Tuesday, May 02, 2017

Llafur Treganna unwaith eto

Rydym wedi edrych ar hyn eisoes -ond mae'n ymddangos bod Llafur Treganna yn mynd yn codi hen grachan.  Roedd yna homar o ffrae yn ystod y cyfnod pan roedd y Dib Lems a Phlaid Cymru yn rhedeg Cyngor Caerdydd oherwydd cynllun i ail strwythuro'r gwasanaeth ysgolion yn Nhreganna (a mewn wardiau eraill).  

Y cefndir oedd bod twf sylweddol yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a bod yr ysgol Gymraeg leol yn llawn hyd yr ymylon tra bod yr ysgolion Saesneg gyda nifer fawr o leoedd gwag.  Bwriad y weinyddiaeth oedd datrys y broblem trwy droi un o'r ysgolion Saesneg yn ysgolcyfrwng Cymraeg.  

Mewn gwirionedd gweinyddu dau o bolisiau'r llywodraeth ym Mae Caerdydd oedd y weinyddiaeth - lleihau'r nifer o lefydd gwag mewn ysgolion a chynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg.  Roedd Llafur wrth gwrs yn chwyrn yn erbyn y cynllun, ac yn y diwedd perswadwyd y llywodraeth i gamu i mewn ac ariannu ysgol newydd sbond cyfrwng Cymraeg a chaniatau i'r ysgolion Saesneg (hanner gwag) aros yn agored.

Beth bynnag, mae'r holl beth yn cael ei ail godi yn yr ymgyrch hynod ffyrnig am dair sedd Treganna ar Gyngor Caerdydd - a hynny ar y stepan drws ac ar dudalennau masnachol Facebook.




Rwan, fydd yna ddim cynllun i ehangu addysg Gymraeg yn Nhreganna y tro hwn oherwydd bod yr ysgol (anferth) a godwyd i yn cyflenwi'r galw am addysg Gymraeg - ymarferiad mewn codi bwganod ydi'r cyfan.

Fel rydym wedi nodi eisoes mae'n ddigon hawdd i Alun Davies son am filiwn o siaradwyr Cymraeg.  Ond yr unig ffordd y gellir gwneud hynny ydi trwy ehangu 'r ddarpariaeth addysg Gymraeg - ond pan mae awdurdodau lleol yn ceisio gwneud hynny mae Llafur - o Langenech i Dreganna - yn ceisio elwa'n etholiadol trwy ymosod ar yr union gynlluniau hynny.

No comments: