Tuesday, March 30, 2010

Blogio yn y Gymraeg - ychydig o nodiadau brysiog

Dyma un o'r sylwadau a adawyd yn fy mlogiad diwethaf ar ddiffyg ystyr llawer o ohebiaeth Cymraeg y Lib Dems yn Sir Geredigion.

Beth am flog Penri James:

http://penrijamesceredigion.blogspot.com/2010/03/wwwpenrijamescom.html

Ymgeisydd y Blaid yng Ngheredigion yn cadw blog sy'n 99% uniaith Saesneg.

Ella nad ydi Penri ddim yn gallu sgwennu Cymraeg chwaith.


'Rwan mae'r pwynt yn un perthnasol a gwerth ei drafod. Mae'r rhan fwyaf o ddigon o flogiau gwleidyddol Cymreig yn rhai cyfrwng Saesneg, mae yna un neu ddau sy'n ddwyieithog ac mae yna ychydig sydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig

'Dydw i erioed wedi beirniadu cyfrwng blogio neb, ac mae yna reswm am hynny. Yn wahanol i ohebiaeth gwleidyddol sy'n cael ei stwffio trwy dwll llythyrau pawb, does yna neb yn gorfod ymweld a blog oni bai ei fod eisiau gwneud hynny. 'Dwi'n dewis blogio trwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Os nad ydi hynny at ddant rhywun neu'i gilydd, dim problem - gallant beidio ag ymweld a'r blog. Mae eraill yn blogio trwy gyfrwng y Saesneg - os nad ydi pobl yn hoffi hynny, nid oes rhaid iddynt ymweld a'r blog.

Fel rheol mae pobl yn dewis blogio trwy gyfrwng iaith arbennig oherwydd mai trwy gyfrwng yr iaith honno maent yn fwyaf cyfforddus yn ei hysgrifennu. 'Dydi hynny ddim yn wir amdanaf i - gradd Prifysgol Saesneg sydd gen i, a 'dwi'n hapusach yn 'sgwennu trwy gyfrwng y Saesneg na'r Gymraeg. 'Dwi'n blogio trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd fy mod yn teimlo dyletswydd i wneud hynny - mae'r blogosffer gwleidyddol Cymraeg yn fach iawn ac mae'n bwysig i mi bod pob agwedd o fywyd yn cael ei gynrychioli trwy gyfrwng y Gymraeg - ar y We ac yn y cigfyd. 'Dwi'n teimlo bod gennyf gyfraniad bach yn hyn o beth. Mi fyddai'n well gen i petai mwy o bobl sy'n gallu blogio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud hynny.

Fyddwn i ddim eisiau blogio yn ddwyieithog chwaith - fedra i ddim gweld pwynt. Os ydi rhywbeth ar gael yn y ddwy iaith, mae'r rhan fwyaf o bobl am ddarllen y fersiwn Saesneg. 'Dwi'n deall pam bod rhai blogwyr megis Gwilym yn cyfieithu fwy neu lai pob dim - mae yna bwrpas etholiadol i'w blogiau ac maent eisiau cysylltu a chymaint o bobl a phosibl. Serch hynny mi fyddai'n well gen i weld blogwyr dwyieithog yn 'sgwennu un blogiad yn y Gymraeg ac un arall yn y Saesneg, gan efallai roi eglurhad byr yn y Saesneg pan fydd y blogiad yn Gymraeg fel y bydd Guto yn ei wneud ambell waith.

Mae peidio a chyfieithu pob dim yn egwyddor pwysig ymhell y tu hwnt i fyd blogio - wedi'r cwbl, beth ydi'r pwynt dysgu iaith os ydi pob dim yn cael ei gyfieithu beth bynnag?

4 comments:

Huw said...

Ti di gwneud y camgymeriad sylfaenol o gymryd mai cyfieithiad gair am air o ryw fath yw ieithoedd gwahanol.

Mae pob iaith yn cyfieithu rhywbeth o berspectif a safbwynt penodol sydd รข chefndir a chyd-destun yn deillio o ddychymyg unigryw.

Hogyn o Rachub said...

Tueddaf i anghytuno, dwi'n meddwl bod dyletswydd ar wleidyddion dwyieithog i o leiaf geisio blogio yn y ddwy iaith - nid o reidrwydd cyfieithu popeth fel rwyt yn ei awgrymu ond efallai gwneud pob yn ail post yn Gymraeg.

Fodd bynnag, rwyt yn nodi hyn:

'Dwi'n deall pam bod rhai blogwyr megis Gwilym yn cyfieithu fwy neu lai pob dim - mae yna bwrpas etholiadol i'w blogiau ac maent eisiau cysylltu a chymaint o bobl a phosibl.'

(sylwaf gyda llaw nad oedd y blogiadau a oedd yn eithaf cefnogol i'r mesur iaith yn ddwyieithog, ddim isio ypsetio carfan Saeson Llais Gwynedd trwy ymddangos yn rhy genedlaethogar tybed Gwilym?)

Mae hyn yn wir - ac yn un rheswm pendant iawn pam y dylai Penri Jones fod wedi rhoi llawer, llawer mwy o byst Cymraeg ar ei flog, er gwaetha'r ffaith fy mod o'r farn mai bach iawn yw dylanwad blogiau mewn difrif. Er enghraifft, tasa Hywel Williams yn cadw blog uniaith Saesneg, baswn i dal fwy na thebyg yn pleidleisio drosto, ond byddwn i yn siomedig ac yn gorfod o leiaf feddwl ddwywaith am fy mhleidlais.

Cai Larsen said...

'Dwi ddim yn anghytuno efo ti HoR - mae pobl sy'n blogio'n unieithog (Saesneg) yn mentro pechu rhai. Am wn i maent wedi ystyried hynny.

Penri James said...

O diar! Gadewch i mi geisio esbonio. Prif bwrpas y blog yw cysylltu a'r gymdeithas di-Gymraeg yn enwedig y media sy'n garfan eithaf helaeth. Fe oeddwn yn llwyr ddeall a disgwyl beirniadaeth yn sgil y penderfyniad yma ond dyna ni! Fe allaf eich sicrhau mae'r Gymraeg yw'n iaith gyfathrebu naturiol. Gyda llaw, bydd pob cyhoeddiad gennyf yn ystod yr ymgyrch (ag eithrio datganiadau i'r wasg Seisnig) yn hollol ddwyieithog.

Peidied neb ac anghofio pam y dechreuwyd y drafodaeth yma, y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhyddhau taflen mewn Cymraeg gwallus ac annealladwy. Does dim syndod bod un o'i cefnogwyr yn Aberystwyth yn mynegi 'What's the big deal?' Nid y Blaid Rhyddfrydol gwledig, anghydffurfiol, Gymreig yw hon bellach ond plaid ddinesig dra wahanol.

(HoR - 'James' nid 'Jones' , Llandre nid Llanbedrog yw'n nghartre!)