Wednesday, September 14, 2011

Total Politics eto

Yn gwbl groes i'r hyn a ddywedais ddoe, mae Total Politics yn llunio rhestr o flogiau Cymreig eto eleni.  Ymddengys i Flogmenai ddod ar ben y rhestr eto eleni - felly diolch yn fawr i bawb oedd ddigon caredig i fwrw pleidlais drostaf.

Rhestr o bymtheg oedd hi eleni ac roedd y canlynol hefyd yn ymddangos arni:  Syniadau, Plaid Wrecsam, Welsh Ramblings, Borthlas, Peter Black, Betsan Powys, Blog Saesneg Alwyn, Wales Home, Bethan Jenkins, Blog Banw, Jack o'the North, blog Vaughan, blog Cymraeg Alwyn a Valleys Mam. 

Llongyfarchiadau i'r cwbl ohonyn nhw - mae iddynt oll eu rhinweddau - hyd yn oed blog Peter Black.

1 comment:

Anonymous said...

Oni'n hollol ddiarwybod i'r gystadleuaeth hon, wedyn llongyfarchiadau ar ddod ar y frig unwaith yn rhagor :D mae'n mawr o sioc gweld fy mlog i yno :D diolch i bwy bynnag wnaeth fy enwebu i neu fel arall :) gwerthfawrogi'n fawr.

Ceisio dringo i fynnu grisiau'r byd blogio flwyddyn nesaf nawr ;).