Friday, February 20, 2015

Pwt bach am y polau piniwn

Gyda'r etholiad cyffredinol yn prysur agosau gallwn baratoi ein hunain am gannoedd (yn llythrennol) o bolau piniwn tros y misoedd nesaf.  Mi fydd yna fwy o bolau nag a gafwyd erioed o'r blaen - mae polio rhyngrwyd wedi gwneud yr arfer yn llawer, llawer rhatach nag oedd yn y gorffennol - felly gallwn ddisgwyl mwy o lawer o boliau. Felly dyma bwt o arweiniad - ar gyfer gamblwyr gwleidyddol ac eraill - gan rhywun sydd wedi gwylio'r polau am fwy o flynyddoedd na mae'n mynd i gyfaddef.  

1). Dydi pol piniwn ddim yn dweud wrthych pa ffordd mae etholiad am fynd - mae'n rhoi cipolwg o dirwedd etholiadol ar yr union amser mae'r polio wedi digwydd.  Yn amlwg fel mae etholiad yn dynesu mae'n fwy dibynadwy fel dull o ddarogan oherwydd bod llai o amser i bethau newid.  Dyna pam bod gwahaniaeth rhwng y polau piniwn a'r marchnadoedd betio ar hyn o bryd.  Mae'r polau yn darogan mai Llafur fydd y blaid fwyaf, ond mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu mai'r Toriaid fydd y blaid a'r mwyaf o seddi.  Un rheswm posibl am hyn ydi bod y marchnadoedd yn credu y bydd personoliaeth Miliband yn dod yn ffactor erbyn diwrnod yr etholiad, ac y bydd hynny yn effeithio'n negyddol ar bleidlais Llafur.  Neu mewn geiriau eraill maent yn credu y bydd y tirwedd etholiadol yn gwahanol erbyn mis Mai.

2). Mae rheolau tebygolrwydd yn awgrymu bod pob pol yn anghywir i'r graddau bod gan pob un margin for error, ac mae yna lefel o ansicrwydd.  Mae'r rhan fwyaf o bolau yn defnyddio sampl o tua 1,000.  Golyga hyn bod y mfe yn +\-3%, ac mae'r lefel ansicrwydd yn 95%.  Felly gallai'r 35% fod cyn uched a 38% neu cyn ised a 32% (er mai'r canolrif ydi'r ffigwr mwyaf tebygol).  Ymhellach mae un pol ym mhob ugain am fod y tu allan i'r amrediad 32% i 38%.  Dydi'r symudiadau bach mewn cefnogaeth mae'r papurau - ynghyd a rhai sylwebyddion a ddylai wybod yn well - yn gwneud mor a mynydd ohonynt mor aml, ddim yn o anghenrhaid yn ystadegol arwyddocaol. 

In other words, Company X surveys customers and finds that 50 percent of the respondents say its customer service is “very good.” The confidence level is cited as 95 percent plus or minus 3 percent. This information means that if the survey were conducted 100 times, the percentage who say service is “very good” will range between 47 and 53 percent most (95 percent) of the time.



3). Peidiwch a dewis eich pol.  Mae'r polau yn dweud pethau gwahanol.  Mae'n demtasiwn i ddewis y pol sydd at eich dant, a chymryd mai hwnnw ydi'r un cywir.  Dyna pam mae llawer o wleidyddion yn trydar pol sy'n ffafriol i'w plaid nhw, tra'n anwybyddu pob un sydd ddim.

4). Mae'r polau wedi bod yn anghywir yn y gorffennol, ac mi fyddan nhw'n anghywir eto.  Yr esiampl mwyaf cofiadwy (i'r sawl yn ein plith sydd ddigon hen i gofio )ydi etholiad cyffredinol 1992 pan enilliodd John Major, er bod y polau i gyd bron yn awgrymu mai Kinnock fyddai'n ennill.  Mae'r cwmniau wedi mireinio eu dulliau ers hynny - ond byddant yn cael pethau'n anghywir o hyd.  Er enghraifft tan gyfrifwyd cefnogaeth UKIP yn sylweddol gan y polau Cymreig ar gyfer etholiad Ewrop y llynedd.
In other words, Company X surveys customers and finds that 50 percent of the respondents say its customer service is “very good.” The confidence level is cited as 95 percent plus or minus 3 percent. This information means that if the survey were conducted 100 times, the percentage who say service is “very good” will range between 47 and 53 percent most (95 percent) of the time.

5). Peidiwch a chwyno bod y cwmniau polio yn erlid eich plaid, fel mae nifer o wleidyddion Llafur yn yr Alban yn ei wneud ar hyn o bryd.  Mae'n bosibl bod eu methodoleg yn wallus, ac mae'n briodol tynnu sylw at hynny - ond dydyn nhw ddim yn cael pethau'n anghywir yn fwriadol.  Mae busnes y poliwr yn dibynu ar gael pethau'n gywir - os yw'n cael pethau'n anghywir yn rheolaidd mae'n colli ei gwsmeriaid i gyd.

6). Peidiwch a chymryd bod cyfartaledd y polau sydd ar gael yn fwy cywir na pholau unigol.  Yn hanesyddol mae polau sydd ymhell o'r cymedr llawn mor debygol o fod yn gywir na rhai sy'n agos ato.  

