Monday, September 14, 2009

Araf y ticia'r cloc yr oriau meithion _ _ _ _

'Dydi'r blog yma ddim yn ymdrin a Llais Gwynedd yn aml iawn - ond un o'r pleserau o wneud hynny ydi bod ymateb i'w gael - weithiau o fewn eiliadau i gyhoeddi blogiad.

Yn anffodus 'dwi'n dal i ddisgwyl ymateb i fy ngwahoddiad i'r cyfryw blaid awgrymu'n gynnil i'w cefnogwyr beidio a bwrw pleidlais tros UKIP yn etholiadau San Steffan 2010. Ta waeth, 'dwi'n ddyn amyneddgar ac mi allaf ddal i drio a dal i ddisgwyl.

Mae gan UKIP pob hawl i'w barn wrth gwrs, a fi ydi'r cyntaf i ddadlau y pwysigrwydd iddynt gael lleisio'r farn honno. Ond mae eu barn yn un rhyfeddol o wrth Gymreig - 'dydyn nhw ddim hyd yn oed yn derbyn bod Cymru'n wlad, ac maent yn awyddus iawn i gau'r Cynulliad Cenedlaethol. Yn wir byddant yn sefyll yn etholiadau 2011 ar sail eu bwriad i ddychwelyd i'r hen drefn o lywodraethu Cymru'n uniongyrchol o San Steffan. Petai rhywun yn dadlau y dylid diddymu San Steffan a rheoli'r DU yn uniongyrchol o Frwsel 'dwi'n rhyw feddwl y byddai UKIP eisiau ei roi yn erbyn wal a'i saethu am frad - ond stori arall ydi honno.

'Rwan 'dwi ddim eisiau gwybod sut mae neb yn fotio, ond mi fyddwn i'n hoffi gofyn yn garedig a chyfeillgar os ydi Llais Gwynedd yn gallu perswadio nhw eu hunain i argymell i'w cefnogwyr beidio a phleidleisio i UKIP.

'Dydi hyn ddim yn anodd iawn.

2 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Noswaith dda Mr Larsen...Mae'n anodd gen i ddychmygu aelodau Llais Gwynedd yn pleidleisio dros UKIP a fyddwn i yn bersonnol byth yn arddel i neb o'n cefnogwyr ni i fwrw pleidlais iddyn nhw na'r BNP.
Byddwn i hefyd yn awgrymu'n gryf iddynt peidio a tharo pleidlais i Phlaid Cymru chwaith...does dim ond rhaid iddynt ddarllen dy flog di, Rhydain a Simon i weld pam ac rhag ofn fod angen rhagor o dystiolaeth arnynt, iddyn nhw edrych ar papurau Bwrdd Cyngor Gwynedd ar gyfer cyfarfod y prynhawn yfory.
Gan obeithio fod hyn yn tasgu golau ar y mater i ti..a chyn i ti ofyn dwi ddim yn awgrymu fod nhw yn bwrw pleidlais i ry'n Plaid arall...mae modd gadael neges ar bapur pleidleisio yn ogystal a bwrw croes..ar ddiwedd y diwrnod mater personnol i'r unigolyn a'i cydwybod ydi hynny yn de?

Cai Larsen said...

Noswaith dda i chithau syr.

Fel y dywedais, dydi o ddim o fy musnes i lle ti'n bwrw dy bleidlais os ti eisiau cadw hynny i ti dy hun a 'dydw i heb ofyn y cwestiwn.

Fel mater o ddiddordeb, oes yna bleidiau ag eithrio Plaid Cymru y BNP ac UKIP sydd yn cael eu hystyried gan Lais Gwynedd i fod y tu hwnt i achubiaeth?