Tuesday, November 03, 2015

Llafurwraig arall yn cael un o brif swyddi cyhoeddus Cymru

Fydd o ddim llawer o syndod i neb bod y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol newydd - Sophie Howe- gyda chysylltiadau clos efo'r Blaid Lafur.  Mae'n ymddangos ei bod yn gyn gynghorydd Llafur yng Nghaerdydd.  Mae hi'n ddirprwy i Alun Michael fel Comiwsiynydd yr Heddlu yn Ne Cymru, ac mae wedi sefyll tros Lafur mewn nifer o etholiadau.  Mae hefyd yn gyn ymgynghorydd preifat i Carl Sargeant.  Mae un o'r Comisiynwyr eraill - Comiwsiynydd y Gymraeg, Meri Huws - efo cysylltiadau agos efo'r Blaid Lafur hefyd.


Dydi'r tueddiad i swyddi cyhoeddus pwysig gael eu llenwi gan aelodau neu gefnogwyr blaenllaw Llafur ddim wedi ei gyfyngu i gomisiynwyr.  Cymerwch y Gwasanaeth Iechyd er enghraifft.

Mae tri chadeirydd neu is gadeirydd y saith Bwrdd Iechyd Cymreig gyda chysylltiadau clos efo'r Blaid Lafur.  Un cadeirydd neu is gadeirydd sydd efo cysylltiad efo plaid arall.

 Mae o leiaf 10 o 79 (neu 13%) aelod y Byrddau Iechyd Lleol a'r Byrddau Ymddiriedolaeth Iechyd gyda chysylltiadau agos efo'r Blaid Lafur o gymharu a thri sydd a chysylltiadau efo'r holl bleidiau eraill efo'i gilydd. 

Mae'n ymddangos bod aelodaeth o'r Blaid Lafur yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael enwebiaeth i swydd gyhoeddus yng Nghymru.  

1 comment:

Anonymous said...

Braf oedd gweld gwraig Peter Hain hefyd yn cael swydd ar fwrdd CNC. Mae nhw di cael blwyddyn galed, get da Peter yn gorfod hawlio miloedd am offer cyfrifiadurol dryd ddyddiau cyn ymddeol o San Steffan. Fe fethodd y cwpl hapus (a un mab) i basio eu cynlluniau am forglawdd anferth ar draws yr Hafren.