Monday, September 26, 2011

Twitter i agor swyddfa ryngwladol yn Nulyn - y wers i Gymru

Cyhoeddodd Twitter gynlluniau heddiw i agor swyddfa yn Nulyn.  Mae'n debyg i brifddinas y Weriniaeth ennill y buddsoddiad - a allai dyfu i fod yn un arwyddocaol mewn amser - yn wyneb cystadleuaeth chwyrn o Berlin a Llundain.  Mae gan Google a Facebook eisoes bresenoldeb sylweddol yn y Weriniaeth. 

Mae Iwerddon wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd y llanast economaidd mae wedi cael ei hun ynddo.  Canlyniad i or fenthyg ar ran ei banciau oedd hynny wrth gwrs.  Yr hyn nad yw wedi cael cymaint o sylw ydi bod y wlad wedi llwyddo i barhau i ddenu buddsoddiad tramor sylweddol, hyd yn oed yn yr amgylchiadau economaidd sydd ohonynt.  Y gallu cyson  i wneud hynny yn y gorffennol cymharol agos oedd sail y Teigr Celtaidd wrth gwrs.



Mae'n anodd dychmygu Google, Facebook a Twitter yn lleoli eu swyddfeydd rhyngwladol yng Nghaerdydd yn hytrach na Llundain neu Berlin.  Maent yn mynd i Ddulyn fodd bynnag - ac er bod nifer o resymau eilradd am hynny - y prif reswm ydi bod treth corfforaethol y Weriniaeth yn 12.5%,  llai na hanner y gyfradd yn y DU.  Mae gallu'r wlad i ddigolledu ei hun am ei hanfanteision daearyddol yn greiddiol i'w gallu i ddenu cwmniau o ansawdd uchel.  Mae diffyg gallu Cymru i amrywio trethi fel eu bod yn cwrdd a'i anghenion ei hun wrth wraidd ei diffyg gallu i ddenu buddsoddiad tramor.

Mae'r sawl sydd yn gwrthwynebu i Gymru gael pwerau trethu llawn - ac mae hynny'n cynnwys llywodraeth Cymru - mewn gwirionedd yn datgan nad ydyn nhw o ddifri ynglyn a denu buddsoddiad i'r wlad. 

7 comments:

Anonymous said...

Ma Dell ac Apple hefyd wedi eu lleoli yn Iwerddon.

Anonymous said...

Beth wyt ti'n meddwl am arian Cymraeg (currency) hefyd? Dwi o'r farn fod y sawl sydd yn erbyn hyn yn ogystal mewn gwirionedd yn datgan nad ydyn nhw o ddifri ynglyn a denu buddsoddiad i'r wlad.

Anonymous said...

Yn ychwanegol i'r uchod wrth gwrs, yn y cyfamser, mi wneith yr pwerau trethiu llawn helpu rywfaint. :-)

menaiblog said...

Mi wneith unrhyw bwerau cyllidol / trethiant wahaniaeth.

Mi'r ydym yn bell o fof mewn sefyllfa i ystyried trefn ariannol Gymreig.

Anonymous said...

Weithiau fel Dylan Jones-Evans a Guto Bebb - dwi'n teimlo fel Tori - ond wedyn dwi'n cofio taw y ymladd rhyfeloedd tramor a cheisio bod yn 'somebody' yn rhyngwladol yw'r gwastraff mwy o arain ellir dychmygu !

menaiblog said...

Mae'n wir bod y gyfres di ddiwedd o ryfeloedd yn wastraff arian cyhoeddus ar raddfa epig.

Mei said...

Mae werth darllen Ship of Fools: How Stupidity and Corruption Sank the Celtic Tiger gan Fintan O'Toole i gael y gwir am hyn.

Ar y wyneb mae'n gwneud unrhyw Gymro yn eiddigeddus, ond dyw Iwerddon ddim wir yn capitaleiddio ar hyn. Nid oes systemau addysg IT wedi'u paratoi i fwydo gweithwyr Gwyddeleg mewn i'r cwmniau hyn - mae nhw yma oherwydd y gyfradd dreth hurt o isel mae Iwerddon yn cynnig.