Sunday, September 27, 2009

Diwrnod du eto fyth i Brown



O diar, 'dydi pethau ddim yn mynd yn dda iawn i Mr Brown - y Lib Dems yn dal ei blaid yn y polau piniwn, Y Farwnes Scotland yn cael ei dal yn dweud _ _ _ , wel llai na'r gwir, wedyn dyma Alistair Darling yn ymosod ar ei holl blaid gan gynnwys fo'i hun a'i fos; a fel petai hynny ddim yn ddigon, mewn datblygiad dramatig a allai'n hawdd ddod a'r llywodraeth i lawr, mae Llais Gwynedd wedi galw ar y creadur i ymddiswyddo, er mwyn i'r Toriaid gael dod i rym yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Mae'r diwedd yn agos bois bach.

3 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Darllen y darn yn iawn Cai bach...galw arno i alw Etholiad Cyffredinol nes i....rhyfedd mae genai gof i un neu ddau o Bleidwyr ar y blogosffer neud galwad tebyg yn ystod yr wythnosau diwethaf ac ambell i siaradwr yn eich Cynhadledd Blynyddol....ti'n hapus i'r syrcas barhau felly tan mis Mai?

Cai Larsen said...

Arglwydd mawr ti'n gyflym o'r blociau!

Wyt ti'n cadw golwg yn barhaol ar fy mlog?

GER - Call a general election please & put us all out of our misery _ _ _ The Tories look odds on to win the General Election, I've no doubt that things will be tougher still for some time, particularly when it comes to cuts in the public sector - however people are ready for a change, one can only hope that David Cameron has some good ideas up his sleeve _ _ _

Anonymous said...

"one can only hope that David Cameron has some good ideas up his sleeve"

Clyw, clyw! Edrych ymlaen at fis Mai yn arw!