Showing posts with label Chris Bryant. Show all posts
Showing posts with label Chris Bryant. Show all posts

Sunday, September 18, 2011

'Wales is at its best when it is triumphantly insouciant about the criticism of others'

Mae'n debyg gen i na ddylai fod yn llawr o syndod i neb bod tudalen wedi ei hagor ar Facebook i wawdio'r sawl a laddwyd yng Nghwm Tawe wythnos diwethaf ar y sail mai Cymry ydynt, pan mae aelodau seneddol Cymreig yn annog pobl i gymryd ymysodiadau gwrth Gymreig yn ysgafn.  

Wedi'r cwbl, os nad ydi aelodau seneddol Cymreig yn ystyried ymysodiadau ar y Cymry yn fater o bwys, pam y dylai neb arall wneud hynny?

Da iawn Chris. 

Tuesday, September 06, 2011

Gair o gyngor i Bryant

 Mae'n anodd gwybod beth i'w wneud o sylwadau Chris Bryant wrth Golwg360 yn dilyn ymysodiad Simon Brooks arno am ddangos safonau dwbl yn cymryd ymysodiadau geiriol ar Gymry Cymraeg mor ysgafn o gymharu a'i agwedd at ymysodiadau felly ar bobl hoyw.  Rydym eisoes wedi edrych ar y stori yma

Nodaf sylwadau Bryant isod:

“Dwli gwirion oedd darn Roger Lewis, oedd yn llawn o wallau ffeithiol a  bron iawn yn fwriadol sarhaus,”
“Mae erthyglau yn y Daily Mail yn aml yn cynnwys yr holl elfennau rheini.
“Y perygl â ymateb Jonathan Edwards yn fy marn i oedd ei fod yn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i erthygl dwp fyddai’n well ei hanwybyddu.
“Ar y llaw arall, mae homoffobia yn lladd. Mae dynion hoyw ifanc chwe gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad, ac mae bwlio homoffobaidd yn gyffredin mewn nifer o ysgolion.
“Yn y ddau achos dw i’n credu mai’r ffordd gorau yw ymddwyn mewn modd sy’n dangos fod y feirniadaeth yn anghywir, yn hytrach na chysylltu â’r heddlu.”
Mae dau bwynt yn codi o hyn.  Yn gyntaf yr hyn roedd Bryant wedi ei ddweud wrth yr Independent oedd y dylai Cymry Cymraeg chwerthin ar ben ymysodiadau arnynt fel grwp - insouciant oedd y term ffuantus braidd a ddefnyddwyd ganddo.  'Dydi ei sylwadau wrth Golwg360 ddim yn taflu unrhyw oleuni ar pam yn union y dylai rhai pobl orfod chwerthin ar ben ymysodiadau sydd wedi eu cyfeirio atynt oherwydd eu bod yr hyn ydynt - dim oll.  

Yn ail mae ei ganfyddiad bod cyfraddau hunan laddiad uchel ymysg pobl hoyw yn gwneud sarhad sydd wedi ei luchio i'w cyfeiriad nhw yn fwy difrifol nag ydi sarhad sydd wedi ei luchio at Gymry Cymraeg yn ddiddorol. 'Dwi'n derbyn nad oes yna unrhyw amheuaeth bod hunan laddiad yn llawer mwy cyffredin ymysg pobl hoyw o'r ddau ryw nag ydyw ymhlith pobl nad ydynt yn hoyw, ac mae'n ffaith sy'n wir mewn amrediad eang o wledydd.  'Dydi'r rhesymau am hyn ddim yn glir - ond mae'n rhesymol cymryd bod agweddau cymdeithasol negyddol tuag at bobl hoyw yn rhan o'r rheswm (ffurf eithafol ar agweddau felly ydi bwlio ar sail rhywioldeb wrth gwrs).  Serch hynny, mae'r rhesymau pam bod hunan laddiad yn amrywio o grwp i grwp o bobl yn gymhleth, a 'dydi hi ddim yn briodol i geisio canfod un rheswm tros yr amrywiaeth hwnnw. 

