Sunday, November 08, 2015

Gwleidydda yn Ysbyty Gwynedd?

Mi fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai sydd hefyd yn wrandawyr Radio Cymru yn gyfarwydd a'r Cynghorydd Sion Jones o Fethel.  Mae Radio Cymru wrth gwrs yn dilyn polisi gweddol gaeth o gynnal mwy o gyfweliadau efo Sion nag efo pob un o'r 74 cynghorydd sir arall yng Ngwynedd efo'i gilydd.  Yn wir dwi wedi clywed un neu ddau o bobl yn cyfeirio at Radio Cymru fel Radio Sion.

Ta waeth, rydan ni'n crwydro.  Yr hyn sydd gen i mewn golwg heddiw ydi'r trydyriadau hyn gan Sion: 







Ymddengys - yn ol tystiolaeth Sion - ei fod wedi bod yn ymweld ag Ysbyty Gwynedd yng nghwmni Mark Drakeford y gweinidog iechyd a Vaughan Gething, ei ddirprwy.  Rwan yn amlwg 'dydi hi ddim yn briodol i weinidogion yn y llywodraeth fynd i ysbytai i wleidydda.  Mae ymweld ag ysbytai yn rhan o'u rol gweinidogol.  Dyna pam bod gweinidogion yn cael cyfarwyddiadau clir i beidio a mynd a phobl eraill i ysbytai ac ati oni bai bod y rheiny yn cael gwahoddiad gan y sefydliadau eu hunain.

Hyd y gwelaf i mae yna un o bedwar peth yn digwydd yma:

1). Mae Sion yn sefyll y tu allan i'r adeiladau ac yn cael sgwrs efo 'r gweinidogion - ond yn ymatal rhag mynd i mewn efo nhw.  Mae hynny'n bosibl, ond nid dyna mae'r trydyriadau yn ei awgrymu - ond wedyn dydi'r cyfri trydar yma heb fod yn gwbl ffeithiol ddibynadwy yn y gorffennol.

2). Mae'r gweinidogion yn gwybod beth ydi'r rheolau ond yn mynd ag ymgeisydd etholiadol o gwmpas ysbyty efo nhw beth bynnag.

3).  Dydi 'r gweinidogion ddim yn gwybod beth ydi'r rheolau ynglyn ag ymweliadau proffesiynol - ond mae'n amlwg yn rhan o'u busnes i wybod.

4).  Mae swyddogion Ysbyty Gwynedd -  am rhyw reswm neu'i gilydd - wedi rhoi gwahoddiad i Sion ymweld a'r ysbyty yng nghwmni dau weinidog yn y llywodraeth.  Mae hynny'n anhebygol ond yn bosibl - yn arbennig ag ystyried eu bod yn ddigon parod i ddefnyddio eu cyfri trydar swyddogol i roi cyhoeddusrwydd i Sion.



7 comments:

Anonymous said...

O ran diddordeb, beth ydi'r rheolau cyfastebol ar gyfer ysgolion ? . Pwy ydi'r gwr sydd rhwng Sion Jones a Vaughan Gething, gyda'r llaw ?

Cai Larsen said...

Wel, dwi'n cymryd y byddai yr un mor anerbyniol i weinidog addysg fynd ag ymgeiswyr o'i blaid o gwmpas ysgolion.

Dwi ddim yn gwybod pwy ydi'r boi - ond mae'n siwr o fod yn rhywun sy'n gweithio i BC.

Anonymous said...

Chwarae teg iddo wir am wneud gymaint i godi arian at Awyr Las trwy redeg Ras yr Wyddfa, Marathon Eryri a phethau eraill. Yn wahanol i Plaid Cymru ( sydd yn neidio ar bob cyfle i ladd ar ein gwasanaeth iechyd - run fath a'r ceidwadwyr ) mae Sion yn gefnogol o waith caled y staff. Roeddem yn falch o groesawu Sion i'r ysbyty ac i fedru diolch iddo am ei gefnogaeth cyson. Mae'n braf gweld person ifanc brwdfrydig yn cymryd diddordeb ac yn awyddus i gefnogi. Ydio ots sut neu pham ei fod yno ?? Mae 'na ddigon o staff fydd yn fodlon iawn dweud eu bod wedi ei wahodd. Bydd croeso mawr iddo eto hefyd , efo neu heb weinidogion. Diolch Sion a daliwch ati !!

