Tuesday, September 20, 2011

Pam bod rhai marwolaethau yn fwy arwyddocaol i ni nag ydi eraill

Ar ddiwrnod pan roedd y sefydliad gwleidyddol Cymreig yn coffau'r pedwar a fu farw ym Mhwll y  Tarenni Gleision yng Nghwm Tawe, efallai y byddai'n ddiddorol holi pam bod y drychnideb yma yn cydio yn y dychymyg yng Nghymru a thu hwnt i'r fath raddau. Ar un olwg 'dydi'r holl sylw ddim yn gwneud synnwyr - mae yna lawer o bobl yn marw yn flynyddoedd mewn damweiniau yng Nghymru, a dydi llawer o'r marwolaethau hynny prin yn derbyn unrhyw sylw yn y newyddion cenedlaethol.



Er enghraifft, bu farw 95 o bobl ar ffyrdd Cymru y llynedd, gan gynnwys  4 o ddynion ar yr un pryd mewn damwain car ym Mhorthcawl.  Anafwyd bron i 1,000 o bobl yn ddifrifol mewn damweiniau car yn ystod yr un blwyddyn, ac roedd yna 6,856 damwain a arweiniodd at farwolaeth neu anaf o rhyw fath neu'i gilydd.  Roedd cyfanswm yr anafiadau neu farwolaethau yn 9,961.  'Dydi damwain sydd yn arwain at nifer o farowlaethau ddim yn arbennig o anarferol Lladdwyd pedair o ferched 15 ac 16 oed o Flaenau Gwent mewn damwain yn Llangynidr, Powys yn 2007, er enghraifft.  Mae yna gyfartaledd o ugain bobl yn marw yn eu tai eu hunain o ganlyniad i danau pob blwyddyn yng Nghymru.

Mae'r ffaith bod marwolaethau mewn pwll glo yn anarferol iawn yng Nghymru bellach yn  un o'r rhesymau am yr holl sylw wrth gwrs, ond 'dydi marwolaethau anarferol eraill ddim yn cynhyrchu'r fath gyhoeddusrwydd.  Bu farw tri o'r un teulu ym Mhontllanfraith o ganlyniad i effeithiadau carbon monocseid yn 2010 er enghraifft, a chafodd y stori honno ddim llawer o sylw.

Mae yna resymau eraill, ac mae'r rheiny'n ymwneud a'r ffordd yr ydym yn gweld ein hunain, a'r ffordd mae eraill yn ein gweld - maen nhw'n gweddu i naratifau sy'n ymwneud a'r hyn ydi Cymru..  Mae'r diwydiant glo yn ganolog i ddatblygiad yr hyn ydi Cymru heddiw, y diwydiant hwnnw a'r diwylliant a dyfodd yn ei sgil sy'n diffinio'r hyn rydym - i lawer ohonom beth bynnag - yn annad unrhyw ddylanwad arall.   

Mae'r Gymru gyfoes (ol ddiwydiannol yn aml) yn gymharol gymhleth, a 'does gennym ni ddim naratif syml sy'n ein diffinio.  Mae digwyddiad trist fel un yr wythnos ddiwethaf yn gweddu'n dwt i naratif sydd wedi dyddio, ond sydd serch hynny yn un pwerus a syml - naratif y Gymru dlawd, ddiwydiannol lle mae dioddefaint a marwolaeth disymwth yn rhan o fywyd pob dydd.  Er mor ddirdynol yr amgylchiadau maent yn seicolegol gyfforddus i ni i'r graddau eu bod yn gweddu i hen ddealltwriaeth yr hyn rydym - ac maent yn ein cysylltu efo'r trychinebau mawr hynny sy'n rhan o'n cof torfol.  'Dydi marwolaethau o ganlyniad i dan, nwyon, boddi ac ati ddim yn gwneud hynny, felly dydyn ni ddim yn priodoli'r un arwyddocad iddyn nhw.

Dydi rhoi mwy o arwyddocad i rai marwolaethau nag i rai eraill ddim yn nodwedd unigryw Gymreig wrth gwrs - mae pob diwylliant yn gwneud hynny.  Er enghraifft roedd America yn cofio ymysodiadau 9/11 yn ddiweddar.  Mae'n gwbl wir i lawer iawn o bobl farw o ganlyniad i'r ymysodiadau ar yr efaill dyrau - tros i dair mil mae'n debyg.  Ond bu farw llawer, llawer mwy o bobl Irac o ganlyniad i ymysodiadau yr UDA a'i chyfeillion yn dilyn yr ymysodiadau hynny.  Mae'n debyg i tua 112,000 o sifiliaid farw yn ystod ac yn dilyn ymgyrch y cynghrieriaid - tua 28 o sifiliaid am pob un a fu farw yn ystod yr ymysodiadau yn Efrog Newydd a Washington.  'Doedd a wnelo Irac (heb son am ei sifiliaid) ddim oll a'r ymysodiadau wrth gwrs.

