Saturday, July 04, 2015

Mwy o lawenydd a dedwyddwch o Gaerdydd

Mae yna rhywbeth grotesg am wylio'r sawl sydd i fod i arwain prif ddinas Cymru trwy gyfnod anodd o doriadau yn defnyddio eu hynni a'u brwdfrydedd i erlid ei gilydd, a lladd ar ei gilydd yn y was.  Mae'r stori llawn i'w chael yma


Dyma rhai o eiriau Ralph Cook wrth adael y Blaid Lafur.

And so it is with deep regret that I can no longer remain a member of a political group consisting of so many nasty, vindictive, cruel and incompetent politicians as the Cardiff Labour group of councillors.
After 37 years membership of the Labour Party and almost 16 years serving the Trowbridge ward as a Labour councillor I have just instructed officers of the council to suspend all my future financial contributions to the Labour group.
Y tro diwethaf roedd Llafur yn rheoli Caerdydd o 1995 i 2004 roedd llywodraethiant y ddinas mewn cyflwr o argyfwng parhaol erbyn y diwedd.  Mae wedi cymryd llai o lawer o amser i ddod i hynny y tro hwn.  Mae prif ddinas Cymru yn haeddu gwell. 





2 comments:

Anonymous said...

Da gweld fod PC, ar y llaw arall, yn dryw i'r arweinydd.
http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33400402

Cai Larsen said...

Felly ti'n gweld cymhariaeth rhwng y broses ddemocrataidd a roddodd LW ar ben y rhestr - proses nad ydi pob plaid yng Nghymru yn trafferthu efo hi, a checru chwerw, personol a maleisus ymysg y grwp sydd i fod yn rheoli'r brif ddinas.

Ti'n byw mewn bydysawd cyfochrog.