Friday, July 03, 2015

Pam bod sgwrsio'n bwysig

Fyddwn i ddim yn synnu mai'r cyfarfod efo Mhiari Black yng Nghaernarfon neithiwr (a drefnwyd gan Plaid Cymru, Arfon) oedd y cyfarfod gwleidyddol mwyaf yng Ngogledd Cymru ers i Leanne ymweld a Phrifysgol Bangor yn ystod yr ymgyrch etholiad cyffredinol ym mis Ebrill.



I'r rhai yn eich plith sydd ddim yn gyfarwydd efo Mhairi, hi ydi Aelod Seneddol newydd Paisley ar ol curo Douglas Alexander ym mis Mai.  Hi hefyd ydi'r Aelod Seneddol ieuengaf i gael ei hethol ers oes yr arth a'r blaidd.  Mae hefyd wedi datblygu i fod yn dipyn o obsesiwn gan bapurau fel y Daily Mail - sy 'n ei hystyried yn ymgorfforiad twt o'u cred nad ydi cenedlaetholwyr Celtaidd i fod yn agos at San Steffan mewn gwirionedd.

Ta waeth, roedd Mhiari ar ei thraed am tros i awr rhwng ei hanerchiad ac ateb cwestiynau'r gynulleidfa - y cwbl heb ddarn o bapur na nodyn ar ei chyfyl.  Siarad oedd hi am ei thaith i fod yn Aelod Seneddol - gan gychwyn fel ymgyrchydd Ia o gefndir Llafur yn y refferendwm a gorffen efo ei hargraffiadau o Dy'r Cyffredin wedi iddi gael ei hethol.  Roedd natur yr hyn roedd ganddi i'w ddweud yn ddadlennol.

Sgwrsio am sgwrsio oedd hi mewn gwirionedd - am y gwahanol bobl roedd wedi siarad efo nhw yn y ddwy ymgyrch - refferendwm ac etholiadol - mae wedi bod yn rhan ohonynt yn ddiweddar.  Roedd yn gwneud hynny mewn ffordd fywiog a brwdfrydig iawn - ond son am sgwrsio oedd hi yn y diwedd.  Ac efallai mai hynny ydi'r brif wers i ni yma yng Nghymru.



Roedd ymgyrch Ia yn wahanol  i etholiadau arferol yn y DU oherwydd ei bod wedi ei seilio i raddau helaeth ar sgwrsio efo pobl yn eu tai a'u strydoedd eu hunain.  Mae ymgyrchoedd fel rheol wedi eu seilio ar nifer gyfyng o negeseuon cymharol arwynebol yn cael eu hailadrodd trosodd a throsodd a throsodd - ar y cyfryngau, mewn gohebiaeth ac wrth ganfasio.  Roedd yna reswm da am holl sgwrsio'r cenedlaetholwyr Albanaidd - roedd y mater dan sylw a goblygiadau hynod gymhleth iddo, felly roedd yna waith egluro - a gwaith tawelu ofnau.  Dwi'n cofio eistedd mewn swyddfa Ia tua deufis cyn yr etholiad pan ddaeth gwrsig i mewn gyda nifer o gwestiynau.  Treuliodd un o'r ymgyrchwyr oedd yn yr adeilad hanner awr yn siarad efo hi am ei gwahanol ofidiau.  Roedd y bobl oedd ar y stondinau stryd yn chwilio am bobl i sgwrsio am annibyniaeth efo nhw - ac o ddod o hyd i rhywun roeddynt yn treulio cryn dipyn o amser yn siarad efo nhw.  A barnu o sgwrs Mhairi roedd yr ymgyrch etholiadol yn ddigon tebyg.

A dyna i raddau helaeth ydi'r rheswm am lwyddiant ysgubol yr SNP - mae wedi ei seilio ar unigolion yn sgwrsio efo unigolion eraill - yr etholwyr.  Mae yna pob math o ddulliau ymgyrchu - ar y cyfryngau, ar y cyfryngau amgen, trwy ohebu ac ati - ond cysylltiad uniongyrchol rhwng unigolion ydi'r dull gorau o ddwyn perswad.  Dyna'r math o gysylltiad mae aelodau'r ddynol ryw wedi esblygu i ymateb iddo orau. Llwyddodd yr ymgyrch Ia i ddenu niferoedd sylweddol o bobl i droedio'r palmentydd i gyfathrebu'n uniongyrchol efo pobl.  Methwyd ag ennill yr ymgyrch honno, ond roedd llawer iawn o'r bobl oedd ar gael ym mis Awst a Medi 2014 hefyd ar gael i wneud yr un peth ym mis Ebrill a Mai 2015.  

Os ydi'r sawl sy'n darllen y blog yma eisiau gwneud gwahaniaeth y flwyddyn nesaf, mae yna pob math o ffyrdd o wneud hynny - mae yna rhywbeth y gall pawb ei wneud, a dydi canfasio ddim at ddant pawb.  Ond y peth mwyaf gwerthfawr y gellir ei wneud ydi siarad efo pobl - canfasio ydi'r ffordd fwyaf gwyddonol ac effeithiol o ymgyrchu'n uniongyrchol, ond mae sgwrsio'n anffurfiol efo cyfeillion, perthnasau, cymdogion a chyd weithwyr yn effeithiol hefyd.

Os nad ydan ni'n dysgu yr un gwers arall o'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban tros y flwyddyn diwethaf - pwysigrwydd sgwrsio fel erfyn etholiadol ydi'r wers i'w chymryd.




2 comments:

Anonymous said...

Faint oedd yno i'w chlywed hi?

Cai Larsen said...

Dwn im. Tua 200 ella.