Thursday, July 09, 2015

Y Western Mail, etholiadau mewnol y Blaid, ac etholiadau mewnol yToriaid

Mae ymdriniaeth ddiweddar y Western Mail o hanes yr etholiad fewnol agos Leanne a Neil am enwebiaeth y Blaid yng Nghanol De Cymru yn ddadlennol.  

Cafodd y Mail wybodaeth gan aelod o'r Blaid Lafur o agosatrwydd y gystadluaeth.  Aeth prif ohebydd y papur, Martin Shipton ati i gynhyrchu cyfres o straeon ar y pwnc, oedd yn cynnwys esgyrn sychion (gwir) y stori, troelli ffeithiol anwir Llafur (bod yr aelodaeth yn ddrwg dybus o Leanne) a stwff oedd yn ffrwyth dychymyg llwyr (bod ymchwiliad mewnol yn mynd rhagddi i ddarganfod pwy ryddhaodd y stori i'r troellwr Llafur David Taylor).  Aeth y Shipton ati ymhellach i gynhyrchu erthygl oedd yn mynnu bod y Blaid yn cyhoeddi  holl ganlyniadau ei etholiadau mewnol.  Nodwyd yn y llinell olaf, a theitl yr erthygl y dylai pleidiau eraill wneud hynny hefyd - ond roedd y stori'n ymwneud yn llwyr ag etholiad fewnol Plaid Cymru.



Anaml y bydd unrhyw blaid yn rhyddhau'r math yna o wybodaeth - i raddau helaeth i osgoi'r hyn ddigwyddodd yn yr achos hwn - bwydo troelli negyddol gan bleidiau eraill a newyddiaduriaeth anghyfrifol, unochrog ac anonest fel un Shipton.

Beth bynnag, ymddengys bod Shipton eisiau gwybod union ganlyniadau pob hystings am enwebiaeth i sefyll mewn etholiadau cyngor plwyf, ond am rhyw reswm mae yna stori llawer gwell o ddiffyg trylwyder a democratiaeth o flaen ei lygaid, ond dydi o ddim eisiau dim i 'w wneud efo hi - y ffordd mae'r Toriaid yn dewis eu hymgeiswyr rhanbarthol.

Dydw i ddim yn un am gymryd rhan mewn ffrae drydarol fel rheol, ond dwi wedi ceisio gofyn i Shipton pam mae eisiau adrodd ar un stori, tra nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb yn y llall.  Dydw i heb gael ateb - neu o leiaf ateb sy'n gwneud synnwyr.

Os ydw i'n deall trefn dewis ymgeisyddion rhanbarthol y Toriaid yn iawn mae'n gweithio rhywbeth fel hyn.  Os mai un aelod sydd gan y Toriaid yn y rhanbarth, yna mae'n cael ei roi ar ben y rhestr yn ddi wrthwynebiad, am mae cystadleuaeth ddemocrataidd am y tri lle arall.  Os oes yna ddau aelod, mae'r ddau yn cystadlu am y ddau le cyntaf, ac mae pawb arall yn cael ymgeisio am y ddau safle arall.  Nid oes gan y sawl sydd yn y ddau safle gwaelod lawer o obaith o gael eu hethol.

Mae Shipton yn gwybod hyn, ac mae wedi cadarnhau hynny yn ystod y ddadl trydar.

Rwan mae'r gyfundrefn yma yn rhyfeddol a anghynwysol ac anemocrataidd.  Mewn hinsawdd lle mae'r rhan fwyaf o bleidiau yn ceisio ehangu eu hapel, mae fel petai'r Toriaid Cymreig yn ceisio cyfyngu eu hapel nhw.  O'r wyth aelod rhanbarthol Toriaidd mae saith yn ddynion canol oed - neu hyn na hynny.  Mae'r Toriaid Prydeinig yn arbrofi efo hystings agored er mwyn ehangu'r nifer sy'n cael enwebu eu hymgeiswyr.  Mae'r Toriaid Cymreig yn mynd i'r cyfeiriad arall a gwneud eu proses mor gaedig a phosibl.  I bob pwrpas mae trwch aelodaeth y Blaid Doriaidd yng Nghymru yn cael eu torri allan o'r posibilrwydd o gael eu hethol yn aelodau cynulliad.  