Mae yna grwpiau eraill oddi mewn i gymdeithas sydd a chyfraddau uchel o ran hunan laddiad - dynion er enghraifft - rydych dair gwaith mor debygol o ladd eich hun os ydych yn ddyn sy'n byw yng Nghymru nag os ydych yn ddynas.  Mae merched ifanc Asiaidd yn grwp arall sydd a chyfraddau hunan laddiad uchel iawn. . Mae yna wledydd sydd a chyfraddau hunan laddiad rhyfeddol o uchel - rydych dair gwaith mwy tebygol o ladd eich hun os ydych yn byw yn Lithiwania nag ydych os ydych yn byw yng Nghymru - ac mae yna wledydd (tlawd yn ddi eithriad) lle nad oes neb bron byth yn lladd ei hun. .  Rydych hefyd yn llawer llai tebygol o ladd eich hun os ydych yn dew nag os ydych islaw eich pwysau delfrydol. 'Dydi ceisio dod o hyd i un rheswm, ac un rheswm yn unig am yr amrywiaethau hyn ddim yn syniad arbennig o dda.

'Dydi awgrym Roger Lewis bod siaradwyr Cymraeg yn fwnciod ddim yn un di gyd destun.  Mae'r gymhariaeth rhwng pobl Celtaidd a mwnciod yn hen nodwedd o hiliaeth Seisnig.  Gellir gweld adlais o hyn yng nghartwnau'r cylchgrawn Punch o'r ganrif cyn yr un ddiwethaf.  Gweler isod er enghraifft. 


Dyna'n rhannol pam bod ymysodiad Roger Lewis ar y Gymraeg cymaint mwy anymunol nag un Jeremy Clarkson.  Rhyw nonsens idiotaidd a di ddeall ynglyn a'r Cenhedloedd Unedig yn gwahardd ieithoedd oedd gan hwnnw - mae geiriad Lewis yn awgrymu bod y sawl sy'n defnyddio'r Gymraeg yn is ddynol. Canfyddiad ymysg y dosbarth oedd yn rheoli Lloegr ar y pryd bod Gwyddelod yn is ddynol oedd un o'r prif resymau pam na chafwyd fawr o ymyraeth gan y wladwriaeth Brydeinig yn ystod An Gorta Mor - y Newyn Mawr - penderfyniad, neu gyfres o benderfyniadau a arweiniodd at farwolaeth miliwn o bobl.  Mae yna resymau hanesyddol cadarn tros ddadlau y gall rhagfarnau fel rhai Roger Lewis ladd. 

Rwan gair o gyngor i Bryant - mae'n symlach ac yn llawer, llawer mwy effeithiol i dderbyn yr egwyddor ei bod yn gwbl anerbyniol i ymosod ar bobl oherwydd yr hyn ydynt - pwy bynnag ydi'r bobl hynny - nag ydi ceisio creu hierarchiaeth o grwpiau sy'n haeddu cael eu hamddiffyn rhag ymysodiadau torfol.  Mae cyfiawnhau hierarchiaeth felly yn rhwym o fod wedi ei seilio ar ffactorau goddrychol a dadleuol - a phan rydym yn dechrau troedio tir felly mae'r cyfiawnhad tros amddiffyn pob grwp - gan gynnwys pobl hoyw - rhag ymysodiadau a rhagfarnau yn llawer gwanach.

Ac ar ben hynny, 'dwi'n siwr nad ydi Bryant eisiau cael ei hun yn dadlau bod sylwadau hiliol a rhywiaethol wedi eu cyfeirio at ferched Asiaidd yn  hollol anerbyniol, tra y dylai merched croenddu (grwp sydd a chyfraddau hunan laddiad isel) chwerthin pan mae sylwadau hiliol a rhywiaethol yn cael eu cyfeirio atyn nhw. 

Sunday, August 28, 2011

Ymdriniaeth y Sunday Independent o'r stori Roger Lewis

Mae ymdriniaeth yr Independent on Sunday o sylwadau gwrth Gymreig Roger Lewis  yn ddigon dadlennol ac mae'n codi sawl 'sgwarnog digon diddorol.  Rydym eisoes wedi edrych yn frysiog ar y stori yma wrth gwrs. 


Adrodd y stori  sydd eisoes yn gyfarwydd i ni yng Nghymru mae'r Indie yn y bon, ac ychwanegu eu lein eu hunain bod Jonathan Edwards wedi gwneud iddo'i hun edrych yn wirion braidd oherwydd bod y rhan fwyaf o Gymry o'r farn ei fod yn gwneud mor a mynydd o fater bach.  Maent yn 'profi' eu pwynt trwy gyfeirio at neu ddyfynnu nifer ol bobl sydd o bosibl yn ymddangos fel esiamplau perffaith o Gymreictod twymgalon os ydych yn edrych ar y Byd o Canary Wharf - Chris Bryant, Carol Vorderman, Lembit Opik, Stephen Fry a Gyles Brandreth.

'Rwan pan mae rhywun yn eistedd yn ol ac yn meddwl am y peth mae'n rhyfeddol fel mae'r arfer o ddweud pethau cas am grwpiau o bobl wedi mynd yn llawer, llawer llai cyffredin nag y bu.  Roedd yn gyffredin ddeg mlynedd ar hugain yn ol i ddod ar draws sylwadau sarhaus am drigolion gwledydd eraill ac am elfennau oddi mewn i gymdeithas ym Mhrydain ar y cyfryngau prif lif, ac mewn bywyd pob dydd.  'Dydi hynny ddim yn gyffredin erbyn heddiw - er bod modd meddwl am eithriadau mewn rhai cyd destunnau - mae sylwadau dilornus am ferched yn gyffredin iawn ymysg perfformwyr rap, mae ambell i gomediwr megis Frankie Boyle yn hoff o wneud hwyl ar ben yr anabl, mi fydd comidiwyr du yn gwneud hwyl am benpobl ddu eraill weithiau.  Ond mae sylwadau cyhoeddus o'r fath yn rhyfeddol o brin erbyn heddiw - hyd yn oed mewn bywyd pob dydd.



Fel rheol mae sylwadau dilornus sydd wedi eu cyfeirio tuag at grwpiau mawr o bobl yn ennyn ymateb lled hysteraidd.  Er enghraifft roedd rhywun o'r enw Stephen Fry yn ddigon parod i daflu'r cyhuddiad o homoffobia tuag at David Cameron pan ymddangosodd rhywun o Wlad Pwyl sydd ag agweddau tuag at bobl hoyw na fyddai'n plesio mewn parti caws a gwin yn  Hampstead, yng nghynhadledd y Toriaid; ac aeth boi o'r enw Chris Bryant yntau i ben y caets wedi i George Osborne ei alw'n Pantomime Dame gan egluro ddigon snifflyd bod homoffobia yn Nhy'r Cyffredin yn gwbl anerbyniol.  Mae'r ddau (trwy gyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs) yn hoyw - a 'does yna ddim perthynas o gwbl rhwng eu canfyddiad o ddifrifoldeb homoffobia a'r ffaith eu bod nhw eu hunain yn digwydd perthyn i'r grwp a ddilornir gan homoffobiaid - nid bod y gymuned hoyw wedi ei dilorni yn y naill achos arbennig yma na'r llall mewn gwirionedd. 
Mae'n hawdd gweld pam bod agweddau wedi newid.  Cyn y chwe degau roedd Prydain yng nghanol ymerodraeth enfawr oedd yn rheoli bywydau pob math o bobl ar hyd a lled y Byd.  O'r chwe degau ymlaen diflanodd yr ymerodraeth a dechreuodd trigolion y cyn ymerodraeth symud i Brydain mewn niferoedd sylweddol iawn.  'Dydi dilorni pobl rydych yn eu rheoli pan maent yn byw ymhell ddim yn broblem o safbwynt cydlyniad cymdeithasol, ond pan maent yn byw i fyny'r lon mae'r stori'n wahanol.

Yn y Brydain newydd a dyfodd o chwe degau'r ganrif ddiwethaf ymlaen roedd yr agweddau hiliol amrwd oedd yn nodweddu llawer o bobl Prydain yn y gorffennol yn wirioneddol beryglys. O ganlyniad cafwyd newid mewn agweddau sefydliadol a symudwyd tuag at syniadaeth sy'n pwysleisio cydraddoldeb a pharch - ac yn raddol daeth y rhan fwyaf (er nad pawb wrth gwrs) i goleddu'r gwerthoedd yna.  Roedd hyn oll yn cyd fynd a newidiadau eraill mewn cymdeithas - newidiadau mewn rol merched ac erydiad rhai o'r strwythurau hierarchaidd oedd wedi bodoli ar rhyw ffurf neu'i gilydd ers canrifoedd.  Roedd papurau newydd rhyddfrydig megis yr Independent yn gydadrannau pwysig o'r newid oherwydd iddynt gynorthwyo i greu'r fframwaith deallusol lle gallai ddigwydd.

Roedd grwpiau cynhenid wedi dioddef yn enbyd yn y gorffennol oherwydd rhagfarnau hefyd -  pobl hoyw er enghraifft.  Roedd y sefyllfa newydd o gymorth sylweddol i'r grwpiau hyn - os ydi goddefgarwch tuag at ddiwylliannau a grwpiau ethnig eraill yn ddymunol, felly mae'n dilyn bod goddefgarwch tuag at bobl sydd a rhywioldeb gwahanol hefyd yn ddymunol.  Mae'r cynnydd sylweddol yn hawliau'r anabl wedi datblygu yn y cyd destun ehangach yma hefyd.

Mae'n ddiddorol felly bod rhai grwpiau yn gallu cael eu dilioni o hyd, a bod pobl megis Chris Bryant, Stephen Fry a Lempit Opik - pobl sy'n uchel eu cloch pan mae grwpiau eraill yn cael eu dilorni - yn fodlon lled amddiffyn y dilorni hwnnw.


 Fel y dywedais, ychydig o ddilorni cyhoeddus sydd ar ol.  'Dwi ddim yn siwr pam ein bod yn fodlon derbyn geiriau i ganeuon poblogaidd sy'n argymell trais tuag at ferched mewn deunydd megis gangsta rap.  Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod y ffaith bod y sawl sy'n perfformio'r stwff yn amlwg yn arddel gwerthoedd diwylliannol sy'n dod o ochr arall yr Iwerydd yn rhywbeth i'w wneud efo'r ateb. Mae yna elfen bach o chwerthin ar ben y rapiwr a'i agweddau cyntefig.

'Dydi jocs Gwyddelig ddim yn boblogaidd bellach - mi laddwyd y stereoteip o Wyddel dwl yn rhannol gan y Teigr Celtaidd, ond yn bwysicach gan ddeg mlynedd ar hugain o naratif gan y wladwriaeth Brydeinig oedd yn mynnu eu bod yn ymladd yn erbyn gelyn hynod soffistigedig ar ffurf y Mudiad Gweriniaethol yn yr Iwerddon.



A daw hyn a ni at y Cymry.  Pam ei bod yn dderbyniol i wneud sylwadau gwrth Gymreig, ond nad yw'n dderbyniol i wneud rhai gwrth Iddewig?  Efallai bod rhan o'r ateb yn deillio o'r ffaith nad oes yna rhyw lefel mawr o atgasedd tuag at Gymry yn Lloegr yn gyffredinol, ac nad oes yna deimlad ein bod wedi dioddef llawer yn sgil ein arwahanrwydd.  Mae pobl o ganlyniad yn edrych ar Gymry yn wahanol i Arabiaid, Iddewon neu bobl o Bacistan. Oherwydd nad oes yna rhyw deimlad bod yna berygl ynghlwm a thynnu ar y Cymry, mae'n hawdd cymryd yr agwedd bod gwneud mor a mynydd am ychydig o sylwadau cas am y Gymraeg a'i siaradwyr yn wirion. Mae'r un peth yn wir am Ffrancwyr - grwp arall mae'n dderbyniol i'w dilorni.  Mae'r ffaith ein bod yn debyg i Saeson mewn aml i ffordd yn gwneud y gwahaniaeth rhyngom ni a grwpiau eraill yn y cyswllt hwn.



Y drwg efo cymryd yr agwedd yma ydi hyn - pan rydym yn dechrau dadlau ei bod yn iawn i ddilorni rhai grwpiau - ond bod dilorni grwpiau eraill yn ymylu ar fod yn drosedd yn erbyn y ddynoliaeth - rydym yn dechrau ymosod ar resymeg mewnol, ac felly seiliau deallusol y ty cardiau o syniadaethau goddefgar sydd wedi ei adeiladu arnynt.

Mae'r seiliau deallusol hynny o dan gryn straen ar hyn o bryd beth bynnag.  Pan mae'r rhyddfrydig a'r goddefgar - pobl fel Bryant ac Opik, a phapurau fel yr Indie - yn dechrau naddu i mewn iddynt hefyd, mae rhywun yn dechrau ofni am ddyfodol y gyfundrefn syniadaethol sydd mor annwyl iddynt.

Sunday, June 05, 2011

Attention seeker

Felly mae Chris Bryant o'r farn bod Leanne Wood yn attention seeker oherwydd ei bod yn bwriadu mynd i bacio bocsus bwyd ar gyfer pobl dlawd ddydd Mawrth yn hytrach na gwneud ei ffordd i Fae Caerdydd i weld y frenhines.

