Wednesday, September 07, 2011

Fedrwch chi mewn gwirionedd _ _ _

_ _ _ ddychmygu'r ymddygiad hynod anymunol, ansensitif a sarhaus sy'n cael ei arddangos yn y fideo isod gan aelodau seneddol San Steffan yn cael ei arddangos mewn unrhyw un o dri senedd ddatganoledig y DU?

Fedra i ddim chwaith.



Beth bynnag ein barn am Ms Dorries a rhai o'i datganiadau bach rhyfedd ynglyn a'i bywyd priodasol, 'dydi hi ddim yn haeddu'r driniaeth yna.

4 comments:

Emlyn Uwch Cych said...

Anfaddeuol.

Mae'r ymddygiad gwarthus a ddioddefwyd gan Ms Dorries yn ystod yr wythnos diwethaf yn siarad cyfrolau ynglŷn â statws israddol gwragedd yng ngwleidyddiaeth San Steffan heddiw.

Gormod o ddynion ariannog o gefndir yr elit yn dymuno gweld menywod fel addurniadau, nid partneriaid cyfartel.

Pa ganrif yw hon?

Dylan said...

Dw i o ddifri'n casáu Nadine Dorries fwy nag unrhyw aelod seneddol arall, ac roedd ei "gwelliant" i'r mesur diweddar yn gwbl gwbl fochedd. Dw i'n ei chael yn anodd cydymdeimlo.

Dw i'n cydnabod bod yr olygfa o lond ystafell o ddynion cyfoethog yn gweryru guffaws swnllyd tra mae dynes yn ceisio siarad yn un digon anffodus. Ond wir yr, dw i'n casáu Nadine Dorries gydag arddeliad ac angerdd, a twll ei thin hi.

Cai Larsen said...

Yn y bon dydi o ddim ots beth ydym yn ei feddwl o'r ddynas.

Dydi o ddim yn addas chwerthin am sefyllfa lle mae rhywbeth mae dynas wedi ei ddweud yn y gorffennol wedi ei gymryd fel cyfaddefiad ei bod rhywiol rwystredig oherwydd bod ei gwr yn dioddef o MS.

mae'r peth yn hynod anymunol - beth bynnag ein barn am y ddynas honno.

Dylan said...

Mae hynny'n wir iawn. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r cefndir yna cyn ddoe, felly roedd y ffws yn ddirgelwch i mi tan i mi ymchwilio. Yng ngoleuni hynny, dw i ddim yn gwadu bod yr olygfa yna'n anghynnes iawn.

Cyn belled nad ydi pobl yn anghofio bod Dorries yn gwbl atgas, dyna i gyd.