
Diolch i bawb fu'n ddigon caredig (neu wirion) i alw.
Ar yr olwg gyntaf mae’n anodd gweld pam bod aelod gyda 20% o fwyafrif wedi cael ei hun yn y fath banic bod rhaid iddi anfon at pob etholwr unigol yn crefu am eu pleidlais ac yn dweud wrthynt bod pob pleidlais unigol o’r pwysigrwydd eithaf.
O graffu o dan yr wyneb fodd bynnag mae’n hawdd gweld pam. Ers perfformiad cryf Nia yn 2005 mae Llafur wedi wynebu tri etholiad gwirioneddol drychinebus yn Llanelli – etholiad y Cynulliad yn 2007, etholiadau cyngor yn 2008 ac etholiadau Ewrop yn 2009. Mae’r tri pherfformiad wedi bod yn waeth nag unrhyw berfformiad arall gan Lafur yn yr etholaeth ers canrif. Mae hefyd wedi bod ymhlith eu perfformiadau gwaethaf tros Gymru yn ystod cyfnod diweddar gwael iawn i Lafur. Mae trychinebau hyn oll wedi digwydd yn ystod cyfnod Nia fel y prif wleidydd Llafur yn yr etholaeth. O edrych ar bethau o’r cyfeiriad hwnnw ‘does ryfedd nad ydi Nia yn edrych ymlaen rhyw lawer i wynebu’r etholwyr.
Mae’r ohebiaeth yn codi nifer o gwestiynau eraill digon diddorol hefyd. Er enghraifft pryd cafodd Nia droedigaeth i fod o’r farn y dylid mynd ati i ddiwigio Barnett? Yn sicr roedd yn amddiffyn y gyfundrefn bresennol gwta flwyddyn yn ol ar CF99 mewn trafodaeth gydag Helen Mary Jones. Gallai’r gyfundrefn roedd yn ei hamddiffyn fod wedi costio hyd at £241 miliwn i etholaeth Llanelli tros gyfnod o ddegawd. Bellach ymddengys ei bod o’r farn mai dim ond Llafur all ddiwigio’r drefn.
Neu beth am hon? Mae’n rhestru gwahanol fudd daliadau sydd (meddai hi) o dan fygythiad os caiff y Toriaid eu hethol – ond dydi hi ddim yn son dim am Lwfans Byw i'r Anabl na Lwfans Gweini – mae yna gryn le i gredu y bydd Llafur yn cael gwared o’r ddwy lwfans os cant eu hail ethol, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn rhybuddio bod y newidiadau hyn ar y gweill ers tro. Ydi Nia yn anuniongyrchol yn cadarnhau hyn trwy eu gadael allan o’i rhestr?
Beth bynnag mae’r crefu am pob pleidlais a goslef hysteraidd rhannau o’r llythyr yn awgrymu bod Nia’n poeni'n ddirfawr. Gallai pethau fod yn ddiddorol yn Nhre’r Sosban tros yr wythnosau nesaf.
CONSERVATIVES | 39% | 38 |
LABOUR | 34% | 33 |
LIB DEMS | 16% |
CONSERVATIVES | 37% | 33.2 |
LABOUR | 30% | 36.2 |
LIB DEMS | 16% |
Llythyr a anfonwyd at aelodau plaid Lafur Gorllewin Caerdydd ydi’r uchod gan is gadeirydd pwyllgor rhanbarth yr etholaeth honno. Fel y gwelwch, mae’n poeni bod y rhestr aelodaeth ganolog wedi dyddio.
Mae hi’n iawn i boeni mae gen i ofn. Cyfeirwyd y llythyr 'dwi wedi ei sganio at berthynas i mi a chyn aelod sydd wedi marw ers pum mlynedd. Doedd o ddim yn aelod yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd, a ‘dwi’n meddwl (er nad wyf yn siwr) mai yn 1997 neu 1998 oedd y tro diwethaf iddo bleidleisio i’r Blaid Lafur. Mi fydd yn cael llythyrau yn fynych yn gofyn iddo fynd i ganfasio a ‘ballu, er i'w wraig egluro'r sefyllfa i'r Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerdydd sawl gwaith.
