Tuesday, July 21, 2015

Pwy fethodd sefyll tros yr anghenus?

Rhestr yw'r isod o sut y pleidleisiodd aelodau seneddol Cymru yn y bleidlais neithiwr ar doriadau mewn budd daliadau ynghyd a lefelau tlodi plant yn eu hetholaethau.  Un o sgil effeithiadau penderfyniad Ty'r Cyffredin i weithredu'r toriadau fydd cynnydd mewn tlodi plant.  Bydd yna pob math o doriadau eraill i'r wladwriaeth les wrth gwrs.


Fel y gwelwch pleidleisiodd y Toriaid i gyd ag eithrio Chris Davies o blaid y toriadau, pleidleisiodd y tri Phleidiwr a'r Lib Dem yn erbyn a phleidleisiodd saith o'r pump ar hugain Llafurwr yn erbyn, a methodd y deunaw Llafurwr arall bleidleisio y naill ffordd neu'r llall.  

Pleidleisiodd 308 Tori tros y mesur neithiwr.  Dydi 308 ddim yn fwyafrif o'r 650 o'r aelodau seneddol nag o'r 646 sy'n mynychu'r lle yn absenoldeb aelodau Sinn Fein.  Mewn geiriau eraill, petai pob aelod seneddol Llafur wedi bod a'r asgwrn cefn i bleidleisio yn erbyn gorchymyn dw lali eu harweinydd dros dro i beidio a gwrthwynebu ymysodiad y Toriaid ar y wladwriaeth les, yna byddai'r bil wedi syrthio.  Ond wnaethon nhw ddim, ac o ganlyniad mae'r ymysodiad yma ar rhai o'r mwyaf bregus mewn cymdeithas wedi cael rhwydd hynt i gychwyn ar ei daith trwy'r senedd.
Mae sawl cwestiwn yn codi o hyn - a'r un canolog ydi 'Beth yn union ydi pwynt y Blaid Lafur os nad yw'n edrych ar ol y mwyaf anghenus mewn cymdeithas?'  Ond un eilaidd ydi - 'Os nad ydi Llafur yn fodlon sefyll tros yr anghenus, pwy sydd?'  'Plaid Cymru' ydi'r ateb yng Nghymru, a'r 'SNP' ydi'r ateb yn yr Alban wrth gwrs.  Ond mae gen i mai 'r ateb yn Lloegr ydi 'Neb'.

8 comments:

Anonymous said...

Mae'n debyg bod y 308 Tori heb y rhai oedd wedi pario gydag aelodau seneddol Llafur

Cai Larsen said...

Pam y byddai'r Toriaid eisiau pario efo aelodau Llafur sy'n atal eu pleidlais yn hytrach na phleidleisio yn erbyn?

Dafydd Williams said...

Credaf fod 53 Aelod Seneddol o'r SNP wedi pleidleisio yn erbyn y mesur plys y tri AS Plaid Cymru - cyfanswm o 56. Mwy felly na'r 48 Llafur. Drych o fethiant llwyr y Blaid Lafur i sefyll gyda'r tlawd a'r anghenus. Pa sosialydd yn ei iawn bwyll all gefnogi'r Blaid Lafur y dyddiau hyn?

Marconatrix said...

Dros y blynyddoedd, yn arbennig o 1992 ymlaen, mae tyfiant sylweddol yn y nifer sy'n peidio â phleidleisio am yr un blaid na'r llall :

http://wingsoverscotland.com/wp-content/uploads/2015/07/dnvuk.png

Yn yr Alban mae llawer o'r rheina yn cefnogi yr SNP erbyn hyn, ond yn Lloegr does dim gartre iddyn nhw :

https://pbs.twimg.com/media/CErzNU7XIAA4cA_.jpg:large

Cwestion : Sut mae Cymru yn edrych yr un beth â Lloegr, gan mae PC ar gael fel opsiwn?

Anonymous said...

Dim syniad pam wnaethon nhw bario ond dyns ddigwyddodd yn ôl rhaglen y Daily Politics ddoe

Cai Larsen said...

Mi ro i bwt o ddadansoddiad at ei gilydd matronix, rwan bod gen i ychydig o amser. Mae o'n gwestiwn digon diddorol.

Unknown said...
This comment has been removed by the author.
Dafydd Williams said...

Ymddiheuraf - 55 Aelod Seneddol yr SNP a wrthododd y mesur, ynghyd ag un a fu'n clercio. Dyma ddolen i ddatganiad Dr Dai Lloyd, Abertawe - a gafodd ei anwybyddu gan y BBC wrth gwrs:
http://www.gorllewinabertawe.plaidcymru.org/news/2015/07/23/condemnio-brad-y-blaid-lafur-ar-dlodi-plant/