7). Mae cyfeiriad polau yn aml cyn bwysiced a'r union ffigyrau.  Os ydi'r polau yn gyffredinol symud oddi wrth un plaid tuag at un arall mae hynny'n arwyddocaol bron yn ddi eithriad - mae hynny'n arbennig o wir yn nyddiau olaf ymgyrch etholiadol.  

8). Mae'r rhan fwyaf o bolau Prydeinig yn chwilio am ganrannau 'cenedlaethol' ond etholaeth wrth etholaeth mae etholiadau yn cael eu hennill a'u colli yn y DU.  Ers talwm roedd gogwydd yn un rhan o'r DU yn tueddu i gael ei adlewyrchu ym mhob man arall - ond dydi hynny ddim yn wir erbyn hyn - mae ardaloedd daearyddol a grwpiau demograffig yn torri eu cwys eu hunain yn aml iawn.  Enghraifft da o hyn ydi'r newid sylweddol yn yr Alban.  Mae yna ogwydd tuag at Lafur yn Lloegr, ond yn erbyn Llafur yn yr Alban.  Mae hyn oherwydd bod cydadran arwyddocaol o'r bleidlais Llafur yn yr Alban wedi pechu oherwydd i'w plaid ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth i'r wlad.  O edrych ar y DU yn ei chyfanrwydd go brin bod y bobl hyn yn cymaint ag 1% o'r etholwyr - ond mae ganddynt y potensial i wneud gwahaniaeth arwyddocaol iawn - gallant yn hawdd amddifadu Llafur o fwy na 40 sedd ym mis Mai.  Byddai hynny'n hen ddigon i'w hamddifadu o fwyafrif llwyr. 

9). Peidiwch a chymryd gormod o sylw pan mae'r polau yn dod yn fwy tebyg i'w gilydd yn niwedd Ebrill a dechrau Mai.  Mae hyn yn digwydd yn amlach na pheidio fel mae diwrnod etholiad cyffredinol yn dynesu.  Mae llawer yn meddwl bod hyn yn adlewyrchu beth sy'n mynd i ddigwydd ar y diwrnod - ond dydi o ddim.  Yr hyn sy'n digwydd ydi bod y cwmniau polio sydd a chanlyniadau gwahanol i'r rhan fwyaf o'r lleill yn dechrau cael panig - os ydynt yn wahanol ac yn gwbl anghywir byddant yn edrych yn wirion ac yn colli busnes.  Felly mae yna demtasiwn i'r cwmniau polio sy'n cael canlyniadau ar eithafion yr amrediad i addasu eu methodoleg i'w wneud yn fwy tebyg i fethodoleg cwmniau eraill.  Canlyniad hyn ydi bod eu canlyniadau yn mynd yn fwy tebyg i rai cwmniau eraill.  Dydi hynny ddim yn golygu o anghenrhaid eu bod yn mynd yn gywirach.

10). Edrychwch ar wahanol fathau o boliau.  Polio rhyngrwyd a geir fel rheol heddiw.  Ni ddylai hynny wneud gwahaniaeth - maent yn pwyso eu canlyniadau er mwyn sicrhau bod eu sampl yn cynrychioli'r gofrestr pleidleisio yn ei chyfanrwydd.  Ac yn wir mae record y cwmniau rhyngrwyd yn eithaf da.  Ond erys y ffaith bod y sawl sydd yn eu sampl wedi gwirfoddoli i gymryd rhan - ac mae hynny ynddo'i hun yn gwneud y sampl yn wahanol i'r pwll cyflawn o etholwyr.  Pe byddai yna batrwm o'r polwyr ffon / wyneb yn wyneb yn dweud un peth a'r polwyr rhyngrwyd yn dweud rhywbeth arall, mi fyddwn i'n rhoi mwy o gred i ganfyddiadau'r grwp cyntaf na'r ail.

3 comments:

Anonymous said...

Pwynt 2) yn anghywir gennyt. Os mai , dyweder 35% yw'r ffigur a roddir, mae hynny llawer mwy tebygol i fod yn wir na 32% na 38%. Y ddau ffigur yna yw'r terfynau isaf ac uchaf posibl tybiedig ar Lefel Hyder o 95%. Mae y math yma o ddosraniad gyda tueddiadau normal. Yr wyt ti yn ei gymryd i fod yn ddosraniad unffurf.

Cai Larsen said...

OK - mi newidia i'r geiriad.

William Dolben said...

Diolch Cai , llawer o bwyntiau da ond yr hyn sy'n mynd â fy mryd i ydi effaith polau ar ymddygiad pleidleiswyr a phleidiau. Os ydi plaid ymhell ar y blaen mae'n apt o laesu dwylo. Mae plaid sy'n colli yn gwneud ebwch i glosio. Ar ddiwrnod lecsiwn mae rhai'n aros adre am eu bod yn grediniol fod y canlyniad yn sicr a nid oes modd dylanwadu arno. Mae pleidleiswyr sy'n ofni'r gwaethaf yn brysio i fwrw eu pleidlais. Yn hyn o beth, beth fyddai'r effaith o wahardd polau piniwn yn yr wythnosau olaf? Gwneir hyn yn Ffrainc rwy'n meddwl ac ambell ei wlad arall.