Felly ymddengys nad oes gan Lafur fawr o glem pwy ydi eu haelodau, nid ydynt yn gwybod os ydynt wedi talu eu tal aelodaeth neu beidio, dydyn nhw ddim yn gallu chwalu enwau aelodau sydd wedi marw oddi ar eu basdata canolog, ac maent yn ceisio dwyn perswad ar y meirwon i fynd allan i ganfasio iddynt.
Mi fyddai'r peth yn ddigri oni bai mai dyma'r criw sy'n rhedeg y DU.
‘Dwi wedi trafod y ddadl ‘fawr’, neu’r dadleuon mawr bod yn fanwl gywir, sydd i’w darlledu yn ystod yr wythnosau cyn yr etholiad cyffredinol. Er fy mod yn ceisio osgoi ailadrodd fy hun, mi wnaf i eithriad y tro hwn.
Mae’r sioe arbennig yma yn cael ei chynnal am y tro cyntaf am un rheswm ac un rheswm yn unig – mae’r ymarferiad er budd y ddwy blaid fawr Brydeinig. ‘Does yna ddim dadl wedi bod o’r blaen oherwydd y byddai cynnal un yn erbyn buddiannau y naill neu’r llall o’r pleidiau mawr unoliethol – yr un oedd ar y blaen yn y polau piniwn. ‘Does yna ddim pwynt mentro syrthio i mewn i fagl mewn dadl gyhoeddus sy'n cael ei gwylio gan filiynau os ydi'r polau o’ch plaid beth bynnag.
Mae pethau’n wahanol y tro hwn, ac mae rheswm syml am hynny – sgandalau treuliau aelodau seneddol. Roedd y sgandal yma’n bygwth ail strwythuro gwleidyddiaeth Prydain ar un cyfnod – ac fe adlewyrchwyd hynny yn etholiadau Ewrop y llynedd – dim ond 57% o’r bleidlais a lwyddodd y tair plaid fawr Brydeinig i gael rhyngddyn nhw tros Brydain a 52% yng Nghymru. Roedd hyn yn record ar lefel Prydeinig a Chymreig – record o fath nad oedd y pleidiau mawr Prydeinig yn ei groesawu.
Mae’r dadleuon felly yn ddelfrydol o safbwynt y pleidiau mawr – mae’n cynnig cyfle i ddad wneud y niwed yn hollol ddealladwy o’u safbwynt nhw. Bydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei phortreadu fel y gystadleuaeth arferol rhwng Twidldi, Twidldym a Thwidldidyms. Yn ychwanegol mae’r ffaith bod y dadleuon yn cael eu cynnal yn Lloegr, ac y byddant yn ymwneud yn llwyr, neu bron yn llwyr a materion Seisnig yn cymryd gofal o’r ymylon gwleidyddol Celtaidd yn eithaf twt.
Mae hyn oll yn neis iawn i Twidldi, Twidldym a Thwidldidyms wrth gwrs, ond yr hyn sy’n ddiddorol ydi bod y cyfryngau mor awyddus i gymryd rhan yn y sbloets. Wrth gwrs mi fydd y Bib, Sky ac ITV druan yn cael cynulleidfa fawr am 90 munud, ond dyna’r cwbl y byddant yn ei gael am daflu’r orchest fach gelwyddog o fod yn ddi duedd maent yn mynd trwyddi’n barhaus a pharhaol allan trwy’r ffenest.
Y gwir syml amdani ydi bod y cyrff darlledu yn gwbl sefydliadol o ran natur, ac mae’r status quo wedi bod yn ffeind iawn efo’r Bib a Sky. Dydi'r drefn sydd ohoni heb fod mor ffeind efo ITV (does gan rheiny ddim papurau newydd gyda chylchrediad o filiynau i lwgr wobreuo’r pleidiau unoliaethol trwy gynnig, neu fygwth atal eu cefnogaeth iddynt). Ond does ganddyn nhw ddim dewis ond i ddilyn yng nghamau’r monopoli darlledu cyhoeddus, a’r lled fonopoli darlledu preifat mae’r prif bleidiau wedi eu meithrin, a’u cynnal trwy’r degawdau trwy greu amodau ariannu a goruwchwylio delfrydol ar eu cyfer.
Mae’n braf gweld ffrindiau yn edrych ar ol ei gilydd, mewn hindda a thywydd garw fel ei gilydd.