle am ddweud celwydd os ydym ni'n gwneud yr un peth ein hunain.
Egwyddor 5: Os oes yna gyd destun, tynnwch sylw at y cyd destun. Er enghraifft os oes yna orji o foesoli hunan gyfiawn wedi mynd rhagddo am gyflogau 'uchel' cynghorwyr, a bod hwnnw wedi ei arwain gan rhywun oedd wythnosau ynghynt yn dadlau tros godi cyflogau cynghorwyr - dylid tynnu sylw at hynny wrth ymateb. Os oes yna honiadau nad ydynt yn wir yn cael eu gwneud gan rhywun sydd efo hanes o ddweud anwiredd, dylid tynnu sylw at y celwydd blaenorol. Nid ein busnes ni ydi edrych ar ol y cynhyrchwyr newyddion ffug.
Egwyddor 6: Dylid osgoi ansoddeiriau - yn arbennig rhai lliwgar. Mae'r defnydd o ansoddeiriau megis 'gwarthus', 'cywilyddus' ac ati yn gwneud i'r sawl sy'n eu defnyddio edrych yn hysteraidd a chegog. Mae cyferbyniad oeraidd rhwng yr hyn ddywedwyd a'r ffeithiau gwirioneddol - ynghyd a chyflwyniad o gyd destun ehangach - yn gwneud y joban yn iawn. Mae yna ddigon o sterics, myllio a mwydro o amgylch y ddisgwrs wleidyddol yng Ngwynedd heb i ni ychwanegu ato.
No comments:
Post a Comment