Monday, November 09, 2015

Pwy ydi pwy?

Ymhellach i'r blogiad isod am ymweliadau'r Gweinidog Iechyd a'i ddirprwy ag Ysbyty Gwynedd, mae'n ymddangos bod Mark yn hoff o gwmni i ble bynnag mae'n mynd.  Daw'r llun isod o gyfri trydar Ken Skates.  

Does yna ddim awgrym bod Mark Drakeford wedi gwneud unrhyw beth o'i le wrth ymweld a Chanolfan Iechyd Llangollen  - ond byddai'n ddiddorol gwybod pwy sydd efo Ken a Mark yn y llun.  Os ydych yn gwybod, defnyddiwch y dudalen sylwadau i adael i ni wybod.


3 comments:

Anonymous said...

Staff y Ganolfan Iechyd ydyn nhw , arwahan i'r ddynes yn y rhes flaen gyda sgarff gwyrdd , ddim yn siwr pwy yw honno.

Anonymous said...

Karen Sinclair

Cai Larsen said...

Hmm, gwleidydd arall - neu o leiaf cyn wleidydd.