Saturday, September 03, 2011

Newyddion da i'r SNP - eto fyth

Yn ol pol Ipsos Mori sydd wedi ei gyhoeddi ddoe mae'r SNP wedi ymestyn eu rhagoriaeth tros y pleidiau unoliaethol ar lefel Senedd yr Alban ers eu llwyddiant ysgubol yn gynharach eleni.  Yn wir maent o fewn trwch blewyn i ennill cefnogaeth hanner yr etholwyr ymysg y sawl sy'n sicr o bleidleisio.  Byddai hynny'n rhoi pob sedd uniongyrchol oni bai am rhyw 6 i'r blaid genedlaetholgar.



Yn fwy arwyddocaol o safbwynt yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf, mae'r SNP yn gyfforddus ar y blaen yn nhermau San Steffan hefyd.  Ar y lefel honno (ymysg y sawl sy'n sicr o bleidleisio) y ffigyrau ydi SNP 42%, Llafur 33%, Toriaid 15% a'r Lib Dems 6%.  Byddai hyn yn cyfieithu i 34 sedd i'r SNP (6 yn 2010), 21 i Lafur (41), 1 i'r Toriaid (1), a 3 (11) i'r Lib Dems. 

1 comment:

Anonymous said...

Diddorol iawn, sgwni pa le fydd Sansteffan gyda'r fath garfan, cyfnod cyffrous o'n blaenau.

Mae'n drueni nad oes gennym yr un cwmnioedd i fesur barn yng Nghymru serch hynny :(