Chris Bryant yn galw Leanne Wood yn attention seeker.

Chris Bryant?

Chris Bryant?

Profiad prin i mi ydi methu dod o hyd i eiriau, ond mae heddiw'n eithriad - felly wna i ddim trio.

Chris yn gwneud ei orau glas i osgoi sylw'r Daily Mail

Tuesday, May 24, 2011

Safonau dwbl Nia Griffiths

Roedd yn ddiddorol gwrando ar Nia Griffiths ar Radio Cymru y bore 'ma yn lladd ar John Hemming (y Lib Dem a enwodd Ryan Giggs yn senedd San Steffan ddoe). Ei dadl oedd bod Hemming wedi gwneud cam ddefnydd o ryddfraint seneddol trwy ei defnyddio yn y fath fodd - mwy neu lai union ddadl John Prescott ar Newsnight neithiwr.


Digon teg - mae'n gam ddefnydd llwyr o hawl cwbl amhosibl ei gyfiawnhau, sy'n cael ei roi i aelodau seneddol ddweud yr hyn maent eisiau ei ddweud am unrhyw un nad ydynt yn ei hoffi. Ond oedd cam ddefnydd Hemming mewn gwirionedd yn waeth na cham ddefnydd Chris Bryant o'r un fraint ar Ebrill 5 eleni, pan aeth ati i bardduo Ieuan Wyn Jones ar sail cynnwys gwefan ffug na fyddai ond ynfytyn llwyr yn ei chymryd o ddifri?

Tuesday, April 05, 2011

Triciau budur gan y Blaid Lafur?


Mae'n debyg gen i y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr blogmenai yn ymwybodol bellach o'r ffaith i Chris Bryant godi ar ei draed yn Nhy'r Cyffredin i honni mai Plaid Cymru sy'n gyfrifol am y poster gwrth Peter Hain sydd wedi ymddangos ar y blog yma'n ddiweddar. Yn wir aeth cyn belled a honni mai swyddfa Ieuan Wyn Jones sy'n gyfrifol am gynnal ymgyrch i bardduo Hain. Mae'n cyfeirio at wefan a agorwyd ar Ebrill 1 (diwrnod ffwl Ebrill) sy'n hyrwyddo byrdwn y daflen (y dylid pleidleisio yn dactegol yn erbyn Llafur). Ymddengys i'r wefan gael ei chofrestru yn 45, Stryd Y Bont, Llangefni LL77 7PN - swyddfa Ieuan Wyn Jones.

Rwan, fel y dywedais yn y darn gwreiddiol, derbyn y ddelwedd trwy e bost yn ddi enw wnes i. Cyrhaeddodd ar ffurf ffeil Adobe ar nos Sul, Mawrth 27. Wnes i ddim defnydd o'r poster tan y dydd Iau canlynol - Mawrth 31. Gan nad oeddwn yn gallu trosglwyddo ffeil Adobe i fformat blogspot, bu'n rhaid i mi ei hargraffu, a'i sganio - er mwyn ei throsglwyddo i fformat JPEG. Ceir plyg trwy ganol y poster - fi wnaeth y plyg hwnnw wedi argraffu'r darn, trwy blygu'r papur. Does yna ddim plyg ar y ddelwedd wreiddiol. Mae'n amlwg felly mai fy nelwedd i sydd wedi ei chopio a'i phostio ar y wefan.

Rwan, petai honiad Bryant yn wir, pam y byddai'n rhaid i'r sawl oedd (yn ol Bryant) yn gyfrifol am y ddelwedd ei chopio o fy mlog i? Siawns y byddai ar gael iddynt trwy ddull arall. Ymhellach, oes rhywun mewn difri calon yn credu y byddai awdur ymgyrch driciau budron yn cofrestru ei wefan yn enw ei swyddfa ei hun, pan y gallai ddewis cofrestru yn enw unrhyw gyfeiriad yn y Byd mawr crwn - ac yn enwedig felly ac yntau'n arwain plaid wleidyddol?

Rwan mae Bryant naill ai yn ddyn rhyfeddol o naif, neu mae'n cymryd rhan mewn ymgyrch driciau budron ei hun.

'Dwi'n gwybod pa eglurhad sy'n ymddangos fwyaf tebygol i mi.