Sunday, July 04, 2010

Pleidleisiwch i'ch hoff flogiau!

Ymddengys bod Total Politics yn cynnal eu cystadleuaeth (os mai dyna'r gair) flynyddol. Daeth y blogmenai yn drydydd trwy Gymru y llynedd, er nad ydi bron i 80% o'r boblogaeth yn gallu deall gair sy'n cael ei ysgrifennu arno.

Yn groes i honiadau gorffwyll ac eiddigeddus Paul Flynn wnes i ddim gofyn i neb am bleidlais - dim ond rhoi cyhoeddusrwydd i'r digwyddiad ac awgrymu i bobl fotio i flog Cymreig. Gan bod hynny wedi gweithio mor dda y llynedd, waeth i mi wneud yr un peth eleni - felly cofiwch fwrw pleidleisiau i flogiau Cymreig!

Cliciwch ar y ddelwedd isod os ydych eisiau pleidleisio:

Click here to vote in the Total Politics Best Blogs Poll 2010

6 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Wedi pledleisio drostat ti a'r usual suspects eraill.

Gwd thing

Cai Larsen said...

Mi fydd rhaid i mi ddychwelyd y ffafr felly Ifan.

Plaid Gwersyllt said...

A pleidlais arall i chdi, a ddim ffafr ydy, ond am dy fod yn haeddu pleidlais. Ond mae'n rhaid fi ddeud dy fod wedi mynd braidd yn hirwyntog y flwyddyn ddwetha ma!!

Anonymous said...

Mi gei di fy mhleidlais eleni gan bod un Gwilym Euros wedi mynd yn ddistaw iawn ers ganol Ebrill am ryw reswm!

Cai Larsen said...

A wel sori Plaid Gwersyllt - henaint ni ddaw ei hunain!

Cai Larsen said...

Wel anhysbys mi fedri di pob amser bleidleisio i flog Aeron Maldwyn yn absenoldeb Gwilym Euros.