Showing posts with label Len Gibbs. Show all posts
Showing posts with label Len Gibbs. Show all posts

Wednesday, February 16, 2011

Len a True Wales yn cystadlu i weld pwy ydi'r gorau am gamarwain

Diolch i Syniadau am dynnu sylw at gelwydd cyfatebol gan ddwy adain yr ymgyrch Na.

Mae'n ddiddorol nodi bod Len wedi cael ei hun mewn dipyn o stad oherwydd bod corff arolygu Cymru, ESTYN o'r farn bod 40% o blant Cymru gydag oedran darllen o leiaf flwyddyn yn is na'u hoedran cronolegol. Yn wir mae'n ystyried hyn yn 'drychinebus'.

Mae Len mewn perygl o gael trawiad ar y galon yn gwylltio gacwn fel hyn, a hynny'n gwbl ddi angen. Yr oll ydi 'oedran darllen' mewn gwirionedd ydi mesur cyfartalog o allu plant o oedran arbennig i ddeall testun ysgrifenedig. Mae'n anhepgor bod rhai plant am syrthio y naill ochr a'r llall i'r cymedr - mi fyddai'n amhosibl i bethau fod fel arall.

'Dydi'r ffaith bod ESTYN ei hun yn ymddwyn yn afresymegol trwy dynnu sylw at amrywiaeth naturiol mewn amrediad o ddata ddim yn adlewyrchu'n dda arnyn nhw wrth gwrs - yn arbennig felly ag ystyried yr effaith mae eu gobyldigwc ystadegol yn ei gael ar bobl fel Len sydd heb lawer iawn rhwng ei glustiau ag eithrio agenda gwrth Gymreig, ragfarnllyd.

Petai Len yn chwilio ymhellach gallai ddod o hyd i amrediad llawer ehangach mewn oedrannau darllen. Mae ffigyrau corff arolygu Lloegr, OFSTED, yn awgrymu bod traean plant 14 oed yn y wlad honno gydag oed darllen o leiaf dair blynedd yn is na'u hoed cronolegol.

Monday, February 14, 2011

Yr ymgyrch Na yn hollti



Ymddengys bod Len Gibbs wedi gadael True Wales a sefydlu ei ymgyrch ei hun - neu o leiaf ei wefan ei hun. O safbwynt cynllunio a diwyg mae'r wefan yn salach nag un True Wales, sy'n gryn gamp.

Felly mae gan yr ymgyrch Na bellach ddwy adain - un sy'n honni nad yw'n gwrthwynebu datganoli o dan arweiniad Rachel Banner, ac un arall sy'n cyfaddef ei bod yn wrthwynebus i ddatganoli o dan arweiniad medrus, rhesymol a chymedrol Len.

Arferai man fudiadau'r Chwith fod yn dipyn o joc oherwydd eu bod byth a hefyd yn hollti. Mae'r gwrth ddatganolwyr yn dioddef o'r un tueddiad mae gen i ofn. Wna i ddim postio sgets enwog - The People's Front, Monte Python sydd yn dychanu'r tueddiad ('dydi fideos YouTube ddim yn ffitio fy mlog yn dda, ac mae'n gwneud iddo edrych yn fler a di glem fel gwefan Len). Beth bynnag am hynny - gellir ei gweld yma.

Mae'r ffaith bod gelynion gwleidyddol wedi dod at ei gilydd ar yr ochr Ia, tra bod cyfeillion gwleidyddol ar yr ochr Na yn cael eu gwthio oddi wrth ei gilydd yn adrodd cyfrolau am natur yr ymgyrch.