Efallai bod y gyfundrefn yma yn osgoi'r posibilrwydd o sioc anymunol, ond mae hefyd yn sylfaenol anemocrataidd.  Gallai aelod rhanbarthol Toriaidd dreulio'r rhan fwyaf o'i ddiwrnod gwaith ym Mae Caerdydd yn yr Eli Jenkins yn hytrach nag yn y Cynulliad, ac ni fyddai'n rhaid iddo boeni 'n ormodol am beidio a chael ei enwebu i sefyll tros y Toriaid.  

Eto - er bod ganddo stori dda am ddiffyg atebolrwydd a diffyg trolwyder go iawn -  dydi'r Western Mail ddim eisiau dim byd i'w wneud a hi.  Dwi wedi gofyn i Martin Shipton pam ac mae'n ateb trwy ddweud mai pobl lwythol fel fi sy'n stopio pobl rhag cefnogi'r Blaid, y dyliwn weld y llun maw (fel fo ma'n debyg) a bod Pleidwyr yn flin fo'r Toriaid oherwydd iddynt gael mwy o bleileisiau na 'r Blaid yn etholiadau eleni.  Gwnewch beth ydych eisiau o hynny - ond mae'n swnio i mi fel dyn yn ceisio osgoi ateb cwestiwn.

Gan nad ydi Shipton yn awyddus i esbonio ei safonau dwbl ei hun a'i bapur, mi dria i.  Mae'r Western Mail - a'r cyfryngau Cymreig ehangach yn sylfaenol sefydliadol ac unoliaethol yn y ffordd maent yn canfod y Byd, ac maent yn naturiol amheus o unrhyw beth sydd ddim yn sefydliadol ac unoliaethol.  Felly mae'r ffaith nad ydi'r Blaid yn cyhoeddi union ganlyniadau'r rhan fwyaf o'i etholiadau mewnol werth gwneud stori ohoni - mae'n cadarnhau canfyddiad y cyfryngau o natur amheus yr hyn sy'n wahanol iddyn nhw.  Dydi'r ffaith nad oes yna'r un blaid unoliaethol, sefydliadol arall ym Mhrydain yn cyhoeddi'r ffigyrau yma chwaith ddim yn ddigon i greu stori - mae'r cyfryngau yn uniaethu'n naturiol efo'r pleidiau hynny, a dydyn nhw ddim eisiau tystiolaeth o natur amheus y pleidiau hynny.  

Dydi prosesau mewnol anemocrataidd plaid unoliaethol ddim o ddiddordeb chwaith - am yn union yr un rheswm.

4 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Nid y BBC yw'r WM. (nid bod y bbc yn gwbl ddiduedd wrth gwrs!) Mae gennyn nhw yr un hawl bod yn unochrog a bob papur arall - yn wir onid dyna pam y sefydlwyd y papur gan Ardalydd Biwt? Y cyfan all cefnogwyr PC ei wneud yw sefydlu papur sydd yn fwy teyrngar iddyn nhw, fel y National yn yr Alban.

Cai Larsen said...

Na wrth gwrs, ond roedd ymdriniaeth y Bib yn adlewyrchu un y Western Mail.

Rhag bod yna gam ddealltwriaeth, dwi ddim yn cwestiynu hawl papur i fod yn unochrog - er dwi ddim yn meddwl y dylai 'ffeithiau' gael eu creu - fel ddigwyddodd yn yr achos yma.

Serch hynny dwi'n meddwl ei bod yn gwbl briodol i dynnu sylw at y ffaith bod papur yn unochrog.

Anonymous said...

Mi fuasai papur newydd yn y Gymraeg, o bosib, yn rhoi rhyw fath o gydbwysedd. Dwi'n cofio gryn son am hynny rai blynyddoedd yn ol.

Alun Lenny said...

Y tristwch yw mai'r WMail yw ein 'papur cenedlaethol' yn y de. Ond mae'n gwerthu llai nac 20,000 o gopiau. Mae hynny 14% yn llai na'r un adeg y llynedd. Cofiaf adeg pan oedd yn gwerthu 100,000. Aeth yn Gaerdydd-ganolog, yn frenhinol iawn, ac i ochri gyda Llafur - gan anghofio'i gadarnle traddodiadol yn y de-orllewin. S'dim rhyfedd fod pobol yn rhoi'r gorau i'w brynu wrth y miloedd.