Wednesday, September 21, 2011

Goblygiadau is etholiadau Diffwys a Maenofferen a Phenrhyndeudraeth

Rydym eisoes wedi edrych yn frysiog ar yr is etholiadau yn Niffwys a Maenofferen a Phenrhyndeudraeth sydd i'w cynnal ar ddydd Iau olaf y mis isod.  'Dwi wedi darparu gwybodaeth am yr ymgeiswyr Plaid Cymru ac Annibynnol yma, tra bod Golwg360 wedi cynhyrchu darn ar yr ymgeiswyr Llais Gwynedd yma



Rwan, mae'r etholiadau hyn - rhai olaf y flwyddyn yn ol pob tebyg - yn arwyddocaol i Lais Gwynedd a Phlaid Cymru am wahanol resymau.  Tra bod 2011 wedi bod yn un gweddol wael i'r Blaid tros Gymru yn gyffredinol, mae pethau wedi bod yn well o lawer yng Ngwynedd.  Er i'r bleidlais syrthio ym Meirion Dwyfor yn etholiadau'r Cynulliad, roedd y fuddugoliaeth yn un sylweddol iawn beth bynnag.  Cynyddodd canran pleidlais y Blaid yn Arfon yn yr un etholiadau.  Ar lefel lleol, cafwyd tair is etholiad yn y sir ac enillwyd y dair.



Ar y llaw arall - fel rydym wedi nodi eisoes - bu'r flwyddyn yn un hynod wael i Lais Gwynedd.  Er iddynt ganolbwyntio eu holl ymdrechion ar Feirion Dwyfor yn etholiadau'r Cynulliad, trydydd gwael y tu ol i'r Toriaid oedd eu hymgeisydd.  Collwyd is etholiad ym Mlaenau Ffestiniog, ac ni lwyddwyd hyd yn oed i gael ymgeiswyr ar gyfer yr is etholiadau eraill. 

Felly mae'r etholiadau yn bwysig i'r ddwy blaid.  O ennill y ddwy gallai Plaid Cymru yng Ngwynedd edrych yn ol ar flwyddyn digon llwyddiannus, ac edrych ymlaen gyda chryn obaith at etholiadau lleol 2012.  Mae'r Blaid o fewn trwch blewyn i fwyafrif llethol fel mae pethau.  Byddai colli'r ddwy yn siomedig, ond byddai'n digwydd yng nghyd destun blwyddyn digon boddhaol. 

O ran Llais Gwynedd byddai ennill y ddwy - neu un hyd yn oed yn mynd rhyw fymryn o'r ffordd tuag at achub blwyddyn drychinebus.  Byddai colli'r ddwy yn ergyd drom iawn i foral y grwp - gyda phob dim maent wedi ei gyffwrdd o safbwynt etholiadol eleni wedi troi'n llwch.  Byddai goblygiadau pell gyrhaeddol i grwp megis Llais Gwynedd sydd heb syniadaeth ganolog petaent yn cael eu cysylltu gyda methiant etholiadol parhaus.

Ar hyn o bryd maent yn denu ymgeiswyr trwy ddwyn perswad ar bobl o safbwyntiau gwleidyddol amrywiol iawn i sefyll yn eu henw.  Tra bod y gwynt etholiadol yn eu hwyliau roedd ganddynt rhywbeth i'w gynnig i ddarpar ymgeiswyr - mantais peth o'r gwynt hwnnw.  Ond os oes canfyddiad bod sefyll tros Lais Gwynedd o anfantais etholiadol, bydd yn anodd iddynt berswadio pobl i sefyll trostynt - bydd eu hymgeiswyr potensial yn sefyll yn annibynnol, neu yn enw'r pleidiau prif lif. 

Mae llwyddiant yn yr etholiadau yn bwysig i'r Blaid - ond mae'n hanfodol i Lais Gwynedd. 

No comments: