Sunday, September 06, 2009

Polau Piniwn Mis Awst

Mewn blynyddoedd diweddar mae'r polau piniwn ym mis Awst cyn etholiad cyffredinol wedi bod yn hynod debyg i ganlyniad yr etholiad cyffredinol ei hun. Mae rhywbeth ychydig yn ddigri am hyn mae'n debyg - er gwaetha'r holl wario, er gwaetha'r holl ymgyrchu, er gwaetha'r holl dantro, er gwaetha'r holl hysteria, er gwaetha'r cynllwynio a'r triciau budur yn ystod y misoedd cyn etholiad cyffredinol, mae'r patrymau pleidleisio eisoes wedi eu sefydlu - ac ychydig iawn y gellir ei wneud i newid pethau.

Does yna ddim polio Cymreig o unrhyw werth (yn wahanol i'r Alban), felly 'does gennym ni ddim llawer i fynd arno o ran polio sy'n berthnasol yn benodol i Gymru. Ar lefel Prydeinig roedd y polau yn erchyll i Lafur - gan awgrymu y bydd eu canran o'r bleidlais yn cwympo efallai ddeg pwynt canrannol. 'Dydyn nhw ddim yn arbennig o dda i'r Lib Dems chwaith gydag awgrym y byddant yn is nag 20%. Ar y llaw arall mae lle i gredu y bydd y pleidiau llai yn gwneud yn dda, ac y bydd y Toriaid yn cynyddu eu pleidlais o efallai 9%.

Mae'n anodd cyfieithu hyn i gyd destun Cymreig, gan fod gwleidyddiaeth etholiadol yn gwahanol yma bellach i weddill y DU. Ond mae'n rhesymol i gasglu y bydd pob sedd Lafur ag eithrio rhai'r cymoedd a Dwyrain Abertawe mewn perygl. 'Dydi hyn ddim yn golygu y byddant i gyd yn cael eu colli wrth gwrs - ond byddai pob dim ag eithrio'r rhai 'dwi wedi eu henwi yn gystadleuol.

Posibilrwydd arall ydi y bydd y Lib Dems yn colli eu seddi gwledig yng Nghymru, ond yn ennill un neu ddwy o rai dinesig - ac felly'n troi'n blaid ddinesig yma yng Nghymru o leiaf.

Gallai'r map etholiadol Cymreig edrych yn rhyfedd iawn erbyn mis Mehefin nesaf.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Peth annisgwyl yw gweld Blog Menai yn ailadrodd un o ffug honiadau Y Sun.
Yn rhifyn dydd Llun diwethaf o'r rhecsyn, roedd adroddiad am bôl a gomisiynwyd trwy YouGov a oedd yn darogan tirlithriad o blaid y Ceidwadwyr , Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr honiad:

The survey is particularly significant as every August poll carried out before a spring election since 1996 has predicted the result to within one per cent.

http://www.thesun.co.uk/sol/homepage/news/2619400/Tory-landslide-predicted-at-next-election-in-crucial-Sun-poll.html

Mae UK Polling Report wedi dangos yn glir bod yr awgrym yma bod polau mis Awst yn ddarogan canlyniad etholiad yn fytholeg pur. Gweler:
http://ukpollingreport.co.uk/blog/archives/2239

Dim ond polau gan un cwmni ar gyfer tri etholiad sydd wedi "profi'r" pwynt, sef polau ICM ar gyfer 1996, 2000 a 2004.

Yn anffodus dydy ICM ddim mor dda am ddarogan y canlyniadau o fewn dyddiau i ddiwrnod y bleidlais. Awgrym cryf mae lwc mul, yn hytrach na ddawn broffwydol sydd y tu ôl i gyd digwyddiad tebygrwydd ICM yn Awst a chanlyniadau etholiadau Sansteffan yn y gwanwyn canlynol!

Cai Larsen said...

Gan nad ydw i'n darllen y Sun mae'n rhaid i mi dderbyn dy ail ynglyn a'i gynnwys ddydd Llun. Yn politiical betting.com y gwelais yr honiad.

Dwi'n credu bod polau pob un o'r cwmniau - gan gynnwys yr un lle Polling Report yn dweud bod y patrwm yn gweithio yn agos iawn at ei gilydd ym mis Awst.