Rhyw ymateb ydi'r isod i rant hirfaith Karen Owen yn Y Cymro oddi tan y teitl
Ai snobyddiaeth sy'n lladd yr iaith.
Er gwaetha'r teitl mae'r erthygl yn crwydro i bob man gan gyfeirio at gyfarfod a gynhalwyd heddiw yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, ac yn beio dwyieithrwydd, ysgolion Cymraeg, cyflogau swyddogion Cyngor Gwynedd, mentrau iaith, ymgyrchwyr iaith ac ati. Mae hefyd wrth gwrs yn beio'r dosbarth canol Cymraeg. Ym mydysawd cyfochrog Karen mae 'ton ar ol ton' o ffrindiau Coleg Cymraeg eu hiaith yn cyrraedd trefi fel Caernarfon, Aberystwyth a Chaerfyrddin ac yn gorthrymu'u Cymry Cymraeg cynhenid dosbarth gweithiol. Mae'r canfyddiad yma - gadewch i ni ei alw yn y thesis Gwilym Owen - yn gyfangwbl wallus. Gadewch i ni edrych ar ffeithiau:
Mae'r hyn sy'n bygwth yr iaith ar lefel demograffaidd yn sylfaenol syml:
1). Mewnfudo o lefydd lle nad ydi pobl yn siarad y Gymraeg.
2). Cymry Cymraeg yn symud i fyw i Loegr.
3) Pobl yn gwrthod trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant.
Mae'r ffigyrau gennym ar gyfer llawer o hyn - diolch i'r cyfrifiad:
- Mae 27% o bobl Cymru wedi eu geni y tu allan i'r wlad gydag 20% yn ndod o Loegr.
- Mae 500,000 obobl Lloegr efo hunaniaeth Gymreig, ac mae'n bosibl bod 150,000 o Gymry Cymraeg yn byw yno.
- Er bod trosglwyddiad iaith yn gymharol dda at ei gilydd mae'r drosglwyddiad honno yn peri gofid mewn rhai llefydd - yn arbennig felly yn Nwyrain Sir Gaerfyrddin a Gorllewin yr hen Sir Forgannwg - ardaloedd dosbarth gweithiol. Ond mae trosglwyddiad iaith yng Ngwynedd yn rhyfeddol effeithiol - mae tua 69% o'r cohort 25 - 39 oed yn siarad yr iaith tra bod 73% o'r cohort 3 - 4 oed yn ei siarad. Hynny yw mae'r cohort 3 - 4 yn fwy Cymraeg o ran iaith na chohort eu rhieni - a hynny'n annibynnol o ddylanwad y sector addysg.
O safbwynt cymdeithasegol gallwn ychwanegu thema ganolog sesiwn y bore 'ma yng Nghanolfan Uwchgwyrfai - ideoleg dwyieithrwydd a'r anghyfartaledd sydd ynghlwm a hynny.
Dydi'r ffaith bod yna ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol yn y Gymru Gymraeg (fel ym mron i pob man arall) ddim yn fygythiad i'r iaith - i'r gwrthwyneb. Fel rydym wedi gweld m
ae'r bygythiadau i'r Gymraeg yn hawdd iawn i'w harenwi a dydyn nhw ddim oll i'w wneud efo dosbarth cymdeithasol.
Cyn bod Karen yn arenwi Caernarfon, Caerfyrddin ac Aberystwydd fel mannau lle mae'r hen bobl dosbarth canol drwg 'na yn gwneud cam a'r dosbarth gweithiol waeth i ni gyfeirio at y lleoedd hynny ddim. Dwi yn gyfarwydd iawn a Chaernarfon ond dydw i ddim mor gyfarwydd ag Aberystwyth a dydw i ddim yn gyfarwydd o gwbl a Chaerfyrddin. Mae'n wir bod yna ddosbarth canol Cymraeg ei iaith sylweddol yng Nghaernarfon a'r pentrefi cyfagos, mae'r un peth yn wir ond i raddau llai o lawer yn ardal Aberystwyth - ond gyda'r gwahaniaeth bod y dosbarth canol Saesneg ei iaith yn fwy na'r un Cymraeg ei iaith yn yr ardal honno. Dwi'n cymryd bod dosbarth canol Cymraeg ei iaith yng Nghaerfyrddin - ond eto byddwn yn betio bod yna ddosbarth canol Saesneg ei iaith llawer mwy yno.
Gadewch i ni edrych ar batrwm ieithyddol Caernarfon. Mae mwyafrif pobl dosbarth canol Caernarfon yn byw yng Ngogledd y dref - ward Menai. Ychydig o dai cyngor sydd yn yr ward - ceir ardal o hen dai preifat canol tref yn Nhwthill ac mae'r rhan fwyaf o'r gweddill yn cynnwys tai preifat drud. Mae'r boblogaeth hefyd yn llawer hyn nag ydyw yng ngweddill y dref. Mae'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yno yn uchel - 83.4%.
