Tuesday, September 29, 2009

Gair bach o blaid STV

Yn nhudalen sylwadau fy mlogiad diwethaf dywed Aled - Yn bersonol, mi hoffwn i weld Cymru yn arwain y blaen hefo hyn a chyflwyno system bleidleisio STV. Byddai hyn yn rhoi mwy o rym a mwy o ddewis i etholwyr wrth ethol eu cynrychiolwyr gwleidyddol, ac fe allai annog mwy o ymgeiswyr annibynnol i sefyll fyddai hefyd yn llesol i ddatblygiad democratiaeth yng Nghymru.


Ag anghofio am ennyd na fyddai Cymru ar y blaen - defnyddir STV (neu STV gydag etholaethau aml sedd i fod yn fanwl) ym mhob etholiad ag eithrio etholiadau San Steffan yng Ngogledd Iwerddon, ac mewn etholiadau lleol yn yr Alban, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno.

Wna i ddim egluro'r dull yn y blogiad hwn - os oes gennych ddiddordeb gallwch ddarllen amdano yma.

Mi fyddwn serch hynny yn nodi bod i'r dull yma o bleidleisio sawl mantais - rhestraf rai isod:

(1) Mae'n fwy cyfrannol na First Past The Post (FPTP).
(2) Mae'n rhoi mwy o rym i'r etholwyr a llai i beiriannau pleidiol.
(3) Nid oes unrhyw bleidlais yn cael ei gwastraffu - os nad ydi'r person mae rhywun yn rhoi ei bleidlais gyntaf iddo / iddi, gall yr ail, trydydd neu bedwaredd dewis helpu i ethol rhywun.
(4) Nid oes yna etholaethau sydd ond yn cael eu cynrychioli gan un blaid am cyhyd a chanrif.
(5) Mae'n caniatau i bleidiau llai gystadlu am seddi a chael bod yn rhan o lywodraethau.
(6) Mae'n gorfodi cynrychiolwyr etholedig i weithio'n galed.
(7) Mae'n cynnal, ac yn wir yn atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng aelodau etholedig ag etholaethau penodol.
(8) Mae diwrnod y cyfri yn hwyl i bawb ond yr ymgeiswyr.

Y ffordd y byddwn yn gwneud hyn ar lefel Cymru gyfan fyddai trwy ddiddymu'r etholaethau presennol a gwneud pob sir yn etholaeth seneddol, a dosbarthu seddi yn ol poblogaeth y siroedd hynny. Er enghraifft gellid rhoi un sedd ar gyfer pob 50,000 o bobl sy'n byw mewn sir, ac un arall ar ben hynny i pob sir. Byddai hyn yn rhoi tair sedd i Wynedd, dwy i Fon ac efallai 7 i Gaerdydd. Mi fyddai gan o leiaf dwy o'r pleidiau gynrychiolaeth ym Mon a Gwynedd, ac mae'n debyg y byddai pob un o'r prif bleidiau gyda chynrychiolaeth yng Nghaerdydd.

Byddai hyn yn golygu cynnydd yn y nifer o ASau Cymreig - i tua 82 (o 60), ond mae'n debyg y bydd hyn yn digwydd beth bynnag os enillir refferendwm y flwyddyn nesaf.

Oes yna unrhyw un efo dadl yn erbyn?

4 comments:

Anonymous said...

9. Byddai'n rhoi terfyn ar y syniad gwallgof bod un person yn gallu "cynrychioli" un ardal yn effeithiol. Byddai cael 2-3 yn hwb i bliwralistiaeth yn gyffredinol.
10. Byddai'n rhoi cyfle i gynrychiolwyr etholedig arbenigo mewn gwahanol feysydd a chynnig gwell gwasanaethau i'r cyhoedd yn hytrach nag un person yn ceisio bod yn bopeth i bawb fel ag y mae ar hyn o bryd.
11. Byddai'n cynyddu'r elfen o gyfranogaeth yn ein bywyd gwleidyddol, gyda llawer mwy yn teimlo bod eu llais hwy yn cyfrif.
11.

Alwyn ap Huw said...

Oes yna unrhyw un efo dadl yn erbyn?

Oes! Dadl yr wyt ti'n hanner ei grybwyll yn y post.

Os oes gan Gaerdydd etholaeth saith aelod a Môn etholaeth dau aelod mi fydd yn llawer haws i'r pleidiau llai, y pleidiau bydd yn gallu torri neu greu clymblaid, cael ei hethol yng Nghaerdydd nac ar Fôn. Bydd etholwr o Gaerdydd o'r herwydd yn llawer pwysicach nag etholwr o Fôn.

Mae yna deimlad yn bodoli yn barod bod y Cynulliad yn ffafrio rhai ardaloedd ac yn anwybyddu eraill. Bydd dy fodel di o STV yn cryfhau ac yn cadarnhau'r ymdeimlad yna.

Mae yna ddwy ffordd o gael gwared â'r broblem mae dy fodel yn ei godi, ond mae'r ddwy yn codi problemau eraill. Yn gyntaf gellir torri etholaeth fawr Caerdydd yn ddwy etholaeth 3 aelod, drwg gwneud hynny bydd gwneud y bleidlais yn llai cyfrannol. Yr ail yw uno Môn, Gwynedd ac Aberconwy (yr "hen" Gwynedd) yn un etholaeth 7 aelod, drwg gwneud hynny yw colli'r cyswllt lleol.

aled g j said...

Byddai creu un etholaeth 6-7 aelod ar sail yr hen Wynedd i'w groesawu wrth symud at STV yng Nghymru. Byddai'n helpu i chwalu plwyfoldeb a byddai hefyd yn creu hunaniaeth newydd gref i Wynedd, fyddai'n help i Gymreictod yn gyffredinol yn y sir yn fy marn i. I gael eu hethol, byddai rhaid i ymgeisydd dyweder, sy'n byw ym Mon, ddangos ei fod am frwydro dros yr ynys ond byddai'n rhaid iddo/iddi hefyd fod yn barod i edrych ar y darlun mwy, er mwyn perswadio etholwyr o'r tir mawr i'w osod yn uchel ar eu rhestr dewis. Byddai buddiannau Gwynedd gyfan felly yn gorfod bod yn rhan o'r hafaliad.

Cai Larsen said...

Un neu ddau o bwyntiau brysiog:

'Dwi'n deall yr hyn sydd gan Alwyn - ond yn ymarferol yn achos Iwerddon er enghraifft mae etholaethau tair sedd yn dychwelyd aelodau o blaid leiafrifol mor aml ag mae'r rhai pum sedd - y ddwy sedd Kerry, neu Dublin North Central er enghraifft.

Mae'n debyg y byddai hyn yn digwydd yng Nghymru. O graffu ar ganlyniad Ynys Mon, a chymryd mai dwy sedd fyddai yno, mae'n debyg y byddai canlyniad Cynulliad 2007 wedi dychwelyd naill ai ddau aelod Plaid Cymru, neu un Plaid Cymru a Peter Rogers.

Er gwybodaeth byddai'n rhaid dod o hyd i tua 33% o'r bleidlais (rhai cyntaf neu rai is) i rhywun gael ei ethol mewn etholaeth dwy sedd, 25% mewn un 3 sedd, 20% mewn un 4 sedd, 16.5% mewn un 5 sedd, 14% mewn un 6 sedd a 12.5% mewn un 7 sedd.

Fel rheol dydi ymgeiswyr ddim yn ceisio apelio i bobl ar hyd yr etholaeth - os yw'n dod o un o'r pleidiau mwy o leiaf. Gan ei bod yn bwysig i blaid gael pleidlais ei hymgeiswyr yn weddol gyfartal, tueddir i dorri'r etholaeth yn ddarnau a chael un ymgeisydd yn gweithio un rhan penodol, ac ymgeisydd arall gweithio un arall.

Os oes ond un ymgeisydd, mae'r stori'n wahanol wrth gwrs.