Monday, February 16, 2015

Sylwebaeth dethol Golwg360

Hmm, rhyddhawyd canlyniadau pedwar pol heddiw - tri (Ashcroft, Populus ac YouGov) yn awgrymu bod Llafur ar y blaen (o drwch blewyn) ac un (ICM) awgrymu bod y Toriaid ar y blaen.  Am resymau sy'n glir yn unig i Golwg360 maent yn adrodd ar yr outlier, tra'n anwybyddu'r lleill.

Dwi'n gwybod bod stori dda'n hwyl, ond wir Dduw mae'n bwysig ceisio darparu sylwebaeth cytbwys ar faterion fel hyn.  

2 comments:

Anonymous said...

come on mae golwg 360 yn rhoi gormod o farn i plaid cymru sdim byd cytbwys am Golwg

Anonymous said...

Dw i'n meddwl fod hon yn agos i'w lle sti. Mae'r economi wedi dechrau troi ac yn chwyddo pocedi cefnogwyr traddodiadol y Toriaid, mae pleidlais UKIP yn gwanio wrth i'w cefnogwyr fynd yn ôl at y ffald gan mai'r Ceidwadwyr yw'r unig rai sydd yn cynnig refferendwm ar Ewrop, mae UKIP yn dwyn mwy o gefnogaeth gan gefnogwyr llafur na mae rhywun yn ei feddwl ac mae gan Lafur arweinydd uffernol o wan heb son am ganghellor wrthblaid hollol di glem. Ar ben hynny, dydy llafur ddim yn cynnig dim byd sy'n wahanol i'r toriaid.Yn anffodus mae hyn oll yn mynd i arwain at lywodraeth dorïaidd am genhedlaeth arall achos unwaith fydd y ddyled wedi ei thalu, Boris Johnson yn arweinydd erbyn etholiad 2020, trethi isel ayyb bydd dim pwynt newid.