Cai Larsen said...

Dau bwynt brysiog:

Lladd ar fethiant Llafur i roi arweiniad priodol ym maes iechyd mae'r Blaid - nid ar y gwasanaeth ei hun.

Dydi'r blogiad ddim yn ymysodiad ar Sion. Mae Sion yn ymgeisydd mewn etholiad ac mae'n ddigon naturiol ei fod yn chwilio am gyhoeddusrwydd. Ymddygiad y gweinidog iechyd a'i ddirprwy ydi'r broblem - nid ymddygiad Sion. Mae o ots pam ei fod yno yn yr ystyr ei bod yn bwysig bod gweinidogion yn gwneud eu gwaith mewn modd cyfrifol ac yn dilyn canllawiau priodol. Os nad ydi'r sawl sy'n arwain y GI yng Nghymru yn dilyn canllawiau a phrotocolau, dydyn nhw ddim mewn lle i ddisgwyl i weithwyr oddi mewn i'r gwasanaeth wneud hynny.

Mae gen i ofn na wneith rhywun yn dweud celwydd ei fod wedi rhoi gwahoddiad personol i Sion - byddai angen llythyr gan BC.

Anonymous said...

mae PC ar yr un llaw yn gweiddi am gadw gwasanaethau yn lleol e.e. Mamolaeth yn YG , ond ar y llaw arall yn CAU ysgolion lleol a gwneud i BLANT deithio am addysg. Eironig yn wir !
Cynnal cyfarfod cyhoeddus wythnos yma i drafod gwasanaeth iechyd - a does na run gopa walltog o rheiny sydd yn cynnal y cyfarfod yn deall dim am iechyd. Tydi codi treth siwgwr ar coca cola ddim am ddatrys prinder meddygon yn y gwasanaeth iechyd - deffrwch wir ! Mae'r gwasanaeth iechyd ar ei liniau ar hyd a lled y DU , tydi Cymru ddim gwahanol. Cywilydd ar PC yn ymuno hefo 'r ceidwadwyr ar ladd ar ein gwasanaeth iechyd. Edrychwch tuag adref ar y llanast yr ydych wedi ei greu yng Ngwynedd cyn mentro ymhellach i feiriniadu neb yn wir !!

Anonymous said...

Anon 7:21am. Cliwch cliwch.

Cai Larsen said...

Mae yna dipyn o waith egluro yn y fan hyn:

1). Mae ysgolion ar hyd a lled Cymru o ganlyniad i bolisi bwriadol Llywodraeth Cymru. Dydyn nhw ddim yn rhyddhau cyfalaf i godi ysgolion newydd oni bai bod yna gynllun ail strwythuro ynghlwm a'r cais. Cau ydi hynny'n ei olygu yn amlach na pheidio. Mae hyn yn arwain at gau ar hyd a lled y wlad - ac ambell i sefyllfa ddigri - fel pan aeth gweinidog addysg Llafur ar strydoedd y Rhondda i brotestio yn erbyn cynlluniau cyngor Llafur i gau ysgol o ganlyniad i bolisi yr oedd ef ei hun yn gyfrifol amdano.

2). Mi gei di fwy o ddoctoriaid o ganlyniad i dreth pop os ti'n gwario'r pres ti'n godi ar ddoctoriaid. Mae hyn yn wirioneddol syml mewn gwirionedd.

3). Lladd ar y smonach erchyll mae Llafur wedi ei wneud o'r Gwasanaeth Iechyd mae'r Blaid, nid ymosod ar y Gwasanaeth Iechyd.