Saturday, May 06, 2017

Etholiadau lleol - argraffiadau cyntaf

Un neu ddau o argraffiadau ynglyn ag etholiadau dydd Iau - byddaf yn dod yn ol at y mater ar ol cael golwg gwell ar y data.

Gwers 1). Mae Llafur - ar lefel leol o leiaf -yn llawer mwy gwydn yng Nghymru nag yn Lloegr a'r Alban.  Mae nhw wedi colli llawer o bleidleisiau - ond mae nhw hefyd wedi cadw eu gafael ar gynghorau pwysicaf Cymru.  Bydd Mehefin 8 yn dangos os ydi'r gwytnwch hwnnw yn dal ar lefel cenedlaethol.

Gwers 2). Dydi is seiledd y Toriaid ddim mor gryf a hynny yng Nghymru.  Mewn cyfnod lle mae'r polau cenedlaethol yn awgrymu eu bod ar y blaen yng Nghymru, trydydd oedden nhw ddydd Iau.  Unwaith eto bydd Mehefin 8 yn dangos pa mor bell uwchlaw'r  bleidlais greiddiol y gall y bleidlais San Steffan fynd - hynny yw i ba raddau mae'n bosibl osgoi disgyrchiant etholiadol?

Gwers 3). Mae'r cerdyn iaith yn gweithio i Lafur.  Cafodd ei chwarae yn Llangenech a Threganna.  Enillwyd sedd gan y Blaid yn Llangench  a llwyddwyd i wrthsefyll cystadleuaeth chwyrn yn Nhreganna. Bydd yn cael ei defnyddio eto.

Gwers 4). Dydi hi ddim yn dilyn bod Llafur yn gorfod dominyddu mewn ardaloedd trefol. Does gan Llafur bellach ddim seddi o gwbl yn y stribedyn poblog sy'n ymestyn o orllewin Caernarfon i ddwyrain Bangor, nag yn Nyffryn Ogwen na Dyffryn Nantlle - mae'r ardal yn cael ei dominyddu gan Blaid Cymru gyda cynghorwyr annibynnol yn ennill y seddi nad ydi'r Blaid wedi eu hennill.  Yr hyn sy'n nodweddu'r ardaloedd yma o safbwynt y Blaid o leiaf ydi bod y drefniadaeth yn arbennig o dda.

Gwers 5). Gall y Blaid gael llwyddiant mewn unrhyw ran o Gymru.  Etholwyd cynghorwyr ym Mhowys, yn Wrecsam, ym ac ym Mlaenau Gwent.

Gwers 6). Oni bai bod y Toriaid yn newid eu meddyliau ynglyn a Brexit fyddwn ni ddim yn clywed llawer mwy gan UKIP eto (er y bydd y Bib yn parhau i roi llwyfan i blaid sydd i pob pwrpas yn ddi aelod seneddol a di gynghorydd),  bod y Toriaid wedi troi'n blaid Brexit, does yna ddim gwagle gwleidyddol i UKIP.  'Dydi bod yn blaid gwrth Fwslemaidd ddim am apelio at neb ond eithafwyr Asgell Dde.

Gwers 7). Mae hi'n anodd dod yn ol yn dilyn trychineb etholiadol.  Er bod amgylchiadau bellach yn llawer haws i'r Dib Lems y tro hwn nag oedd 5 mlynedd yn ol parhaodd eu perfformiad i ddirywio.  

Gwers 8). Mae'r gyfundrefn etholiadol First Past the Post yn ffafriol iawn i Lafur yng Nghymru ar lefel cynghorau lleol yn ogystal ag ar lefel etholiadol.  Er iddynt golli llond bwced o seddi ddydd Iau, doedd hynny ddim yn adlewyrchu'r ogwydd ffyrnig yn eu herbyn mewn rhannau eang o Gymru.  Yn aml iawn mae traean o'r bleidlais yn hen ddigon i Lafur gael mwy na hanner y seddi.

3 comments:

Joniesta said...

LLongyfarchiadau mawr am gael eich ethol. Mae yna bleidlais fawr ar y CDLL ar y ffordd. Oes na ddigon i gario'r dydd? Hanfdol gwneud safiad yn yr achos yma.

Marconatrix said...

Diddorol dros ben. Diolch yn fawr :-)

Efrogwr said...

Diolch am y dadansoddiad. Mae'n ddiflas pa mor gyflym mae'r elfen gwrth-Gymraeg yn dod i'r wyneb yn y Blaid Lafur. Un her sy'n gan Blaid Cymru yw ardaloedd megis Merthyr Tudful lle na fu bron i ddim ymgeiswyr, y gwendid yn Abertawe, a bod y cynnydd yn y cymoedd yn amrywio cymaint o le i le (h.y. yn ffrwyth i lafur cadarn unigolion yn hytrach nag yn adlewyrchiad o lwyddiant mudiad cenedlaethol, hwyrach?).