Tybed os mai Gwilym Owen ydi colofnydd mwyaf llwfr Cymru? Fel rydym wedi son sawl gwaith yn y gorffennol mae'n fframio ei honiadau / ensyniadau ar ffurf cwestiynau - ac felly'n llwyddo i osgoi gorfod bod yn atebol am yr hyn mae'n ei honni a'i awgrymu.
Fel arfer ceir nifer o gwestiynau yn ymdrech yr wythnos yma. Faint yn union o bobl oedd yn y gwrthdystiad yn erbyn penderfyniad Tai Cymunedol Gwynedd i ollwng eu amod Cymraeg wrth hysbysebu swyddi? Ai Cymry Cymraeg sy'n cael eu penodi i pob swydd gan Gyngor Gwynedd? Sawl athro / athrawes ddi Gymraeg sydd wedi eu penodi i ysgolion uwchradd yn rhannau Cymraeg Gwynedd? Oedd yr athrawon nad ydi Gwilym yn gwybod os ydynt wedi eu penodi neu beidio wedi eu penodi pan roedd Sian Gwenllian yn ddeilydd portffolio addysg Cyngor Gwynedd? Pam bod penaethiaid addysg Gwynedd wedi rhoi penrhyddid i lywodraethwyr a phenaethiaid dorri polisi iaith y sir trwy benodi'r athrawon nad ydi Gwilym yn gwybod os ydynt wedi eu penodi? Os oedd Sian Gwenllian yn gwybod am benodiad yr athrawon di Gymraeg nad ydi Gwilym yn gwybod os ydynt wedi cael eu penodi neu beidio?
Un pwynt brysiog cyn cychwyn - mae ei gwestiwn ynglyn ag os ydi Cyngor Gwynedd yn sicrhau eu bod yn cyflogi Cymry Cymraeg yn un rhyfeddol. Byddai'n anghyfreithlon cyflogi ar sail ethnig - a fyddwn na neb arall o fewn y Blaid yn gallu cefnogi polisi felly. Polisi o gyflogi pobl sy'n gallu cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Saesneg a'r Gymraeg a geir yng Ngwynedd - nid polisi o gyflogi Cymry Cymraeg. Mae yna weithwyr sector gyhoeddus yng Ngwynedd o Gymru, Lloegr ac o'r tu hwnt i llefydd hynny sy'n gallu cynnig gwasanaeth ddwyieithog. Mae'r awgrym bod y polisi yn un sy'n ymwneud a chyflogi ar sail ethnig yn awgrym cwbl gywilyddus.
O ran y cwestiynau eraill, mi allaf ateb ambell un.
Beth bynnag ddywedodd Karen Owen yn y Cymro roedd yna rhwng 200 a 250 o bobl yno - mi wnes i gyfri. Dydi Gwilym ddim yn hoffi protestiadau iaith - ac mae wedi gwneud datganiad cwbl boncyrs yn y gorffennol ei fod yn nodi o graffu yn ofalus ar ei deledu mai pobl sy'n ennill eu bywoliaeth o'r Gymraeg sy'n eu mynychu.
Mae yna bobl sydd ddim yn siarad y Gymraeg yn gweithio i Gyngor Gwynedd - ond lleiafrif bach iawn ydi'r rheiny - rhywbeth o dan 2% -
Mae'r >2% hynny bron yn ddi eithriad naill ai wedi ymrwymo i ddysgu'r iaith, neu yn gallu siarad yr iaith yn ddigon da i gyflawni'r swydd benodol maent yn ei gwneud trwy ei chyfrwng.
Dydw i ddim yn gwybod os oes yna staff sydd ond yn siarad Saesneg wedi eu penodi i ysgolion uwchradd mewn ardaloedd Cymreig yng Ngwynedd - ond dydw i ddim yn ymwybodol o achosion felly. Dwi hefyd yn gwybod mai mater i lywodraethwyr ydi penodi staff, nid mater i gynghorau. Mae'r pwerau i benodi staff wedi eu datganoli i ysgolion unigol ers degawdau. Byddai'n anghyfreithlon i gyngor sir geisio cymryd y pwerau hynny.
Dwi wedi beirniadu arddull sgwennu Gwilym ar gychwyn y blogiad yma - ond cyn ei fod o yn cael dweud yr hyn mae ei eisiau trwy'r ddyfais o fframio ei honiadau ar ffurf cwestiwn ym mhob erthygl mi wnaf i hynny unwaith mewn blogiad.
