Wednesday, July 29, 2015

Llefarydd y Dib Lems ar ddim byd o gwbl





Hmm wele rhestr llefarwyr swyddogol y Dib Lems.  Oherwydd mai dim ond 8 aelod seneddol, mae'n ddealladwy bod Farron wedi gorfod troi pob carreg i ddod o hyd i lefarwyr.  Felly yn ogystal ag aelodau seneddol, mae'n llawn barwniaid, arglwyddi, cyn aelodau seneddol, Aelodau Senedd yr Alban, Aelodau Cynulliad, cynghorwyr ac yn wir maer.  

  1. Leader: Tim Farron MP
  2. Economics: Baroness Susan Kramer
  3. Foreign Affairs/Chief Whip/Leader of the house: Tom Brake MP
  4. Defence: Baroness Judith Jolly
  5. Home Affairs: Alistair Carmichael MP
  6. Health: Norman Lamb MP
  7. Education: John Pugh MP
  8. Work and Pensions: Baroness Zahida Manzoor
  9. Business: Lorely Burt
  10. Energy and Climate Change: Lynne Featherstone
  11. Local Government: Mayor of Watford, Cllr Dorothy Thornhill
  12. Transport: Baroness Jenny Randerson
  13. Environment and Rural Affairs: Baroness Kate Parminter
  14. International Development: Baroness Lindsay Northover
  15. Culture Media and Sport: Baroness Jane Bonham-Carter
  16. Equalities: Baroness Meral Hussein-Ece
  17. Justice/Attorney General: Lord Jonathan Marks
  18. Northern Ireland: Lord John Alderdice
  19. Scotland: Willie Rennie MSP, Leader of the Scottish Liberal Democrats
  20. Wales: Kirsty Williams AM, Leader of the Welsh Liberal Democrats
  21. Campaigns Chair: Greg Mullholland MP
  22. Grassroots Campaigns: Cllr Tim Pickstone, Chair of the Association of Liberal Democrat Councillors
Mae yna ddau o 'r wyth aelod seneddol yn absennol - Nick Clegg oherwydd iddo wrthod joban a hoff fab Sir Geredigion.  Ymddengys nad yw'r ail yn cael ei ystyried gan ei blaid yn addas i lefaru ar eu rhan am unrhyw fater o gwbl - hyd yn oed llefarydd tros faterion mewnol Lledrod.  Mae Mark yn lwcus nad ydi etholwyr Ceredigion mor ddethol a'r Dib Lems.

3 comments:

Anonymous said...

Dau ymateb sydyn.

1. Cic yn nhin i AS Ceredigion a Chymru, heb os.

Sut fedar Kirsty Williams siarad ar ran Cymru yn y siambr yn San Steffan, a hithau yn aelod o'r Cynulliad yng Nghaerdydd?

Pwy ydi'r twpsyn hwn sy'n arwain y Lib-Dems?

2. Amddiffyn. Fedrwch chi ddim cael rhywun i siarad ar faterion megis rhyfel, arfau niwcliar a Trident - gyda'r enw Judith Jolly!

Mi ddyla hi newud ei chyfenw ar unwaith i rhywbeth mwy addas fel Judith Warmonger.

Anonymous said...

Paid taflu dy sen ar y Dem Rh – dyw nhw ddim yn dwp.

1) Mae penodiad Kirsty Williams yn gwneud synnwyr i blaid sy'n honni cefnogi rhyw fath o ffederaliaeth. Er na chaiff hi siarad yn San Steffan mae'r penodiad yn rhoi llwyfan iddi yng Nghymru a mi fydd hynny'n help iddi gadw sedd fydd dan fygythiad mis Mai nesaf. Mae ei chyfraniad ar lawr y Senedd ar faterion iechyd yn effeithiol. Dwi'n disgwyl y bydd hi yr un mor effeithiol yn llefaru am Gymru.

2) Mae son y bydd Mark Williams yn cael y cyfrifolded dros ymgyrchoedd yn yr ardaloedd gwledig. Os daw hynny mi fydd ei gyfraniad i'w blaid yn fwy gwerthfawr na llefaru am Gymru. Mae ei lwyddiant etholiadol yn profi 'i fod e'n deall natur ymgyrchu mewn ardaloedd gwledig. Coffi, sioe, coffi, carnifal a mwy o goffi . . . a gwleidyddiaeth gyda 'g' fach.

Dyma'r tro cyntaf i mi deimlo awydd i amddyffyn y Dem Rh. Efallai oherwydd mod i wedi hen flino ar barodrwydd cynrychiolwyr fy mhlaid (a blog menai yn eu plith) i bigo yn ddiddiwedd ar ymddygiad y pleidiau eraill. Dwi'n dechrau amau fod beirniadu eraill yn dod yn haws i'n ACau na chynllunio ac egluro polisiau adeiladol. Does dim i'w ennill wrth wawdio ymdrechion y lleill os nad oes gennym rywbeth gwell i'w gynnig ein hunain.

Anonymous said...

Fel un a ymgyrchodd dros PC yng Ngheredigion, cytunaf a'r ail sylw, mae arnaf ofn. Mae pobl Ceredigion eisiau AS sy'n ymladd dros yr etholwyr, yn bennaf oll. Nid ydynt bellach yn poeni taten am ei liw gwleidyddol, a'r lleiaf o statws sydd ganddo, gorau oll. Yr oeddwn wedi gobeithio yn wahanol, ac y buasai Mark Williams yn anochel yn cael rhyw portfolio i dynnu ei sylw o'r pafin neu cacen parhaol mae'n ymddiddori ynddo.