Sunday, September 18, 2011

Etholiad arlywyddol Iwerddon a phroblemau Fianna Fail

Mi'r oeddwn i'n anghywir yn y blogiad hwn ynglyn ag ymgeisydd Sinn Fein ar gyfer yr etholiad arlywyddol yn Iwerddon.  Roeddwn wedi credu mai ymgeisydd cymharol ifanc gyda phroffeil gweddol feddal fyddai'n cael ei dewis yn hytrach nag ymgeisydd proffeil uchel gyda'i gefndir yn yr IRA.  Mae ymgeiswyr sydd yn wahanol i'r norm o ddynion canol oed (neu hyn na hynny) wedi gwneud yn dda mewn etholiadau arlywyddol yn ddiweddar. Benywod fydd wedi trigo yn yr Aras am un mlynedd ar hugain pan ddaw arlywyddiaeth Mary McAleese i ben.

Mae dewis McGuinness yn awgrymu mai bwriad Sinn Fein ydi ceisio bwyta i mewn i gefnogaeth Fianna Fail, eu prif elynion yng ngwleidyddiaeth y Weriniaeth, yn hytrach na chwilio'n ehangach am bleidleisiau.  Mae'r ddwy blaid yn tueddu i ddenu pobl sydd efo'r un math o wleidyddiaeth - a'r frwydr fwyaf diddorol yng ngwleidyddiaeth y Weriniaeth tros y blynyddoedd nesaf fydd yr un am yr hawl i gario baner y traddodiad gweriniaethol.  Mae'n debyg na fydd Fianna Fail yn cynnig ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth a byddai SF wrth eu bodd yn cael ychydig wythnosau i apelio i'w cefnogwyr yn ddi dramgwydd.

Eamon O'Cuiv

Ac nid cyd ddigwyddiad ydi'r ffaith bod bygythiad o ryfel cartref ar y gweill oddi mewn i Fianna Fail yn dod o Orllewin Galway, cartref gwleidyddol Eamon O'Cuiv,   Mae sibrydion yn awgrymu bod O'Cuiv yn bygwth hollti'r blaid, a chychwyn  o'r newydd.  Yn ol y son mae Fianna Fail yn gweithio bymtheg y dwsin ar hyn o bryd i geisio'i atal rhag cynnal cyfarfod o'i blaid leol i ddatgan ei fwriad 'fory.  Mae yna gryn dipyn o symboliaeth yn perthyn i'r sefyllfa - mae O'Cuiv yn wyr i sylfaenydd Fianna Fail, Eamon de Valera - y dyn a greodd Fianna Fail yn 1926 trwy hollti Sinn Fein.

No comments: