Thursday, July 15, 2010

Llais Gwynedd yn cadw sedd Gwilym Euros

Deallaf bod ymgeisydd Llais Gwynedd wedi cadw sedd Diffwys a Maenofferen i'r grwp sydd wedi bod yn ddi gynghorydd am gyfnod yn sgil ymddiswyddiad diweddar Gwilym Euros Roberts.

Richard LLOYD-JONES Llais Gwynedd 185

Paul Eurwel THOMAS Plaid Cymru 181

5 comments:

Alwyn ap Huw said...

Agos iawn! Llongyfarchiadau i Richard Lloyd Jones, a chydymdeimladau mawr i Mr Thomas, mae' n rhaid bod colli o gyn lleied o bleidleisiau yn fwy o artaith na chael crasfa go iawn
Onid oedd is etholiad yn nhref Caernarfon heddiw hefyd wedi marwolaeth cynghorydd annibynnol?

Plaid Gwersyllt said...

Wyt ti'n meddwl fod penderfyniad Cyngor Gwynedd i gau ysgol Y Parc wedi rhoi digon o hwb in Lais Gwynedd?

Cai Larsen said...

Na Alwyn - does yna neb wedi gofyn am is etholiad tref eto yn dilyn marwolaeth Melvyn. Aelod Llafur oedd Melvyn wrth gwrs.

Roedd Bob (a oedd yn annibynnol) ar y cyngor tref a'r cyngor sir, ond yn amlwg mae'n gyn amserol i gael is etholiadau yno.

A dweud y gwir does gen i ddim syniad os oedd a wnelo Ysgol Parc unrhyw beth a'r canlyniad - er bod y mwyafrif yn fach iawn wrth gwrs.

Huw said...

Petai mwyafrif yn fach neu fawr, mae dal yn fwyafrif, a mwyafrif sy'n ennill etholiad!

Cai Larsen said...

Mae hynny'n bwynt braidd yn amlwg Huw.

Ymateb i gwestiwn Plaid Gwersyllt ynglyn a'r cysylltiad rhwng cau Ysgol Parc a'r canlyniad oeddwn i.