Sunday, February 22, 2015

Llafur Watch - rhan 8

Normaleiddio cyfundrefn wleidyddol sydd yn ei hanfod yn un llwgr y tro hwn.  Fel y bydd datblygiadau heno yn ein hatgoffa mae yna berthynas sylfaenol lwgr rhwng buddiannau ariannol a'r system wleidyddol yn y DU.

Agwedd arall ar y gyfundrefn lwgr yma ydi'r swmiau enfawr o arian a roir i bleidiau gwleidyddol gan unigolion cyfoethog a chorfforaethau mawrion.  Er enghraifft derbyniodd y Blaid Lafur £385,000 gan gwmni ariannol PricewaterhouseCoopers yn ystod tri mis olaf y llynedd.  

Mae'n weddol amlwg pam nad ydi derbyn pres o ffynonellau fel yma yn beth arbennig o gall, ond mi eglura i beth bynnag.  Mae'n anodd i blaid sydd mewn llywodraeth weithredu yn groes i fuddiannau'r cwmniau sydd yn ei hariannu.  Gormod o barch at anghenion banciau arweiniodd at y diffyg rheoleiddio a arweiniodd yn ei dro at anhrefn ariannol diwedd y ddegawd diwethaf.  

Beth bynnag, mae gofyn bellach i bleidiau gwleidyddol ddatgan cyfraniadau unigol sy'n uwch na £7,500 bellach.  Roedd gan Llafur a'r Toriaid gryn dipyn o ddatgan i'w wneud y llynedd gan bod pob math o unigolion cyfoethog a chorfforaethau yn syrthio tros eu gilydd i roi pres iddyn nhw.  Doedd gan Blaid Cymru ddim un datganiad i'w wneud - doedd y blaid heb gael cymaint ag un cyfraniad o £7,500 neu fwy.  Mae'r Blaid yn codi ei harian trwy drefnu boreuau coffi, ocsiynnau addewidion, apelio i aelodau ac ati - nid trwy gymryd swmiau mawr o bres gan fuddiannau preifat.  

Ond mae'r Blaid Lafur Gymreig mor wyrdroedig, a chymaint allan o gysylltiad efo'r Gymru gyfoes nes eu bod yn credu mai'r sgandal ydi nad yw Plaid Cymru yn derbyn swmiau mawr o bres gan gwmniau ariannol.  Ym myd Llafur Cymru mae peidio a bod ym mhoced pobl gyfoethog yn rhywbeth i gywilyddio ynddo.  Mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur Gymreig o dan yr argraff mai progressives ydi cwmniau fel PricewaterhouseCoopers.  

Ac yn y cyfamser rydym yn deall o newyddion heno bod cyn weinidogion Llafur yn cymryd £5,000 y pop am ddefnyddio eu dylanwad i gynorthwyo cwmniau mawr.  Peidiwch a disgwyl i Lafur Cymru feirniadu hynny - maen nhw'n rhy brysur yn chwerthin ar ben y sawl sydd a'u pennau y tu allan i'r cafn.

Gyda llaw - rhag ofn bod gennych ddiddordeb mae cyfrifon Plaid Cymru yn ddi eithriad yn y du y dyddiau yma - yn wahanol i'r Blaid Lafur sydd fel arfer efo miliynnau lawer o ddyledion - er gwaethaf yr holl bres sy'n cael eu lluchio atynt.



No comments: