Dydi Blogmenai ddim yn dangos cydymdeimlad efo'r Bib yng Nghymru yn aml - ond mae'r blogiad yma yn eithriad. Un o gryfderau'r gorfforaeth ydi bod yna unigolion o'r radd flaenaf yn gweithio iddi. Mae ymdriniaeth y Golygydd Materion Cymreig ymysg y pethau gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ynglyn a gwleidyddiaeth a bywyd cyfoes yng Nghymru. Roedd yr hyn oedd gan y cyn Olygydd Gwleidyddol i'w ddweud yr un mor dreiddgar a gwybodus.
Ond dydi ymdriniaeth y Bib o faterion gwleidyddol yng Nghymru yn ei gyfanrwydd jyst ddim digon da. Gellir dod ar draws sawl esiampl sy'n amlygu hyn - dau diweddar ydi'r ymdriniaeth bisar a rhannol o'r is etholiad pwysicaf yn hanes Cymru, a'r oriau lawer aeth rhagddynt cyn i'r Bib adrodd ar stori'r Mail on Sunday am Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd. Mae yna lawer, lawer mwy o esiamplau.
Rwan, dydi pethau ddim yn hawdd i'r Bib yng Nghymru o gymharu a'r Bib yng Ngogledd Iwerddon, neu'r Alban. Yn y gwledydd hynny ceir cyfryngau eraill sy'n ymdrin a gwleidyddiaeth yn effeithiol - mae yna bapurau newydd cenedlaethol sy'n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth cenedlaethol. Rhan o'r hyn sy'n diffinio'r ddisgwrs wleidyddol ydi'r Bib yn y lleoedd hynny - dydi'r gyfrifoldeb i gyd ddim ar eu sgwyddau nhw. Yng Nghymru mae yna bapurau cyfrwng Saesneg sydd a diddordeb yn y De, neu yn y Gogledd, neu mewn rhannau o'r De neu'r Gogledd. Does yna ddim papurau cenedlaethol yng ngwir ystyr y term. Mae eu dealltwriaeth o wleidyddiaeth Cymru at ei gilydd yn hynod ddiffygiol, ac mewn ambell i achos yn warthus o arwynebol. Mae'r rhan fwyaf hefyd yn perthyn i Trinity Mirror - y sefydliad a gyflwynodd y Welsh Mirror i'r genedl. Mae'r papurau cyfrwng Cymraeg yn well, ond dydyn nhw ddim yn dylanwadu llawer ar ddisgwrs gwleidyddol y wlad yn ei chyfanrwydd.
Felly does gan y Bib yng Nghymru ddim canllawiau ehangach, does yna ddim pwyntiau eraill i gyfeirio atynt - mae'n gorfod ysgwyddo'r gyfrifoldeb tros benderfynu beth sy'n bwysig i adrodd arno, beth sy'n berthnasol ar ei phen ei hun. Mae'n gorfod diffinio'r tirwedd. Dydi hyn ddim yn hawdd. Mae pethau'n cael eu gwneud yn fwy anodd gan y ffaith bod y Blaid Lafur Gymreig o dan yr argraff y dylai'r Bib ddilyn canllawiau sy'n ei phortreadu hi mewn goleuni ffafriol - dylai un piler sefydliadol gefnogi'r llall. Gellir gweld hyn yn y myllio hysteraidd ac afresymegol a geir ar wefannau cymdeithasol gan rai o bwysigion Llafur pan mae'r Bib yn 'pechu' yn eu herbyn. Gellir bod yn siwr bod y sterics boncyrs yma yn cael ei adlewyrchu mewn cyfathrebu rhwng Cathedral Road a Llandaf.
Canlyniad hyn oll ydi diffyg sicrwydd a chyfeiriad ar ran y Bib. Does yna ddim tystiolaeth gref o ddealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig a'r hyn nad yw'n bwysig. Mae yna ofn pechu, ac ofn ymddangos yn un ochrog. Mae dyn yn cael yr argraff bod gormod o gyfeirio at haenau uwch cyn cyhoeddi storiau. Mae'r pleidiau eraill yn synhwyro'r ansicrwydd a'r diffyg cyfeiriad, ac mae pawb yn teimlo eu bod yn cael cam. Ceir cylch dieflig - diffyg cyfeiriad yn arwain at ganfyddiad o ddiffyg gwrthrychedd sy'n arwain at fwy o ansicrwydd sy'n arwain at ddiffyg credinedd ac ati.
Felly, beth ydi'r ateb? Wel - a bod yn gwrs dylai'r Bib yng Nghymru fagu par o geilliau. Dylid ymgymryd a'r her o ddiffinio'r tirwedd gwleidyddol, magu'r hyder a'r sicrwydd i beidio a chymryd sylw o'r hyn sydd gan wleidyddion (neu flogiau fel hwn) i'w ddweud ynglyn a'r ffordd mae'n ymdrin a gwleidyddiaeth Cymru. Dydi hyn ddim yn hawdd wrth gwrs, ac mae'n golygu eistedd i lawr, meddwl, diffinio a rhesymu. Ond byddai hyn llawer haws petai dau egwyddor sylfaenol yn cael eu gosod fel sylfaen i bob dim arall - bod y gorfforaeth yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth cenedlaethol (yn hytrach nag un rhanbarthol), a bod ymdriniaeth safon uchel o wleidyddiaeth a bywyd cyfoes Cymru yn greiddiol i'w chenhadaeth.