Tuesday, July 20, 2010

John Dixon (yr un Lib Dem) a'i broblem fach grefyddol


Ymddengys bod y Cynghorydd Lib Dem o Gaerdydd, John Dixon mewn mymryn o ddwr poeth efo'r Ombwdsman llywodraeth leol am gyfeirio at yr Eglwys Scientoleg fel un stupid. Mi gewch chi benderfynu pa mor afresymol ydi canfyddiad John, a pha mor briodol ydi o i'r Ombwdsman wario pres y cyhoedd yn ymchwilio i'r mater.



Awdur oedd yn yfed i raddau ychydig yn ormodol o'r enw L Ron Hubbard ydi tad, mam, nain a thaid y lobs sgows o syniadau yma. Mae'n debyg iddo gymryd bet tra yn ei ddiod y gallai greu 'crefydd', cael hanner Hollywood i gredu ynddo a thaflu pres i'w gyfeiriad. Enilliodd y bet.

Dyma'r fytholeg sydd y tu ol i'r crefydd yn fras:

Roedd yna broblem gor boblogi mewn rhyw blaned neu'i gilydd felly dyma'r prif ddyn, Xenu yn mynd a llawer o'r bobl oedd yn ormodol yno i'r Ddaear cyn mynd ati i'w chwythu i abergofiant gyda bomiau niwclear mewn ogof. Yn naturiol ddigon dihangodd eu heneidiau, a adwaenir fel Thetans, ond roedd Xenu gam o'u blaenau - llwyddodd i'w dal nhw i gyd mewn 'magl eneidiau', a'u gorfodi i wylio ffilmiau propoganda. O ganlyniad i edrych ar y dywydiedig ffilmiau daeth y Thetans druan i gredu mewn Duw, Iesu Grist a'r Diafol ac maent o gwmpas y lle i gyd yn ceisio gweithio eu ffyrdd i mewn i'n cyrff mewn clystyrau gan achosi pob math o broblemau anymunol i ni oll. Yr ateb i'r holl broblemau a achosir gan hyn ydi rhywbeth o'r enw Dianetics - cysyniad nad oes gan Flogmenai yr ynni i'w drafod yr amser yma o'r nos.

6 comments:

Ioan said...

Peth hawdd ydi cymeryd y mic o grefydd pobol eraill. Mae dy 'flog list' di'n cynwys crefydd y bysa lot o bobol yn ei gysidro'n 'stupid'!

Cai Larsen said...

Mae'n hawdd cymryd y mic, chwadl tithau, o bob math o bethau - ond 'does yna ddim cymaint a hynny o bethau ti'n gallu cael dy hun o flaen Ombwdsman llywodraeth leol am 'dynnu'r mic' ynglyn a nhw.

Dylan said...

Mae'r stori yma'n anhygoel. Mae seientoleg yn stiwpid, a phob clod i'r cynghorydd am nodi hynny (mewn ffordd digon ffwrdd-a-hi). Ombwdsman wir. Swn i'n poeni lot fawr os oes un cynghorydd etholedig yng Nghymru gyfan sy'n anghytuno efo Mr Dixon.

Anonymous said...

Wele dwiiit diweddara Dyfrig Jones (Gerlan): http://twitter.com/dyfrig/statuses/19013447053

Ioan said...

Do'n ni ddim yn anhytuno hefo be ot ti'n ddweud am yr ombwdsman, synu bod ti'n cymeryd y mic on i! Er mwyn cael balans ar y blog yma:

http://www.youtube.com/watch?v=zOfjkl-3SNE&feature=channel

Stiwpid?

Hogyn o Rachub said...

Dwi'n cytuno รข Dylan, a taswn i'n fo baswn i'm yn ymddiheuro! Ond yn fwy na bod yn stiwpid, mae'n gwlt bach cas a sinistr ... dwi'm yn ffan de!