Saturday, September 03, 2011

Rhywun arall ddim yn deall datganoli

Mae'r adroddiad diweddar gan yr Athro David Travers o'r LSE sy'n beirniadu'r Cynulliad am fod yn rhy barod i ymyrryd ym musnes awdurdodau lleol sy'n tan berfformio yn esiampl dda o fethiant i ddeall datganoli gan sefydliadau Seisnig.

Mae'n gwbl wir wrth gwrs bod mwy o ymyrraeth o lawer gan y Cynulliad, gyda dau gyngor yn cael eu rhedeg gan gomisiynwyr eisoes, ac un arall mewn perygl o gael ei hun yn yr un sefyllfa.  Ond mae hefyd yn wir bod llawer mwy o gyllid y Cynulliad yn cael ei ddatganoli i'r cynghorau lleol na sydd yn cael ei ddatganoli yn Lloegr.  Mae tua thraean o arian y Cynulliad yn cael ei wario trwy'r cynghorau, tra mai ffracsiwn bach iawn o arian San Steffan sy'n cael ei wario ganddynt.  Mae dau brif reswm am hyn - mae cyfrifoldebau San Steffan yn llawer ehangach na rhai'r Cynulliad, ac mae ysgolion yn cael eu hariannu mewn ffordd wahanol yng Nghymru a Lloegr.

Mae'n ymddangos yn gwbl naturiol felly bod y Cynulliad efo diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd i lwmp mor sylweddol o'u cyllid.  Yn wir byddai cymryd yr agwedd mai mater syml i'r cynghorau ydi cyfiawnhau eu gwariant yn ymylu ar fod yn anghyfrifol.  

No comments: