Friday, May 19, 2017

Beth mae'r marchnadoedd betio yn dweud wrthym am obeithion y Blaid?

Wel, maent yn awgrymu y bydd y Blaid yn cadw Dwyfor Meirion, Arfon a Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr ac yn cipio Ynys Mon.  Maent hefyd yn awgrymu y gallai'n hawdd iawn ennill yn y Rhondda.  Petai hynny oll yn digwydd dyna fyddai canlyniad gorau'r Blaid mewn unrhyw etholiad cyffredinol erioed.  

Maent hefyd yn awgrymu bod Blaenau Gwent a Cheredigion yn bosibl - ac i raddau llai Llanelli.





















5 comments:

Anonymous said...

Methu gweld

Anonymous said...

Sut mae'r rhain yn cymharu gyda'r marchnadoedd cyffelyb yn 2015 ? . Bryd hynny, yr oedd dipyn o gyffro am Llanelli, yn enwedig, gyda rhyw pythefnos i fynd, ond digon llipa oedd pleidlais Vaughan williams yn y diwedd. Gwendidau 'Groupthink' ?.

Ioan said...

O be dwi'n gofio, mi roedd ynys mon yn 50/50 rhwng plaid a llafur (efo Llafyr yn enill o drwch blewyn).

BoiCymraeg said...

Mae'r marchnadoedd betio yn gyffredinol yn tueddu bod yn fwy cywir na "Unilateral National Swing" na thechnegau felly o ddarogan canlyniadau unigol.

Anonymous said...

Beth maent yn ei ddweud ar ol y pol piniwn diweddaraf ?