Wednesday, November 04, 2015

A jobsan arall - eto fyth - i Lafurwraig

Llongyfarchiadau i briod Peter Hain - Elizabeth Haywood - ar gael ei chodi i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fel rydym eisoes wedi trafod eisoes 'dydi cysylltiadau clos efo'r Blaid Lafur ddim yn gwneud unrhyw ddrwg i yrfa rhywun - dim drwg o gwbl _ _ _




3 comments:

Bwlch said...

Mae pob tribe yn yr hen wlad gwneud hyn. Fyddwn synnu fod Llafur yn wahanol. Dyma beth sydd digwydd pan mae pawb yn adnabod pawb yn ein gwlad a'r lefel quango/gwleidyddiaeth.

Cai Larsen said...

Mae gen i ofn nad ydi hynny'n wir.

Mae yna lawer, llawer mwy o actifyddion Llafur ar fyrddau cyhoeddus ac ati na fyddai eu niferoedd yn ei warantu.

Dydi'r un peth ddim yn wir am y pleidiau eraill.

Anonymous said...

Bwrdd Iechyd y Betsi efo llawer mwy sydd DDIM yn Llafur. Lib Dem , Toris a Plaid Cymru yn fanno. Ambell i un Llafur ond dydyn nhw yn bendant ddim yn y mwyafrif. Ddim yn siwr sut mae Byrddau Iechyd eraill yn cymharu.