Monday, November 02, 2015

Clir fel mwd

Felly mae Llafur yr Alban yn erbyn adnewyddu Trident tra bod Llafur Prydain o blaid.  Mae arweinydd Llafur yn yr Alban o blaid Trident ond mae arweinydd Llafur y DU yn erbyn.  



Yma yng Nghymru mae arweinydd Llafur Cymru o blaid adnewyddu, ond eisiau lleoli'r ganolfan WMDs yn Sir Benfro - ac felly gwneud y rhan yna o Gymru yn darged i ymysodiad niwclear.  Mae Mark Drakeford yn erbyn, a felly hefyd Nia Griffith a Julie Morgan a 'dydi Chris Bryant ddim yn rhy siwr.  Ymddengys bod Owen Smith o'r farn bod Llafur o blaid Trident ond eisiau cael gwared o'r system cyn gynted a phosibl.

Pwy ddywedodd bod rhaid bod yn glir mewn gwleidyddiaeth?

4 comments:

Anonymous said...

Ia. Yn glir fel PC hefo ynni niwclear!

william dolben said...

yr un peth yn digwydd yn Sbaen. Mae'r PSC sef cangen y PSOE yng Nghatalwnia yn anghydweld hefo'r pencadlys ar sawl mater. Ar ôl dal yr awennau dan Maragall mae'r PSC erbyn hyn yn ymylol yng Nghatalwnia. Mae'n dal pleidlais yr hen fewnfudwyr o ranbarthau Sbaen fel Andalucia ond mae plant rheini wedi mynd drosodd i Ezquerra. buasai'n neis gweld yr un peth yn digwydd yng Nghymru ryw ddydd....haws o beth coblyn na'r hyn mae'r SNP wedi ei gyflawnii. Rwy'n siwr hefyd fod y Blaid Lafur "Gymreig" yn ymwybodol o'r risg o fabwysiadu safiadau mwy cadarn ym materion Cymru. Hwyrach bod efelychu camp y SNP yn fwy tebyg wedi'r cwbl os bydd Welsh Lebyr yn dal i ufuddhau i Lundain.....

Anonymous said...

Dipyn bach fatha niwcliar - plaid cymru yn wrth niwcliar o ran polisi ond rhun ap iorweth o blaid y niwcliar i wylfa newydd. Rhyfedd o fyd !

Cai Larsen said...

A ia, niwclear - rhywbeth arall mae Llafur ar hyd y lle i gyd arno. Testun blogiad arall o bosibl.