Ond uchel neu beidio, dyma'r ward lle mae'r Gymraeg wanaf yn y dref. Mae'r iaith ar ei chryfaf yn ardal Peblig - 87.4%. Mae mwyafrif llethol trigolion yr ward yma yn byw mewn tai cymunedol ar stad dai sylweddol Sgubor Goch - ward mwyaf difreintiedig y Gogledd Orllewin. Wedyn daw Cadnant - 86.2%. Mae'r rhan fwyaf o dai Cadnant ar stad dai cymunedol Maesincla. Wedyn daw Seiont - 85.3%. Seiont ydi'r ward mwyaf poblog yng Nghaernarfon ac mae'n fwy cymysg na'r lleill - ceir ardaloedd canol tref, ardaloedd gwledig, ardaloedd tlawd iawn a datblygiadau newydd ar gyrion y dref. Mae rhai o strydoedd dosbarth gweithiol yr ward yma yn Gymreiciach o ran iaith nag unrhyw le arall yng Nghymru.
Mae yna ddosbarth canol mawr Cymraeg ei iaith yng Nghaernarfon - ac mae yna ddosbarth gweithiol Cymraeg ei iaith sylweddol hefyd. Mae'r ddau yn cyd redeg.
Yn y cyfamser mae'r Gymraeg yn cyflym gilio yng nghymoedd Dwyrain Caerfyrddin a Gorllewin yr hen Sir Forgannwg. Does yna ddim dosbarth canol mawr yn y llefydd yna mwy nag oes yn y cymoedd sy'n bellach i'r Dwyrain - ardaloedd sydd wedi colli'r iaith un ar ol y llall - gan weithio o'r Dwyrain i'r Gorllewin - tros y ganrif ddiwethaf.
Ym mydysawd cyfochrog Karen mae yna lawer iawn o Gymry Cymraeg anllythrenog ac unieithog ym Methesda, Ffestiniog (dwi'n cymryd mai cyfeirio at y Blaenau mae hi), Dyffryn Nantlle, Dyffryn Aman a Chaergybi sydd yn bobl bwysig iawn, ond sydd ddim yn cael dweud eu dweud. Mae'r canrannau sy'n siarad yr iaith yn uchel yn yr ardaloedd llechi, ond mae'n isel yng Nghaergybi ac mae'n syrthio fel carreg yn Nyffryn Aman. Does yna ddim dosbarth canol gwerth son amdano yn nhref Caergybi - mae'r Gymraeg wedi cilio yno oherwydd na throsglwyddwyd yr iaith gan drigolion ardaloedd dosbarth gweithiol fel Morawelon ddwy genhedlaeth yn ol. Dim oll i'w wneud efo dylanwad pobl dosbarth canol Cymraeg eu hiaith.
Ond fel y gwelsom ynghynt - lle ceir dosbarth canol Cymraeg ei iaith yn y rhan fwyaf o Wynedd mae'r trosglwyddiad iaith yn effeithiol. Mae'r rheswm am hynny i'w ganfod yn y rhesymau am y dirywiad sylweddol yn y Gymraeg yng Nghymoedd y De ac mewn ardaloedd fel Caergybi. Ni throsglwyddwyd yr iaith oherwydd ei bod yn cael ei chysylltu efo tlodi, ac yn cael ei gweld fel rhywbeth oedd yn 'dal pobl yn ol' yn economaidd. Lle roedd statws cymdeithasol yr iaith yn uwch, a lle nad oedd gwrthdaro rhwng siarad y Gymraeg a bod eisiau gwella statws economaidd personol nid oedd yna gymhelliad i beidio a throsglwyddo'r iaith. Canfyddiad bod siarad y Gymraeg yn gysylltiedig a chynyddu cyfleoedd yn y farchnad waith ydi un o'r ffactorau sy'n gyrru'r adfywiad yn hanes y Gymraeg yn rhannau o'r De Ddwyrain ar hyn o bryd.
Mae ceisio trosglwyddo tynged yr iaith i fframwaith deallusol y Chwith hen ffasiwn - gweld pob problem gymdeithasol yn rhywbeth sydd wedi ei wreiddio mewn gwleidyddiaeth dosbarth cymdeithasol - yn ffordd gyfangwbl gyfeiliornus o ddeall yr hyn sy'n bygwth y Gymraeg. Mae hefyd yn ganfyddiad a fyddai - petai pobl yn ei chymryd o ddifri - yn gryn fygythiad ynddi ei hun i ddyfodol yr iaith.