Saturday, November 28, 2015

Cais i ddarllenwyr Blogmenai

Mae'r sefyllfa yr ydym wedi bod yn son amdani yn ddiweddar lle mae gweinidogion yn Llywodraeth Cymru yn llusgo ymgeiswyr Cynulliad o gwmpas sefydliadau cyhoeddus yn un sydd yn peri gofid.  Yn y bon mae un o ddau beth yn digwydd - ac mae'r ddau yn gwbl anerbyniol mewn democratiaeth fodern.





1).  Mae gweinidogion yn cymryd mantais o ymweliadau swyddogol a sefydliadau cyhoeddus i godi proffil ymgeisyddion o'u plaid yn y misoedd cyn etholiad hynod bwysig.  

2).  Mae pwysau yn cael ei roi ar reolwyr sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru - yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol - i ganiatau i wleidyddion Llafur ymweld a nhw ar ymweliadau gwleidyddol / etholiadol.  

Mae'r naill sefyllfa a'r llall yn gwbl anerbyniol - ac mewn unrhyw wlad ag eithrio Cymru byddai'r cyfryngau newyddion prif lif yn neidio ar y stori yn hytrach na gadael pethau i flog amaturaidd.  

Petai'r sefyllfa gyntaf yn wir byddai protocolau gweinidogol yn cael eu torri, a phetai'r ail yn wir byddai grym llywodraeth yn cael ei gam ddefnyddio i ennill mantais etholiadol.  Y cwestiwn arwyddocaol ydi faint o hyn sy'n digwydd ar hyd a lled Cymru.

Felly os oes unrhyw un yn gwybod am sefyllfa debyg lle mae gweinidogion Llafur yn hebrwng ymgeiswyr Cynulliad o gwmpas sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan y trethdalwr, gadewch i mi wybod.  Mi gaiff y sgandal sylw yma os nad yn unman arall.  Gallwch wneud hynny trwy gysylltu a mi ar y cyfeiriad ebost ar ochr dde tudalen flaen y blog.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Heb ddigwydd eto, ond edrychwch am gyhoeddiadau am ehangu'r hyn a fu yn Gymdeithas Gredyd Llandudno a'r Cylch, a ehangodd i fod yn Gymdeithas Credyd Gogledd Cymru, ac sydd ar fin ehangu i Ddyfed a Phowys (gan newid ei enw eto). Er bod y Gymdeithas, o ran ei gyfansoddiad, i fod yn ased cymdeithasol; mae'n cael ei redeg fel braich o'r Blaid Lafur.

Anonymous said...

R'un fath mashwr fod Partneriaeth Economeg Gwynedd yn cael ei redeg fel "branch" o Blaid Cymru.