Doedd yna ddim cydnabyddiaeth o hynny o gwbl yn ystod y seremoniau yn America, nag yn  y sbloets fawr a wnaeth y cyfryngau Prydeinig o'r holl beth.  Mae yna resymau am hynny wrth gwrs, ond rhaid i'r rheiny aros am flogiad arall.  . 

3 comments:

Anonymous said...

'Pam fod rhai marwoalethau'n fwy arwyddocaol i ni nag ydi eraill?'

... erm, achos fod yn rhaid i'r Blaid Lafur feddiannu naratif y diwydiant glo gan mai dyna'r naratif sy'n eu cynnal yn etholiadol. Dyna pam.

Heddwch i llwch y 4 dyn bu farw a'r rhai bu farw mewn damweiniau ar ffermydd, seits adeiladu, ffatrioedd cemegol ac unrhyw ddamwain torcalonnus arall.

Dylan said...

Blogiad ardderchog. Mae graddfa'r galar dros y dyddiau diwethaf wedi fy synnu braidd, mae'n rhaid cyfaddef. Dw i'n siwr dy fod wedi taro'r hoelen ar ei phen.

Dw i wedi rhyfeddu at yr hysteria ynglyn â sylwadau gwirion rhyw dwpsod random di-nod ar y we hefyd. Dw i'n credu bod hynny'n enwedig yn dangos bod rhywbeth gwahanol ar y gweill fan hyn, rhywbeth sy'n gwneud i'r marwolaethau yma daro rhywbeth yn y Cymry nad ydi marwolaethau eraill (mwy diflas a chonfensiynol) yn gwneud.

Alwyn ap Huw said...

Rwyt yn codi cwestiwn diddorol a phwysig Cai, un yr wyf wedi ei glywed yn cael ei gwyntyllu gan bobl o gefndiroedd amaethyddol a di Gymreig yn y dafarn leol hefyd. Pe bai'r pedwar gwron wedi marw wrth bysgota ar yr afon Tywi, byddai'n brofiad yr un mor erchyll i'w teuluoedd, ond prin y byddai'n cyffwrdd ysbryd y genedl

Bu farw fy nai mewn damwain car tair blynedd yn ôl. Cyn hynny yr oeddwn yn dueddol o ddarllen storïau am ddamweiniau traffig fel stori drist arall am yrwyr ifanc gwyllt, heb fawr o wir deimlad. Ers i'r fath drasiedi ymweld â fy nheulu i, byddwyf bellach yn ail-fyw'r loes o golli fy nai pob tro y byddwyf yn gweld y fath hanes yn y papurau newyddion ac yn cydymdeimlo'n ddwys gyda'r teuluoedd a effeithiwyd.

Pan laddwyd un ar bymtheg o blant yn Ysgol Gynradd Dunblane ym 1996 yr oeddwn newydd wedi dyfod yn dad am y tro cyntaf. Pan glywais y newyddion ar radio'r car, bu'n rhaid imi droi'r car yn ôl am adref i weld bod fy mab bach yn iawn. Roedd y fath ymddygiad yn gwbl afresymol - doedd fy hogyn i ddim yn ddigon hen i fynd i'r ysgol ac yn byw 300 milltir i ffwrdd o'r trychineb, ond roedd clywed am gynifer o rieni wedi colli eu plant annwyl yn creu greddf uwchben reswm yn fy meddwl a oedd yn fy ngorfodi i fynd adref i gofleidio ac amddiffyn fy maban.

Ar 21in o Hydref 1966, (diwrnod trychineb Aberfan) yr oeddwn yn hogyn digon mawr i gerdded i Ysgol Gynradd Dolgellau ar ben fy hun. Gydag ambell i eithriad cerdded i'r ysgol, heb riant, gwnaeth y rhan fwyaf o'r plant; ond pan ganodd y gloch mynd adref prin oedd y plant heb riant i'w hebrwng adref!

Prin yw pobl Cymru a pharthau ôl diwydiannol eraill yr ynysoedd hyn sydd heb gysylltiad teuluol i'r ing sy'n perthyn i'r perygl o naddu craig, boed glo, llechen, plwm neu aur; mae clywed am bobl yn cael eu lladd dan ddaear yn ail agor y graith honno ac yn dod a'r loes yn nes adref.