Friday, November 20, 2015

Cydbwysedd y grwpiau ar Gyngor Gwynedd

Yn sgil canlyniadau neithiwr mae'n ddiddorol edrych yn ol ar gynrychiolaeth y gwahanol grwpiau / bleidiau ar Gyngor Gwynedd tros y blynyddoedd diwethaf.   

Cyngor Gwynedd Tach 2015

·         Plaid Cymru 39

·         Annibynnol 18

·         Llais Gwynedd 8

·         Llafur 5

·         Democratiaid Rhyddfrydol 2

·         Aelod Unigol 2 

 

Cyngor Gwynedd Mai 2012

  • Plaid Cymru 37
  • Annibynnol 18
  • Llais Gwynedd 13
  • Llafur 4
  • Democratiaid Rhyddfrydol 2

 

Cyngor Gwynedd Mai 2008

  • Plaid Cymru 35
  • Annibynnol 16
  • Llais Gwynedd 12
  • Llafur 4
  • Democratiaid Rhyddfrydol 5


 Ceir sawl patrwm gweddol glir - gwendid parhaus Llafur ar lefel llywodraeth leol yn y sir, dirywiad y Lib Dems, sefydlogrwydd y grwp Annibynnol, dirywiad cyflym diweddar Llais Gwynedd a chryfder cynyddol Plaid Cymru.  Dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud bod un o'r ddwy sy 'n Aelod Unigol hefyd yn aelod o 'r Blaid gyda llaw.

Rwan mae'r ffaith bod y Blaid yn parhau i ddenu cynghorwyr o'r grwpiau eraill - yn arbennig Llais Gwynedd, yn parhau i gael niferoedd sylweddol iawn o bleidleisiau mewn is etholiadau cyngor, yn parhau i ddenu ymgeiswyr o safon uchel i sefyll ym mhob is etholiad, a hynny er gwaethaf gorfod gweinyddu'r toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn adrodd cyfrolau am wytnwch y Blaid ar lawr gwlad Gwynedd.  Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod y Blaid yn gryfach heddiw nag yw erioed wedi bod yn hanes Cyngor Gwynedd.

Llongyfarchiadau i Aled a Gareth a llongyfarchiadau i grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd.  Mae'r hyn sydd wedi digwydd tros y blynyddoedd diwethaf yn gryn gamp.

3 comments:

Gwynfor Owen said...

Diolch yn fawr am y gwybodaeth yma. O gofio bod rhan fwyaf o bleidiau yn colli seddi pan yn llywodraethu, mae'n amlwg bod pobl Gwynedd yn gweld gwaith mor dda mae'r Blaid yn ei wneud yng ngwyneb yr holl doriadau gan y Pleidiau Prydeinig a'r pwysigrwydd o gael rhywun sydd yn delio a'r sefyllfa mewn ffordd aeddfed a chydwybodol.
Edrychaf ymlaen nawr i weld sut mae'r newid gwleidyddol yng Ngwynedd yn mynd i effeithio ar bwyllgorau, cadeiryddiaeth a chynrychiolaeth ar gyrff allanol. Efallai byddd y newidiadau yma yn perswadio unigolion eraill i adael un grwp penodol, pan fydd ei poced yn cael ei hitio. Fe fydd yn sicr o achosi aml i ffrae.

Dylan said...

pam fyddai cynghorydd sir sy'n aelod o blaid wleidyddol yn dewis peidio bod yn rhan o'r grwp?

Cai Larsen said...

Mae o'n digwydd yn amlach nag y byddet yn meddwl. Anghytundeb efo'r grwp tros rhyw fater lleol neu'i gilydd ydi'r rheswm gan amlaf.