Pam bod Gwilym mewn erthygl ar ol erthygl yn beirniadu ymrwymiad i'r Gymraeg yr unig awdurdod lleol sy 'n ei defnyddio fel iaith weinyddol, a sydd a'i holl weithlu bron yn siarad y Gymraeg tra'n anwybyddu'r 21 awdurdod arall sy'n gwneud ychydig neu ddim defnydd o'r iaith ar lefelau gweinyddol a rheolaethol?
Pam nad ydi Gwilym yn teimlo unrhyw angen i dynnu sylw at ddiffyg darpariaeth Cymraeg yr 11 awdurdod lleol sy'n cael eu rhedeg gan y Blaid Lafur?
Os ydi Gwilym yn credu bod gwneud defnydd o'r Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus yn bwysig, pam nad oes ganddo air i'w ddweud pan mae gwleidyddion Llafur yn honni bod cynnig darpariaeth felly yn ymylu ar hiliaeth.
Ag ystyried yr uchod onid yw'n rhesymol cymryd nad oes gan Gwilym y mymryn lleiaf o ddiddordeb mewn hyrwyddo a chynnal y Gymraeg mewn gwirionedd, ond bod ganddo pob diddordeb mewn gwneud defnydd sinigaidd ohoni i ymosod ar yr unig blaid sy'n rhoi bri i iddi - Plaid Cymru?
Ac yn olaf, os ydi Golwg yn benderfynol o gyflogi hen hac, Llafuraidd, chwerw a sinigaidd fel colofnydd rheolaidd, onid yw'n rhesymol disgwyl i bobl a safbwyntiau gwahanol gael mynegi'r safbwyntiau hynny o bryd i'w gilydd?
Dim ond gofyn.
6 comments:
Atgoffa fi o Glenn Beck
http://knowyourmeme.com/memes/glenn-beck-rape-murder-hoax
Fydd awdur BlogMenai ddim yn hapus tan iddo yntau hefyd gael colofn reolaidd mewn cyhoeddiad Cymraeg.
Nid yw hyn yn tanseilio'r ddadl ond mae'n debyg i Wynedd gyflogi - yn anuniongyrchol - nifer amgenach o weithwyr uniaith Saenseg ar sail is-gytundebau (er enghraifft ar gyfer dibenion IT a ballu) Mi fyddai'n ddiddorol i wybod faint o weithwyr felly (a faint o bres) sydd i'w cyfrif o dan amodau tebyg..
Anon 8.51 - ahem nid dyna sydd gen i - mae fy safbwyntiau fi yn cael eu cynrychioli yn amlach na pheidio gan olygydd y cylchgrawn. Ond mae yna lawer o safbwyntiau eraill yng Nghymru.
Mae safbwyntiau GO yn nodweddu rhai Llafur Gwynedd - safbwyntiau cul a hunan dosturiol sydd ddim yn nodweddu safbwyntiau Llafur gweddill Cymru.
Mae Golwg yn bapur cenedlaethol, ond mae'r safbwyntiau sy'n cael eu cynrychioli ganddo yn adlewyrchu gwleidyddiaeth unigryw Gwynedd. Mae hyn yn boncyrs.
Gwir pob gair... mae Gwilym Owen wedi ennill ei fara menyn drwy'r iaith Gymraeg. Fysa fo ddim yn para munud yn trio newyddiadura yn Saesneg ac eto mae'n hapus i fytheirio'n ddibendraw am y Sanhedrin mawr etc ad nauseam.
Rhesymau gwleidyddol sy tu cefn i'w ymosodiadau ddibendraw ar Gyngor Gwynedd. Cymharer y nifer o weithiau mae o wedi rhoi sylw, heb son am feirniadaeth, ar gynghorau Caerdydd, Caerfyrddin neu Penfro.
Pam protestio pan oedd y swyddfa yn wag beth bynnag ? Ac yn ail I Sian Gwenllian ymddiswyddo oherwydd polisi iaith - a be mae Plaid Cymru yn gwneud wedyn ? ia rhoi Cynghorydd arall Plaid Cymru yn y sedd yn ei lle. Stiwpid ta be.
Post a Comment