Friday, November 27, 2015

By jingo - i ffwrdd a ni unwaith eto

Slang o'r ail ganrif ar bymtheg ydi'r term Saesneg By Jingo.  Yn y dyddiau hynod grefyddol hynny 'doedd pobl ddim yn fodlon defnyddio enw Iesu Grist mewn cyd destun ysgafn, felly roedd yn well ganddyn nhw ddweud By Jingo na By Jesus.

Yn yr 1870au y daeth y term i gael ei ddefnyddio yn y ffordd yr ydym yn ei adnabod heddiw.  Roedd yna ryfel rhwng Twrci a Rwsia ar y pryd, ac roedd Prydain yn gweld ymgais y Rwsiaid i reoli porthladdoedd dwr cynnes i'r de iddynt fel bygythiad i'w rheolaeth o India. Arferid canu'r gan fach yma mewn tafarnau a neuaddau cerddoriaeth.

We don't want to fight but by Jingo if we do
We've got the ships, we've got the men, we've got the money too
We've fought the Bear before, and while we're Britons true
The Russians shall not have Constantinople.

Daeth y term i gynrychioli agweddau creiddiol sydd wedi bod yn weddol gyffredin ym Mhrydain am ganrifoedd - polisi tramor ymysodol iawn sy'n defnyddio bygythiadau neu drais yn hytrach na diplomyddiaeth arferol i ddiogelu buddiannau cenedlaethol.  Mae'r cysyniad bod gwlad y sawl sy'n arddel agweddau jingoistaidd yn uwchraddol o gymharu a gwledydd eraill hefyd ymhlyg yn yr agwedd yma.  Mae jingoistiaeth yn ffurf ar genedlaetholdeb eithafol, mae'n Xenaffobaidd ac mae hefyd yn sylfaenol stiwpid.




Jingoistiaeth noeth ydi bygythiadau Cameron  a nifer o arweinyddion y Blaid Lafur i fomio Syria. Wneith ymuno efo'r dwsin o wledydd eraill sydd yn bomio'r lle yn ddyddiol ddim gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i'r sefyllfa filwrol yn Syria - ond mi wneith o roi'r argraff i'r hurt bod y DU yn gwneud rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth.  Mae pawb yn Syria yn cael ei fomio gan rhywun neu 'i gilydd - dyna pam bod yna 6.5 miliwn wedi gorfod symud o'u cartrefi.

Mae yna ffyrdd eraill y gellid buddsoddi adnoddau i danseilio IS (costiodd cyrchoedd Libya £1.75bn) -  cymryd camau diplomyddol i danseilio'r gefnogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol mae IS yn ei dderbyn gan rai o'n 'cyfeillion' yn y Dwyrain Canol, tanseilio'r llif o arian sy'n caniatau iddynt ymladd eu rhyfel, tanseilio eu hymdrechion i gyrraedd cefnogwyr potensial ar y We Fyd Eang, annog y sawl sydd yn ymladd IS i roi eu gwahaniaethau o'r neilltu am y tro a rhwyfo i'r un cyfeiriad.  

Byddai pob un o'r camau uchod yn fwy effeithiol nag ymateb yn y ffordd or ymysodol, jingoistaidd arferol.  Yn wir byddai gwneud dim oll yn fwy effeithiol na'r hyn sydd ar y gweill ar hyn o bryd - wedi'r cwbl anaml iawn, iawn mae ymyriaethau milwrol gan y DU ers yr Ail Ryfel Byd wedi llwyddo i wneud unrhyw beth ag eithrio cynhyrchu mwy o anhrefn.  

Ond jingoistiaeth fydd yn mynd a hi wrth gwrs - pan mae'n dod i ddelio efo tramorwyr anystywallt mae'r DU pob amser yn dewis yr ymateb gor ymysodol a threisgar ond aneffeithiol cyn yr ymateb deallus ac effeithiol.  Fel yna mae hi wedi bod erioed.

No comments: