Gan bod pethau wedi mynd yn gymhleth braidd efo pobl yn dadlau ynglyn ag ol genedlaetholdeb, arweinyddiaeth y Blaid, y gynhadledd ac annibyniaeth yma, ac yma - efallai y byddai'n syniad i mi geisio dod a phethau at ei gilydd mewn un blogiad. Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau parhau a'r ddadl wneud hynny ar dudalen sylwadau'r blogiad hwn. Rhestraf isod dri phwynt sydd wedi codi o'r dadleuon sy'n ymddangos i mi yn berthnasol.
- Ol genedlaetholdeb a chamau bychain tuag at annibyniaeth. 'Dydi'r rhain ddim yn gyfystyr o gwbl. Mae ymhlyg yn ol genedlaetholdeb nad oes angen am wladwriaethau annibynnol. Mae sawl problem efo hyn wrth gwrs. Ar wahan i'r paradocs o ddadlau y dylai Cymru fod yn rhanbarth o led wladwriaeth Ewropiaidd yn hytrach na'n rhanbarth o wladwriaeth Brydeinig, mae'r holl beth bellach yn hen ffasiwn a naif. Profiad y degawdau diwethaf ydi bod rhanbarthau yn troi yn wladwriaethau ar hyd a lled Ewrop yn hytrach na gwladwriaethau yn troi yn ranbarthau. Mae gan wladwriaethau lawer iawn mwy o rym oddi mewn i Ewrop na rhanbarthau. Er enghraifft, mae Iwerddon gyda phoblogaeth tebyg i un Cymru (4m i 3m) 12 aelod Ewropiaidd o gymharu a 4 yma a sedd ar Gyngor Ewrop - y fforwm lle gwneir y penderfyniadau arwyddocaol. Fel mae un cyfranwr wedi nodi, mae profiad diweddar Catalonia (lle aeth llysoedd Sbaen ati i ddatgan polisi iaith ysgolion Catalonia yn anghyfreithlon) yn dangos gwendid rhanbarth pan mae'n dod i wrthdrawiad efo gwladwriaeth.
- Y ddadl na ddylid tynnu gormod o sylw tuag at annibyniaeth rhag ofn i'r Blaid Lafur ddefnyddio'r polisi i ddychryn pobl. Mae'n nodwedd gyffredin o wleidydda i geisio dychryn pobl. Er enghraifft yn ystod yr ymgyrch arwyddion ffordd dwyieithog roedd pob math o storis yn cael eu creu gan bobl fel George Thomas - y byddai yna ddamweiniau ym mhob man, y byddai'r gost yn anferthol, y byddai pobl yn mynd ar goll, na fyddai pobl eisiau dod i Gymru ac ati. Yn yr un modd pan sefydlodd llywodraeth Lafur cyntaf Blair leiafswn cyflog, roedd y Toriaid yn honni y byddai diwydiannau yn gadael y wlad yn eu canoedd. Y ffordd i ymateb i ddadleuon gwirion sydd wedi eu creu er mwyn dychryn ydi trwy ymateb yn rhesymegol, ac nid trwy ildio iddynt.
- Yr Iaith Gymraeg. Mae problem gan y Blaid. Mae llawer yn ei chysylltu efo'r iaith yn annad dim arall, ac mae synnwyr cyffredin yn mynnu ein bod yn mynd i'r afael efo'r canfyddiad hwnnw. Mae'n anodd gwneud hyn ac osgoi glastwreiddio'n cefnogaeth i'r Gymraeg, ond fel mae Aled yn awgrymu mae gonestrwydd yn bwysig yn hyn o beth. Fodd bynnag mae cydbwyso cefnogaeth i'r iaith ac addasu delwedd y Blaid yn haws nag y bu - mae yna lawer o ewyllys da tuag at y Gymraeg mewn ardaloedd Seisnig y dyddiau hyn, fel mae'r galw anferth am addysg cyfrwng Cymraeg yn ei awgrymu.
5 comments:
Gyda diolch i Cai am ymestyn y drafodaeth, dwi'n meddwl bod angen i PC ddangos dewrder ar fater rol y Gymraeg ym mywyd Cymru. Nid jest dewrder wrth ei hyrwyddo yn y bywyd hwnnw, ond dewrder hefyd wrth wynebu realiti pethau fel ag y mae hi yng Nghymru heddiw.
Hoffwn i weld PC yn herio'r consensws "wishy washy" hyn o blaid y Gymraeg hyn sy'n bodoli ymhlith yr holl bleidiau ym Mae Caerdydd, a dilyn trywydd tipyn mwy beiddgar, fyddai'n dangos dealltwriaeth o sut mae pethau go iawn ar lawr gwlad. Er enghraifft, pam na allai PC ddechrau dadlau dros fodelau iaith gwahanol i adlewyrchu Cymru fel ag y mae hi? E.E Model A, fyddai'n gosod y pwyslais ar gynnal yr iaith fel iaith fyw gymunedol yn y gorllewin.
( Mae syniad Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd, o uno Cynghorau Mon, Gwynedd a Chonwy yn un enghraifft o sut allai'r model hon weithio).
Gallai Model B gefnogi datblygiad yr iaith mewn ardaloedd ble mae llai o siaradwyr Cymraeg a gallai Model C annog twf graddol yr iaith mewn ardaloedd mwy Seisnigedig. Bydd rhai cenedlaetholwyr yn siwr o ruo mai rhannu Cymru fyddai peth fel hyn. I'r gwrthwyneb yn llwyr- gellid parhau i hywryddo'r iaith fel etifeddiaeth Cymru gyfan o'r gorffennol ac ymlaen i'r dyfodol- tra'n cydnabod realiti'r presennol mewn modd call a realistig. Wrth ymroi i gyflwyno achos annibyniaeth o'r newydd, mae'n bwysicach nag erioed cael trafodaeth aeddfed ar sut y mae'r iaith yn ffitio i mewn yn y darlun hwn- ac mi ddylai Plaid Cymru arwain y drafodaeth hon.
Mae'n fater - ahem - delicet. Mae'n gwneud synnwyr o safbwynt yr iaith i deilwra'r mesurau a ddefnyddir i'w hamddiffyn i ardaloedd penodol - ond mae yna risg o rannu gwlad sydd eisoes yn rhanedig.
Problem arall ydi bod yr iaith yn tyfu gyflymaf yn rhai o ardaloedd mwy Seisnig Cymru.
'Dydi hyn ddim yn golygu nad ydi dy syniadau yn bosibl. Yr hyn sydd ei angen o bosibl ydi strwythur sy'n creu lle i ni gael sgwrs aeddfed ymysg ein gilydd fel cenedl ynglyn a lle'r Gymraeg yn ein bywyd cenedlaethol.
Y ddadl na ddylid tynnu gormod o sylw tuag at annibyniaeth rhag ofn i'r Blaid Lafur ddefnyddio'r polisi i ddychryn pobl.
Dyma fu man gwan y Blaid ers talwm, a braf yw gweld gwleidyddion megis Adam Price, Elin Jones a Helen Mary,yn cydnabod hynny bellach.
Mae PAWB yn gwybod mae annibyniaeth yw nod Plaid Cymru!
Trwy holl gyfnod y Blaid yn gwrthod defnyddio'r I word roedd gwrthwynebwyr y Blaid yn ymosod ar y Blaid am ei ymrwymiad i annibyniaeth, ond doedd y Blaid ddim yn amddiffyn annibyniaeth. Sefyllfa a oedd yn gwneud i Blaid Cymru edrych yn wan, yn ddauwynebog, dim yn ddidwyll ac yn awgrymu nad oedd dadl o blaid annibyniaeth.
Yr unig wendid sydd gan y Blaid parthed annibyniaeth, bellach, yw'r tueddiad i alw annibyniaeth yn bolisi "hir dymor". Hwyrach bydd y cyrhaeddiad yn hirdymor ond dylid mynnu annibyniaeth yfory a gweithio tuag at nod o annibyniaeth fyrdymor.
Mae'n debyg bod y sawl ohonom sydd yn ein penwynni yn debycach o bleidleisio na chywion bach y nyth. Hwyrach bod annibyniaeth ymhen 50 mlynedd (© Seimon Thomas) yn apelio i bleidleisiwr 21in oed sydd am weld Cymru Rydd pan ddaw ei ben-blwydd yn 70 - ond yr wyf eisoes ym mhell dros fy haner cant, ac nid wyf am farw'n ddinesydd Prydeinig - dydy'r hir dymor ddim yn ddigon da imi, dydy'r hir dymor ddim ar gael i mi!
Yn hollol. Mae gwrthwynebwyr Plaid Cymru yn cysylltu'r Blaid ag annibynniaeth dim ots beth, felly waeth ymfalchïo yn y syniad ddim. Mae'n dra thebygol na fydd gan Plaid Cymru unrhyw ddewis yn y blynyddoedd i ddod, beth bynnag; gyda llwyddiant yr SNP yn golygu bod annibynniaeth i'r Alban ar fin dod yn bwnc llosg, byddai'n wirioneddol etholiadol niweidiol i Blaid Cymru beidio pledio achos tebyg yng Nghymru. Byddai ymddangos fel pebaent yn cuddio'u gwir amcanion yn fwy trychinebus nag erioed.
Cofiwch bod llawer ohonon ni sy'n cefnogi'r blaid ddim eisiau annibyniaeth, h.y. rydyn ni eisiau cymaint o annibyniaeth ag sydd yn angenrheidiol. I mi, does dim rhaid i hyn olygu bod yn aelod llawn o'r Cenhedloedd Unedig. Dwi'n meddwl y byddai'n beth da parhau gyda'r syniad o anniybyniaeth yn y tymor hir. Y peth pwysicaf ydy cael digon o hunan reolaeth i wneud y pethau sydd rhaid eu gwneud a wedyn gofyn am fwy fel ac os y bydd hynny'n angenrheidiol. Dwi'n gweld fy mod ar ben fy hun ar y wefan hon ond dwi'n siwr nad ydw i ddim ar ben fy hun yn y Blaid.
Post a Comment