Sunday, May 14, 2017

Etholiad San Steffan - sylwadau cychwynol

Mae etholiad mis nesaf am fod yn wahanol i'r rhan fwyaf - wele un neu ddau o sylwadau cychwynol.

1). Er gwaetha'r naratif cyfryngol, dydi'r polau, yn arbennig y rhai mwy diweddar ddim yn awgrymu bod y bleidlais Lafur yn chwalu - mae nifer o'r polau yn awgrymu y byddant yn cael canran uwch o'r bleidlais na gawsant ddwy flynedd yn ol.  Cawsant 30.4% yn 2015 oedd 1.5% yn uwch na gafodd Brown bum mlynedd ynghynt.  Dydi hyn ddim yn golygu wrth gwrs y bydd Llafur yn cael canran uwch o'r bleidlais na gafodd yn 2015 - roedd y polau yn gor gyfrifo eu pleidlais yn 2015.  Mae'r twf yn y bleidlais Doriaidd yn dod yn bennaf o chwalfa yn y bleidlais UKIP - nid chwalfa yn y bleidlais Lafur.  

2). Er gwaethaf hynny mae'r Blaid Lafur Gymreig yn teimlo'r angen i roi pellter rhyngddyn nhw eu hunain a'r Blaid Lafur Brydeinig.  I'r perwyl hwn maent wedi cyhoeddi maniffesto Cymreig.  Ymarferiad cosmetig ydi hyn oll - mae aelodau seneddol Llafur o Gymru yn ymddwyn yn union fel rhai o weddill y DU pan maent yn San Steffan - hyd yn oed pan mae hynny'n groes i ddymuniad eu haelodau Cynulliad yng Nghaerdydd.

3). Mae'r etholiad yn cael ei hymladd ar sail cwbl ffug - o safbwynt y Toriaid o leiaf.  Dydi'r honiad bod pob pleidlais mae plaid May yn ei gael yn cryfhau ei llaw wrth ddelio efo gweddill Ewrop yn gwbl ddi ystyr.  Dydi maint cefnogaeth i lywodraeth ddim yn effeithio ar drafodaethau rhyngwladol.  

4). Mae'n dra thebygol y bydd y gyfradd pleidleisio yn isel.  Dyna sydd yn tueddu i ddigwydd pan mae yna nifer o etholiadau / refferenda yn dilyn ei gilydd a dyna sy'n digwydd hefyd pan mae yna ganfyddiad bod yr etholiad eisoes wedi ei phenderfynu.  Mae'r ddau ffactor ar waith yma. Gall cyfraddau pleidleisio isel arwain at ganlyniadau unigol anisgwyl a dylai hefyd lywio strategaethau pleidiau - gall sicrhau bod y bleidlais graidd yn pleidleisio arwain at lwyddiant pan na fyddai'n ddigon fel rheol.

5). Er gwaetha'r ffaith bod y Toriaid wedi symud i'r Dde, dydi hi ddim yn ymddangos eu bod yn colli pleidleisiau i'r Dib Lems i'r Chwith - dydi'r polau ddim yn awgrymu y bydd y blaid honno'n gwneud dim gwell na'u perfformiad trychinebus yn 2015.  Mae hyn gyda llaw yn gwneud Ceredigion yn fwy diddorol na byddai llawer ohonom wedi disgwyl.  Er i Geredigion bleidleisio i aros yn yr UE, pleidleisio i afael wnaeth De'r Sir - lle mae pleidlais Mark Williams gryfaf.  Gallai rhai o'i bleidleisiau wneud eu ffordd i gorlan y Toriaid - a gallai hynny yn ei dro gynnig cyfle i'r Blaid.

6). Mae etholiadau lleol yn wahanol iawn i etholiadau San Steffan, ond rhaid cydnabod i Lafur wneud yn well na'r disgwyl tros lawer o'r wlad.  Serch hynny mae'n werth nodi i'r Blaid ddod o flaen pob plaid arall mewn nifer o etholaethau - Ynys Mon, Arfon, Dwyfor Meirion, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr, Castell Nedd, Rhondda, Caerffili a Gorllewin Caerdydd.  Mae'r olaf yn dibynu ar sut rydym yn cyfri.  

3 comments:

Dewi Harries said...

Ac yn ol fy mathamateg curo Llafur yng Nghaerffili.

Unknown said...

Cyngor call iawn. Gwerth ymladd am bob pleidlais i'r Blaid.

Cai Larsen said...

Ia, dwi'n meddwl bod hynny'n gywir. Mi ychwanegaf Caerffili.