Monday, February 09, 2015

Llongyfarchiadau i _ _ _

_ _ _ Alun Cairns, Ian Lucas, Madeleine Moon a'r erchyll Owen Smith am lwyddo i berswadio'r bobl bach annwyl 'na sy'n gwneud ffortiwn yn gwerthu arfau ar hyd a lled y Byd i fwy neu lai unrhyw un sy'n fodlon talu i roi ffidan iawn iddyn nhw.

Gobeithio i'r tri ohonyn nhw fwynhau'r araith ddi wahoddiad a di groeso gan Anne Marie O'Reilly.

I weld y tabl yn llawn o'r 40 AS aeth i'r digwyddiad gweler yma.






6 comments:

R Tyler said...

Gwych, ond beth yw'r rhestr? Yn rhy fach i'w ddarllen.

Cai Larsen said...

Rhestr o'r 40 AS aeth i giniawa - dwi wedi cynnwys linc. Nick Clegg yn eu plith.

Cneifiwr said...

Heb sôn am Madeleine Moon (Penybont ar Ogwr).

Gareth said...

Siwr bydd siom i ti glywed nad yw'r Ceidwadwyr am 'dargedu' Arfon? http://may2015.com/featured/leaked-list-shows-tories-are-not-competing-in-five-likely-marginals/ https://docs.google.com/spreadsheets/d/1KFnWl0aAr9TzOAhF7zSeMf0aRpQRyfLD7cRUQBBoUSA/edit#gid=0

Gareth said...

Diddorol: dyw Natasha Ashgar ddim am gael unrhyw gymorth yn Nwyrain Casnewydd ychwaith (siwr fe fydd ei thad yn bles). Ond Chris Davies (Aberhonddu/Maesyfed)? Bydd y Dem Rhydd wrth eu boddau. A dim cymorth i Craig Williams (Gog. Caerdydd). Mae'r Ceidwadwyr wedi penderfynu ildio honno felly.

Cai Larsen said...

Diolch i 'r ddau ohonoch - mi addaswn ni bethau.